
Darganfyddwch fwy yng Nghastell a Gardd Powis
Dysgwch pryd mae Castell a Gardd Powis ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mae Cymru’n enwog am ei thirwedd a’i chestyll hynafol ond yn llai adnabyddus am ei gerddi hardd. Yn ymestyn dan y castell canoloesol mae un o’r gerddi gorau ym Mhrydain. Gyda therasau dramatig, Orendy, gardd Edwardaidd ffurfiol a gardd goediog heddychlon mae cymaint o amrywiaeth i grwydro trwyddo.
Yn y Gwanwyn, daw gerddi godidog Castell Powis yn fyw. Gyda thywydd cynhesach o fewn cyrraedd, ac wrth inni groesawu’r bywyd gwyllt annwyl yn ôl, cewch weld fflach o liw rownd pob cornel.
Dewch i archwilio gardd deras fyd-enwog wrth i ffefrynnau’r gwanwyn ei hadfywio drachefn. O’r cennin Pedr Cymreig enwog a’r coed blodeuol bendigedig i’r wisteria wych a’r briallu dail crych.
Ymgollwch yn hanesion a harddwch Ystafelloedd Swyddogol y castell hwn, sydd i’w olrhain i’r drydedd ganrif ar ddeg. Mae’r adeilad wedi’i addurno’n goeth gyda phaentiadau, tapestrïau a cherfluniau. Dewch i ddarganfod yr oes o’r blaen, yn ogystal â hanesion am gariad a thrasiedi a thrysorau rhyfeddol o bedwar ban byd.
I’r rhai sy’n hoff o antur, crwydrwch o amgylch y coetiroedd i chwilio am y dreigiau cerfiedig sy’n swatio yn y coed. Bydd y creaduriaid cywrain hyn, sydd wedi’u cerfio o bren, yn siŵr o ychwanegu rhywfaint o hud at eich ymweliad.
A pheidiwch ag anghofio nôl eich Llwybr mewn Bag, sef gweithgaredd awyr agored i bawb o bob oed. Mae’r gweithgaredd hwn yn berffaith i deuluoedd, a bydd yn eich tywys trwy’r gerddi wrth ichi archwilio hanes, natur a thrysorau cudd ystad Castell Powis.
Mae’r cennin Pedr Cymreig enwog yn blodeuo’n gynnar, gan weddnewid y cae a’i droi’n garped melyn trawiadol. Mae’r goeden magnolia wastad yn werth ei gweld, gyda’i blodau pinc a gwyn siâp gobled. Wrth droedio ar hyd yr Adardy, cewch weld y wisteria’n siglo yn y gwynt; ac wrth fynd i mewn i’r Ardd Edwardaidd Ffurfiol, bydd blodau pinc ein coed afalau yn siŵr o’ch cyfareddu.
Plannwyd y coed afalau gan y Fonesig Violet, Iarlles Powis, gannoedd o flynyddoedd yn ôl. Ei chenhadaeth oedd sicrhau y byddai Castell Powis ymhlith y gerddi harddaf – os nad yr harddaf un – yng Nghymru a Lloegr. Mae Gardd Edwardaidd Violet, lle ceir lawnt groce, borderi blodeuol a choed ffrwythau a gaiff eu tocio’n ofalus, yn un o uchafbwyntiau ein gardd hyd heddiw.
Mae modd gweld coed blodeuol y llain wyllt mor bell yn ôl â’r terasau. Mae blodau gwyn a phinc llachar y coed ceirios a’r magnolia campbellii yn wirioneddol odidog. Wrth i’r petalau syrthio, caiff llawr y goedwig ei drawsnewid yn garped pinc a gwyn.
Mae’r coed afalau yn yr Ardd Ffurfiol yn hen ffefryn ymhlith ein hymwelwyr. Mae’r coed afalau hyn, a blannwyd o boptu’r llwybrau gan y Fonesig Violet gannoedd o flynyddoedd yn ôl, yn dal i ddwyn ffrwyth hyd heddiw. Pan ddaw’r petalau pinc a gwyn i’r golwg, gallwch fod yn siŵr bod y gwanwyn ar ddod.
