
Taith gerdded hanesyddol Castell Powis
Grwydro Powis ar y llwybr cerdded hardd hwn. Ymlwybrwch ar hyd terasau Eidalaidd, o gwmpas yr ardd ffurfiol a thrwy goetir y Gwyllt. Mae digon o fannau i chi orffwys ar hyd y ffordd, a gallwch gael diod boeth a thamaid o gacen fel gwobr ym Mwyty’r Cwrt ar y diwedd.
Angen tocyn mynediad
Er mwyn dod i mewn i’r ardd, bydd angen i chi gasglu tocyn mynediad o’r Swyddfa Docynnau ym Mhowis.
Cyfanswm y camau: 6
Cyfanswm y camau: 6
Man cychwyn
Ciosg Gardd Castell Powis, cyfeirnod grid: SJ2152106369
Cam 1
Casglwch eich tocyn mynediad o’r swyddfa docynnau ac ewch i mewn i’r ardd. Dilynwch y llwybr, gan droi i’r chwith ar y pen. Ewch ymlaen ar y llwybr hwn ar y Teras Uchaf sy’n cynnig golygfeydd gwych ar draws yr ardd, Dyffryn Hafren a Bryn Breiddin.
Cam 2
Ar ben y teras, ewch i lawr y grisiau ar y dde i chi i Deras y Tŷ Adar. Gofalwch sylwi ar y cerfluniau o’r 18fed Ganrif o fugeiliaid yn dawnsio sy’n addurno’r balwstrad cyn mynd i lawr y grisiau nesaf i Deras yr Orendy. Ar y gwaelod, dilynwch y llwybr ar y chwith sy’n eich arwain trwy’r gwrych yw anferth.

Cam 3
Daliwch i fynd ar hyd y llwybr sy’n mynd ar i lawr rhwng dau wrych yw. Ar y gwaelod, trowch i’r chwith i’r Ardd Ffurfiol. Dilynwch y llwybr yn syth ymlaen, yna trowch i’r dde ar ben draw’r llwybr. Bydd hyn yn eich arwain heibio ein cartref gwyliau Y Bwthyn, adeilad du a gwyn ffrâm bren oedd yn gartref i arddwyr Powis yn y cyfnod Edwardaidd. Daliwch i fynd ar hyd y llwybr gan edmygu’r coed afalau 100 mlwydd oed wrth i chi fynd heibio iddyn nhw. Trowch i’r dde ac yna i’r dde eto i gwblhau eich taith o gwmpas yr ardd ffurfiol.
Cam 4
Wrth i chi adael yr ardd ffurfiol, trowch i’r chwith i ddilyn y llwybr syth rhwng dau wrych pren bocs tal. Ar y pen, trowch i’r dde ac yna i’r chwith yn union wedyn. Ar y dde fe welwch risiau bas fydd yn eich arwain i’r Gwyllt, coetir ffurfiol Powis. Ewch ymlaen ar hyd y llwybr hwn, gan aros yn y llannerch ar y dde i edmygu’r olygfa hardd o’r castell, terasau a’r Lawnt Fawr.
Cam 5
Daliwch i fynd hyd y llwybr, gan droi i’r dde yn y fforch. Dilynwch y llwybr hwn trwy goetir y Gwyllt, gan sylwi ar y golygfeydd o’r castell wrth fynd.
Cam 6
Wrth i chi gyrraedd Pwll y Stabl, ewch ymlaen gan gadw’r pwll ar y chwith i chi. Pan gyrhaeddwch chi’r groesffordd, cymrwch y llwybr mwyaf serth a fydd yn eich arwain yn ôl at y fynedfa i’r ardd. Ar ôl eich taith, mae croeso i chi wobrwyo chi eich hun gyda bwyd poeth a diod o Fwyty’r Cwrt.
Man gorffen
Ciosg Gardd Castell Powis, cyfeirnod grid: SJ2152106369
Map llwybr

Mwy yn agos i’r man hwn

Castell a Gardd Powis
Darganfyddwch ardd restredig Gradd I a chastell canoloesol gyda chasgliad eang o arteffactau De Asiaidd yng Nghastell a Gardd Powis yng Nghanolbarth Cymru.

Taith hydref Castell Powis
Wrth i’r aer oeri, daw’r ardd, y coetir a’r terasau yng Nghastell Powis yn fyw o liwiau’r hydref. Mwynhewch y dail yn crensian ac aroglau’r coed afalau ar y daith gerdded hawdd hon.
Cysylltwch
Ein partneriaid

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Ymweld â’r ardd yng Nghastell Powis
Yn dyddio’n ôl 300 mlynedd, mae’r ardd o’r safon uchaf yn llawn o hanes. Welwch gymysgedd o derasau dramatig, borderi blodau , tocwaith anhygoel a golygfeydd rhyfeddol.

Bwyta a siopa yng Nghastell Powis
Ar ôl crwydro’r castell neu deithio trwy’r terasau, dadebrwch gydag un o’r danteithion blasus o Fwyty’r Cwrt, neu ewch ag anrheg adref o’r siop i’ch helpu i gofio diwrnod gwych.

Ymweld â Chastell a Gardd Powis gyda'ch ci
Mae gan Gastell a Gardd Powis sgôr o un bawen. Dysgwch ragor am ddod â’ch ci i Gastell a Gardd Powis. Gallwch aros yn y Cwrt i weld y castell a chael diod a thamaid i’w fwyta hefo’ch ci wrth eich ochr. Dysgwch yr ardd 1 Tachwedd - 28 Chwefror.

Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.