Gwneud rhodd
Mae pawb angen natur, nawr yn fwy nag erioed. Rhowch heddiw ac fe allech helpu pobl a natur i ffynnu yn y lleoedd dan ein gofal.
Mae Rhosili ac Arfordir De Gŵyr yn gartref i ardaloedd y Weryn a’r Vile, enwau hanesyddol sydd wedi cael eu defnyddio ers blynyddoedd maith. Dysgwch fwy am darddiad yr enwau a gwybodaeth ddiddorol arall am y darn garw a hanesyddol hwn o arfordir.
Mae’r enw Y Weryn (neu ‘The Worm’ yn Saesneg) yn dod o’r gair Llychlynnaidd ‘Wurme’. Yr ystyr yw draig neu sarff. Roedd y Llychlynwyr yn credu mai draig gwsg oedd yr ynys, oherwydd ei siâp, yn codi o’r dyfroedd fel anghenfil chwedlonol.
Pentir y Weryn yw pwynt mwyaf gorllewinol Penrhyn Gŵyr. Enw’r pen pellaf yw Ynys Weryn. Mae’n cynnwys ynys fechan a sarn greigiog. Pan fo’r llanw’n uchel mae Ynys Weryn wedi’i gwahanu’n llwyr oddi wrth y tir mawr.
Roedd Ynys Weryn yn cael ei defnyddio i bori defaid ers talwm. Roedd y cig o’r ardal hon yn boblogaidd iawn – roedd yn dyner iawn gan fod y creaduriaid yn bwyta cymaint o laswellt hallt.
Mae llwybr heriol yn arwain at y Weryn, ond rhaid cynllunio eich taith yn ôl yr amseroedd llanw lleol i osgoi cael eich ynysu. Mae llawer o bobl wedi boddi yn ceisio nofio yn ôl i’r tir mawr. Mae twll chwythu wedi’i leoli tua diwedd y daith gerdded, a gallwch ei weld o’r pentref mewn tywydd garw.
Mae caer o’r Oes Haearn i’w gweld hefyd ger ymyl y clogwyn. Cadwch olwg am heidiau o adar môr yn hedfan tuag at y bwa naturiol – Pont y Diafol.
Mae’r ‘Vile’ ar bentir wrth ben deheuol y traeth. Mae’r enw’n deillio o hen derm yn y Gŵyr am ‘gae’. Tirwedd amaethyddol gymhleth sydd yma, wedi’i rhannu’n lleiniau sydd wedi’u gwahanu gan ffiniau isel yn hytrach na llwyni.
Cyflwynodd y Normaniaid y system ffermio hon ar draws y wlad yn y 12fed ganrif. Am ganrifoedd lawer, ni newidiodd tirwedd y Vile.
Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, newidiodd technegau ffermio yn sylweddol, gan ddod yn fwy soffistigedig. Mae arferion amaethyddol modern yn ffafrio darnau mwy o dir; cafodd y ffiniau eu tynnu i lawr, a thrawsnewidiwyd golwg y dirwedd.
Ein huchelgais yw i adfer y ffiniau hanesyddol i sicrhau na chaiff y Vile ei cholli fel cynifer o gaeau lleiniog tebyg eraill.
Yn ystod arolygon a theithiau cerdded archeolegol, rydym wedi dod o hyd i naddion fflint cynhanesyddol a thalpiau trwsio potiau canoloesol. Un o’r darganfyddiadau mwyaf cyffrous oedd tocyn caru arian.
Byddwn yn parhau â’r ymchwiliadau archeolegol drwy gymryd samplau paill craidd er mwyn deall pa gnydau a dyfwyd a dysgu mwy am yr amgylchedd naturiol hanesyddol.
Mae’r llanw nerthol a’r traethellau symudol wedi dryllio sawl llong yn yr ardal. Mae gweddillion yr Helvetia i’w gweld o hyd ar draeth Rhosili pan fo’r môr ar drai.
Roedd y llong Nordig wedi hwylio o Horten yn Norwy. Roedd ei llwyth o bren ar ei ffordd i harbwr Abertawe. Gwthiwyd y llong tuag at fae Rhosili gan stormydd ym 1887. Yn ffodus, goroesodd y capten a’r criw, ond golchwyd y cargo dros y traeth.
Mae Siop a Chanolfan Ymwelwyr Rhosili yn un o hen fythynnod gwylwyr y glannau sy’n edrych dros y bae. Hen dŷ Swyddog yr Orsaf oedd rhif un Coastguard Cottage, ac fe’i hadeiladwyd ym 1928.
Adeiladwyd gwylfa gwylwyr y glannau, ym mhen pellaf y Vile, yn oes Fictoria, ac mae bellach yn cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr.
Mae pawb angen natur, nawr yn fwy nag erioed. Rhowch heddiw ac fe allech helpu pobl a natur i ffynnu yn y lleoedd dan ein gofal.
Ardal arbennig ar gyfer cerdded yr arfordir, gwneud campau dŵr a gwylio bywyd gwyllt. Gyda 3 milltir o dywod, mae digon o le i’r teulu cyfan chwarae yn y tywod neu hedfan barcud.
Bae Rhosili, Penrhyn Gŵyr, yw lleoliad un o’n siopau mwyaf arbennig. Gyda golygfeydd godidog o 3 milltir o dywod euraid, mae’n wirioneddol unigryw. Ac mae digonedd o ddanteithion lleol i’w mwynhau. Mae gennym hefyd lond y lle o eitemau defnyddiol i’ch helpu i wneud y gorau o’ch dydd.