Dewch i ddathlu yng Nghastell Powis gyda’n bathodyn pin smart sydd ar gael am gyfnod cyfyngedig yn unig. Mae’r bathodyn hwn ar ffurf Clivia miniata, sef planhigyn hynod hardd y gellir ei weld yn blodeuo yn yr Orendy yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf. Enwyd y Clivia ym 1828 gan y botanegydd John Lindley er anrhydedd i Charlotte Percy, Duges Northumberland. Roedd Charlotte yn fotanegydd brwd, a hi oedd y person cyntaf ym Mhrydain a lwyddodd i ddwyn blodau ar blanhigyn Clivia. Mae’r bathodyn unigryw hwn yn ffordd berffaith o gofio eich ymweliad a mynd â darn o hanes botanegol Castell Powys adref gyda chi.
Mae gennym deithiau cerdded ar gyfer y rhai sy’n dymuno gweld pob dim, neu deithiau eraill ar gyfer teuluoedd â phramiau neu gadeiriau olwyn sy’n awyddus i beidio â chrwydro’n rhy bell. Os na allwch deithio ymhell o gwbl, beth am werthfawrogi’r ardd o’r Cwrt, gan wrando ar yr adar yn canu wrth ichi fwynhau paned o de yng Nghaffi’r Cwrt. Ceir mannau perffaith i gael picnic, ynghyd â meinciau lle gallwch oedi ac edmygu’r harddwch o’ch cwmpas. Peidiwch â cholli’r canlynol:
• Coed afalau a blannwyd o boptu’r llwybrau gannoedd o flynyddoedd yn ôl, gyda blodau mân yn eu haddurno.
• Y terasau – wisteria’n blodeuo ar Deras yr Adardy. Mae’r goeden hon dros 300 o flynyddoedd oed ac mae’n cyfareddu ein hymwelwyr bob blwyddyn – mae’n berffaith ar gyfer grid Instagram. Hefyd, llu o diwlipau amryliw mewn cafnau ar Deras yr Orendy.
• Y llain wyllt – o goed blodeuol bendigedig yn nechrau’r gwanwyn i’r rhododendronau gwych ddiwedd mis Mai.
• Cae’r cennin Pedr – peidiwch â cholli’r cennin Pedr Cymreig wrth iddynt weddnewid y lawnt wag a chreu arddangosfa felyn drawiadol.
Islaw’r castell mae’r Terasau Eidalaidd, a gafodd eu creu o’r graig noeth sy’n cael eu hystyried yr enghraifft orau o ardd deras o’r 17eg ganrif ym Mhrydain.
O’u lleoliad uchel ar ochr y bryn gallwch fwynhau golygfeydd godidog ar draws yr ardd, y parc ceirw, ac yn y pellter mae copaon y Mynydd Hir a Bryniau Breidden.
Dewch i edmygu’r borderi trawiadol sy’n llawn planhigion lluosflwydd, y cerfluniau plwm a charreg o ddawnswyr, yr Adardy a fu’n gartref i adar ysglyfaethus ar un adeg, ac Orendy gyda phorth carreg crand o’r 18fed ganrif a fu’n fynedfa i’r castell ei hun yn y gorffennol.
Gardd lysiau oedd yr ardal hon yn wreiddiol ond yn 1912 cafodd ei thrawsnewid yn ardd flodau ffurfiol gan Violet, Iarlles Powis.
Yma gallwch grwydro rhwng rhodfeydd o goed afalau hynafol, cysgodi o dan fwa’r winwydden, edmygu’r lliwiau tymhorol ac ymlacio wrth wrando ar sŵn y dŵr yng Ngardd y Ffownten gerllaw.
Pa un a ydych yn arddwr brwd sy’n dymuno cael ambell awgrym, neu’n rhywun sy’n hoffi bod allan yn yr awyr agored, fe fydd y daith hon trwy’r ardd yn berffaith i chi. Os ydych yn llawn cyffro ynglŷn â dyfodiad y gwanwyn, beth am fynd ar daith ‘y tu ôl i’r llenni’ trwy’r ardd i roi dechrau da i’r tymor. Bydd y teithiau’n cael eu cynnal ar 19 a 26 Mawrth.
