Daeth Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ynghyd â phartneriaid i sefydlu gardd gymunedol yng Nghastell a Gardd Powis
Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru a Phonthafren, elusen sydd â chanolfannau yn y Trallwng a'r Drenewydd, yn cydweithio i sefydlu gardd gymunedol ymhellach. Wedi’i sefydlu ar dir Castell a Gardd Powis, mae’r ardd yn lle hanfodol i’w defnyddwyr gwasanaethau ganolbwyntio ar eu llesiant a chysylltu â natur.
Wedi’i sefydlu’n wreiddiol yn 2021 er mwyn mynd i’r afael ag unigrwydd ar ôl y Pandemig Covid-19, mae Ponthafren, Elusen Iechyd Meddwl a Llesiant sy’n cefnogi unigolion ledled Powys, yn ymweld â’r ardd gymunedol bob wythnos.
Mae Ponthafren yn cynnig gwasanaeth cynhwysfawr sy’n hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol ac sy’n gweithredu’r pum ffordd at lesiant. Mae’r ardd yn lle i ymgasglu, tyfu llysiau, ffrwythau, a blodau, dysgu sgiliau newydd, a threulio amser ym myd natur.
Cafodd Ponthafren a’u defnyddwyr gwasanaeth gwmni tiwtor o elusen Tir Coed yr wythnos diwethaf, sef elusen sy’n cysylltu pobl â thir a choed drwy gyflwyno rhaglenni hyfforddiant, dysgu a llesiant awyr agored ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys, er mwyn datblygu’r ardal.
Daeth y grwpiau ynghyd i adeiladu blychau plannu gyda phren wedi’i roi am ddim gan gwmni pren lleol, Lowfield Timber Frames Limited, er mwyn i ddefnyddwyr yr ardd dyfu llysiau, perlysiau a phlanhigion eraill. Cafodd y compost a phlanhigion eu rhoi am ddim gan Debbie Gates, Hyrwyddwr Cymunedol o Morrisons, y Trallwng. Defnyddiwyd planhigion wedi’u tyfu gan Dîm Gardd Castell Powis hefyd i lenwi’r blychau plannu.
Mae Ponthafren yn bwriadu gwerthu bwyd sy’n cael ei dyfu yn yr ardd i aelodau o’r gymuned leol, er mwyn codi arian ar gyfer ymgymryd â gwelliannau pellach i’r ardd.
Dywedodd Alison Dunne, Uwch Swyddog Gwirfoddoli a Chymuned yng Nghastell a Gardd Powis:
“Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i bawb, am byth, ac mae'n bleser cefnogi llesiant ein cymuned leol, a gweithio i sicrhau bod croeso cynnes i bawb, a bod pawb yn cael budd o’r lle arbennig hwn.
“Mae’n wych gweld cyn nifer o bobl yn mwynhau’r ardd, a hoffwn ddiolch o galon i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y broses o adfywio’r ardal, yn arbennig Ponthafren, eu defnyddwyr gwasanaethau a Tir Coed. Rydym wir yn edrych ymlaen at wylio’r ardd yn tyfu a mynd o nerth i nerth.”
Dywedodd Katie Jones, Hwylusydd Cynhwysiant elusen Ponthafren:
“Mae ein defnyddwyr gwasanaethau wir yn gwerthfawrogi’r lle mae Castell Powis wedi'i roi i’r grŵp. Mae’n wych gweithio gydag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru er mwyn cynnig lle i bobl leol sy’n cefnogi iechyd meddwl cadarnhaol a llesiant, ac rydym yn hynod ddiolchgar i sefydliadau ac elusennau lleol eraill am eu cymorth a'u rhoddion.
“Mae cwrdd yn wythnosol yn rhoi cyfle i’r grŵp weithio yn yr ardd a threulio amser ym myd natur, yn ogystal â lle i gymdeithasu gyda’i gilydd, meithrin cyfeillgarwch newydd, a chefnogi ei gilydd. Mae’r grŵp garddio hwn, a’n grŵp partner yn y Drenewydd, bob amser yn croesawu aelodau newydd, felly rydym yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan i gysylltu â ni.”
Mae grwpiau garddio Ponthafren yn y Trallwng a’r Drenewydd yn croesawu aelodau newydd. I ymuno â naill grŵp neu’r llall, cysylltwch ag elusen Ponthafren drwy ffonio 01686 621586 neu anfon e-bost at admin@ponthafren.org.uk.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
Ymweld â’r ardd yng Nghastell Powis
Yn dyddio’n ôl 300 mlynedd, mae’r ardd o’r safon uchaf yn llawn o hanes. Welwch gymysgedd o derasau dramatig, borderi blodau , tocwaith anhygoel a golygfeydd rhyfeddol.
Gwirfoddoli yng Nghastell Powis
Yn chwilio am ffordd wych o dreulio eich amser sbâr, cyfarfod pobl newydd, a gwneud gwahaniaeth? Dysgwch ragor am gyfleoedd i wirfoddoli yng Nghastell Powis yng Nghymru.