Llwybr hygyrch yng Nghastell Penrhyn a'r Ardd
Mae’r llwybr yma yn dangos i chi Castell Penrhyn a’r Ardd a’r golygfeydd arbennig o bob ochr. Mae’r llwybr yn addas ar gyfer ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio.
Cyfanswm y camau: 6
Cyfanswm y camau: 6
Man cychwyn
Maes parcio Castell Penrhyn, grid ref: SH603717
Cam 1
Gadewch y maes parcio drwy’r Ganolfan Groeso a dilynwch y llwybr yn syth ymlaen tuag at y ffordd tarmac. Yma, trowch i’r chwith i ffwrdd o’r castell lle byddwch yn cerdded o dan coetir cymysg bach a elwir yn Lwyn Pisgwydd.
Cam 2
Pan gyrhaeddwch fforch yn y ffordd, ewch i’r dde a dilynwch ffens ffin allanol y tir.
Cam 3
Dilynwch y llwybr gan gofio edrych i fyny tua’r dde i fwynhau golygfeydd o Dŵr y Castell a Charel y Llyfrgell. Byddwch yn mynd heibio’r Llethr Grug i’r dde a’r Glyn ar y chwith.
Cam 4
O’r fan yma, gallwch gael mynediad i’r Ardd Furiog. Mae mynediad hygyrch i’r ddau lefel yn yr ardd drwy’r llwybr tu allan i’r Ardd Furiog. I gyrraedd yr Ardd Orsiog, dilynwch y llwybr i’r chwith. Ar ôl cael cyfle i ddarganfod yr ardd sydd fel jwngwl, dewch yn ôl y ffordd aethoch chi mewn ac ar hyd y llwybr a drwy’r giât rhwng y llwyni ar eich chwith. Crwydrwch drwy’r Teras Top cyn mynd allan drwy’r giât pen arall i’r teras.
Cam 5
Trowch i’r chwith ar y llwybr graean a mynd trwy’r Rhodfa Rhododendron. Yn y gwanwyn a’r haf cynnar mae’r rhododendron a’r asaleas yn fôr o liw ac aroglau.
Cam 6
Dilynwch y llwybr ymlaen tuag at mynediad cwrt y stablau. O’r fan yma, ewch i’r chwith ar hyd y tarmac yn ôl tuag at lle cychwynnoch chi.
Man gorffen
Penrhyn Castle car park, grid ref: SH603717
Map llwybr
Cysylltwch
You might be interested in
Ymweld â Chastell Penrhyn
Mae tu allan y castell yn cuddio tu mewn a addurnwyd yn oludog a chartref yr oedd gan y teulu Pennant feddwl mawr ohono. Dysgwch am rai o’r ystafelloedd rhyfeddol.
Hanes Castell Penrhyn a'r Ardd
Castell Penrhyn oedd cartref y teulu Pennant, ac fe’i adeiladwyd ar sail elw’r diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru a’r planhigfeydd siwgr yn Jamaica.
Bwyta a siopa yng Nghastell Penrhyn
Dewch i Gaffi’r Castell am ginio blasus ac amrywiaeth o gacennau. Mae’r siop yn cynnig anrhegion lleol neu porwch yn y siop lyfrau ail-law am fargen.