Ymunwch ag un o’r Garddwyr talentog i gymryd rhan mewn taith a sgwrs arbennig i ddarganfod beth yn union y mae angen ei wneud i adfywio un o erddi gorau’r wlad ar ôl y gaeaf.
O’r cennin Pedr Cymreig enwog a’r coed blodeuol bendigedig i’r wisteria wych a’r briallu dail crych, mae’r gwanwyn yn gyfnod llawn gobaith a lliw. Bydd y daith hon yn cynnig cipolwg ar y gwaith caled a wneir y tu ôl i’r llenni a bydd yn siŵr o ysbrydoli’r ‘garddwr’ sy’n llechu o’ch mewn.
Mae’r pris yn cynnwys cinio blasus yng Nghaffi’r Cwrt. Cewch fwynhau powlen o gawl cartref cynhesol gyda sgon gaws, diod boeth a thamaid o gacen. Dewch â chyfeillion gyda chi neu dewch ar eich pen eich hun – ond peidiwch â cholli’r cyfle unigryw hwn. Rydym yn eich annog i drefnu lle ymlaen llaw gan mai nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael.
Yng Ngardd y Ffownten gallwch edmygu’r tocwaith ar y coed a’r gwrychoedd. Edrychwch ar eu cysgodion hir ar draws y glaswellt yng ngolau isel y prynhawn.
Chwiliwch am y giatiau haearn bwrw, rhodd gan yr Arglwyddes Violet i’w gŵr George, 4ydd Iarll Powis, sy’n arddangos arfbais fywiog y teulu Herbert o eliffant a griffwn yn cadw llygad ar yr ardd.
Mae’n amhosibl osgoi un o nodweddion enwocaf Powis, y gwrychoedd ywen 300 oed. Gallwch weld eu llwyni siâp cymylau wrth edrych i gyfeiriad y castell o bob rhan o’r ardd, bydd yr 14 o lwyni anferth a’r gwrych 30 troedfedd o uchder yn aros yn y cof am amser maith ar ôl eich ymweliad.
Y Gwyllt yw enw’r bryncyn coediog gyferbyn â’r castell. Mae’r ardal hon yn fwy anffurfiol na gweddill yr ardd ac mae’n lle delfrydol i fynd am dro drwy’r coed gyda golygfeydd anhygoel.
Cerddwch wrth ymyl y coed derw mawr, rhododendron a choed egsotig. Oedwch wrth Bwll y Stabl, y Tŷ Rhew neu’r Pwll Plymio sydd wedi’i amgylchu gan redyn. Yma gallwch ddarganfod cerfluniau unigryw, ac edmygu’r olygfa o’r castell ar draws y Lawnt Fawr.
Dysgwch pryd mae Castell a Gardd Powis ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Crwydrwch baradwys o ardd yng Nghymru, gyda 300 mlynedd o drawsnewid gardd yn cynnig haenau lawer o hanes i’w harchwilio.
Mae gan Gastell a Gardd Powis sgôr o un bawen. Dysgwch ragor am ddod â’ch ci i Gastell a Gardd Powis. Gallwch aros yn y Cwrt i weld y castell a chael diod a thamaid i’w fwyta hefo’ch ci wrth eich ochr. Dysgwch yr ardd 1 Tachwedd - 28 Chwefror.
Ar ôl crwydro’r castell neu deithio trwy’r terasau, dadebrwch gydag un o’r danteithion blasus o Fwyty’r Cwrt, neu ewch ag anrheg adref o’r siop i’ch helpu i gofio diwrnod gwych.
Castell Cymreig yw Powis a adeiladwyd gan dywysog Cymreig, Gruffudd ap Gwenwynwyn (tua 1252). Goroesodd ryfeloedd a’i rannu i ddod yn un o gestyll amlycaf Cymru.