![Ymwelydd yn eistedd gyda’i chefn at y camera yn edrych allan ar yr olygfa o’r bae yn Rhosili ac Arfordir De Gŵyr, Cymru, i lawr y clogwyn at draeth tywodlyd gyda moroedd glas clir y tu hwnt ac awyr las heulog yn y pellter.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/rhosili-and-south-gower-coast/library/visitor-view-of-bay-rhosili-south-gower-coast-wales-1504652.jpg?auto=webp&width=767&crop=16:9&dpr=2 2x)
Darganfyddwch fwy yn Rhosili ac Arfordir De Gŵyr
Dysgwch sut i gyrraedd Rhosili ac Arfordir De Gŵyr, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mae Siop a Chanolfan Ymwelwyr Rhosili yn un o hen fythynnod gwylwyr y glannau, sy’n edrych dros y bae. Mae’r olygfa’n newid o eiliad i eiliad, ac mae’r 3 milltir o dywod yn wledd i’r llygaid. Mae’r siop yn cynnig amrywiaeth eang o roddion, a gall y staff roi gwybodaeth leol i chi ar gyfer eich ymweliad.
Os ydych chi wedi anghofio rhywbeth, ry’n ni yma i chi, boed law neu hindda – o eli neu sbectol haul i got neu ddillad glaw. Mae gennym ddanteithion i’ch temtio hefyd. Fe welwch bopeth sydd ei angen arnoch yma i wneud y gorau o’ch ymweliad â Rhosili.
Beth am rywbeth bach i gofio’ch ymweliad neu anrheg i’ch anwyliaid gartref? Mae pob ceiniog sy’n cael ei gwario yn y siop yn ein helpu i ofalu am Benrhyn Gŵyr, nawr ac yn y dyfodol.
Gall ein tîm cyfeillgar yn y siop eich helpu i wneud y gorau o’ch diwrnod drwy roi gwybodaeth i chi am y llwybrau a’r golygfeydd gorau a’n bywyd gwyllt lleol.
Holwch am weithgareddau’r ‘50 Peth’ hefyd, neu beth am gymryd rhan yn ein gweithgareddau geo-gelcio? Ac, yn goron ar ddiwrnod i’r brenin, cofiwch alw yn y Siop a’r Ganolfan Ymwelwyr.
Diolch i’ch ceiniogau a’ch cefnogaeth chi y gallwn barhau i ofalu am natur, harddwch a hanes i bawb, am byth.
Dysgwch sut i gyrraedd Rhosili ac Arfordir De Gŵyr, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Ardal arbennig ar gyfer cerdded yr arfordir, gwneud campau dŵr a gwylio bywyd gwyllt. Gyda 3 milltir o dywod, mae digon o le i’r teulu cyfan chwarae yn y tywod neu hedfan barcud.
Tirwedd hynafol yw Rhosili ac arfordir De Gŵyr. Mae’r rhan fwyaf o ymwelwyr yn dod i fwynhau’r traeth a’r golygfeydd ysgubol, ond o dan ein traed mae tir hynafol, hanesyddol a thrysorau i’w darganfod.