Darganfyddwch fwy yng Nghastell a Gardd Powis
Dysgwch pryd mae Castell a Gardd Powis ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Os ydych chi’n dod â’ch ci i Gastell a Gardd Powis, mae’n bwysig gwybod pryd a ble y gallwch chi ymweld ymlaen llaw. Dysgwch am y lle y gallwch aros am rhywbeth i’w fwyta gyda’ch cyfaill ar bedair coes, a’r adegau tawelach o’r flwyddyn y mae’r ardd ar agor i gŵn sydd am ymweld.
Rydym wedi bod yn gweithio’n galed i’w gwneud hi’n haws i chi wybod pa mor groesawgar fydd eich ymweliad i chi a’ch ci cyn i chi gyrraedd. I helpu gyda hyn, rydym wedi creu system sgorio pawennau newydd, a rhoi sgôr i’n holl leoliadau. Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth hon yn llyfryn aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mae gan Gastell a Gardd Powis sgôr o un bawen.
Mae croeso i gŵn yma, ond mae’r cyfleusterau’n gyfyngedig. Gallant ymestyn eu coesau yn y maes parcio a cherdded yn y mannau agored gerllaw, yn dibynnu ar y tymor. Darllenwch ‘mlaen i weld ble yn union gallwch chi fynd â’ch ci.
Mae croeso i gŵn a’u perchenogion gofalus i grwydro erwau o ardd sy’n cael ei chadw’n berffaith yn ystod misoedd y gaeaf.
O fis 1 Tachwedd Medi i fis 28 Chwefror gallwch chi a’ch ci grwydro’r coetir ffurfiol, ymlwybro trwy’r ardd Edwardaidd, neu chwilio am fan tawel ar y Terasau Eidalaidd i edmygu’r golygfeydd eang dros ddyffryn Hafren.
Cyfyngir yr holl fannau dan do i gŵn cymorth yn unig.
Er lles eich ci ac ymwelwyr eraill, os gwelwch yn dda, peidiwch â chlymu eich ci a’i adael ar ei ben ei hun. Os oes angen cymorth arnoch, mae croeso i chi ofyn am help.
Sbwyliwch eich hun hefo diod a thamaid o gacen yn ystod eich ymweliad. Mae digonedd o fyrddau tu allan ym Mwyty’r Cwrt. Yno gallwch fwynhau eich pryd gyda’ch ci gan edmygu golygfa hardd o’r castell.
O fis Mawrth i fis Hydref mae croeso i gŵn yn y maes parcio ac yn y prif gwrt. Yma fe welwch chi fyrddau lle gallwch chi a’ch ci fwynhau lluniaeth o Fwyty’r Cwrt.
Yn anffodus ni all cŵn ddod i’r ardd yn ystod y misoedd prysurach. Os nad ydych yn sicr, siaradwch gyda’r tîm croesawu ymwelwyr.
Cofiwch nad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw perchennog yr ystâd ehangach a’r parc ceirw a gofynnwn i chi barchu dymuniadau’r perchennog tir a chadw eich ci oddi ar eu tir.
Mae ein diffiniad o reolaeth agos neu effeithiol fel a ganlyn:
Rydym wedi gweithio gyda’n partner Forthglade i lunio’r cod cŵn hwn, sy’n helpu i sicrhau y gall pawb fwynhau eu diwrnod:
Dysgwch pryd mae Castell a Gardd Powis ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Rydym wedi ffurfio partneriaeth â’r gwneuthurwr bwyd anifeiliaid anwes naturiol, Forthglade fel y gallwch chi a’ch ci gael mwy fyth allan o’r lleoedd arbennig sydd dan ein gofal.
O’r mynyddoedd a’r traeth, i erddi a pharcdiroedd, gallwch ganfod llwybr cerdded cŵn yng Nghymru y byddwch chi, a’ch cyfaill pedair coes, yn ei wir fwynhau. Dyma eich canllaw ar gyfer rhai o’r lleoliadau gorau yng Nghymru i ymweld â nhw gyda chŵn.
Ar ôl crwydro’r castell neu deithio trwy’r terasau, dadebrwch gydag un o’r danteithion blasus o Fwyty’r Cwrt, neu ewch ag anrheg adref o’r siop i’ch helpu i gofio diwrnod gwych.
Yn dyddio’n ôl 300 mlynedd, mae’r ardd o’r safon uchaf yn llawn o hanes. Welwch gymysgedd o derasau dramatig, borderi blodau , tocwaith anhygoel a golygfeydd rhyfeddol.
Castell Cymreig yw Powis a adeiladwyd gan dywysog Cymreig, Gruffudd ap Gwenwynwyn (tua 1252). Goroesodd ryfeloedd a’i rannu i ddod yn un o gestyll amlycaf Cymru.
Dewch i ymweld i ddysgu rhagor am y casgliadau byd-eang ym Mhowis, gan gynnwys cerfluniau, dodrefn a thecstilau o Ewrop, India a Dwyrain Asia.
Os ydych chi’n dod â’ch ci i’r llefydd rydym yn gofalu amdanynt, darllenwch y Cod Cŵn a dysgwch am y System Sgorio Pawennau i’ch helpu i gynllunio eich ymweliad. (Saesneg yn unig)
Wrth i’r aer oeri, daw’r ardd, y coetir a’r terasau yng Nghastell Powis yn fyw o liwiau’r hydref. Mwynhewch y dail yn crensian ac aroglau’r coed afalau ar y daith gerdded hawdd hon.
Dewch i archwilio haenau hanes yng ngardd Castell Powis ar y daith gerdded rwydd hon. Byddwch yn ymlwybro ar hyd terasau Eidalaidd, o gwmpas yr ardd ffurfiol a thrwy goetir y Gwyllt, cyn rhoi cwpaned braf o de yn wobr i chi eich hun.