Skip to content

Y casgliad yng Nghastell Powis

Llun manwl o wyneb bwrdd Pietra Dura (carreg galed) a wnaed tua 1600 sy’n cael ei arddangos yn yr Oriel Hir yng Nghastell Powis yng Nghymru, yn dangos addurniadau carreg o liwiau gwahanol o gwmpas aderyn
Llun manwl o’r bwrdd Pietra Dura yn yr Oriel Hir yng Nghastell Powis yng Nghymru | © National Trust Images/John Hammond

Mae’r tîm yng Nghastell Powis yn gofalu am un o gasgliadau gorau’r byd o gelf a gwrthrychau hanesyddol. Dewch i ymweld â’r castell i gael gweld gweithiau celf eithriadol yn cynnwys peintiadau, cerfluniau, dodrefn a thecstilau o Ewrop, India a Dwyrain Asia. Mae rhai gwrthrychau wedi eu creu yn nes at adref hefyd.

Mae gan bob gwrthrych stori i’w hadrodd

Dysgwch am wyth o’n trysorau mwyaf diddorol isod. Maent yn siŵr o’ch helpu i ddeall beth sy’n gwneud Castell Powis mor arbennig. 

Bwrdd Pietre dure
Mae’r bwrdd Eidalaidd pietre dure mawr hwn yn dyddio’n ôl i tua 1580. Mae iddo wyneb marmor wedi ei addurno gyda lapis lazuli a gemau eraill lled-werthfawr. Edrychwch yn ofalus ar y cynllun ac fe welwch chi griciaid, malwod, adar a llawer mwy ynddo. Er bod campweithiau pietre dure eraill yn goroesi mewn casgliadau eraill ym Mhrydain, dyma’r unig un sy’n sefyll ar ei ffrâm a’i stand gwreiddiol o gyfnod y Dadeni, campwaith o bren cerfiedig wedi ei oreuro. Yn ôl traddodiad yn y teulu Herbert, rhodd gan y Pab oedd y bwrdd hwn, ac mae’r motifau perlau anarferol ar flaen y gwaelod yn awgrymu ei fod wedi ei wneud i’r teulu Peretti, teulu’r Pab Sixtus V.Dysgwch fwy (yn Saesneg yn unig)
Y deuddeg Cesar
Ein penddelwau Eidalaidd o ddiwedd y 17eg ganrif yw’r set gynharaf y gwyddon ni amdanyn nhw o’r Deuddeg Cesar yng ngwledydd Prydain. Maen nhw wedi bod yng Nghastell Powis ers o leiaf 1704 ac wedi eu gwneud o farmor Carrara a charreg iasbis. Mae pob delw yn pwyso tua 150kg felly roedd rhaid gwneud gwaith strwythurol sylweddol yn yr Oriel Hir i wneud yn siŵr y byddai’r llawr yn gallu dal eu pwysau am flynyddoedd i ddod.Porwch drwy’r casgliadau (yn Saesneg yn unig)
Cath Rufeinig
Dangosodd cerflunydd anhysbys allu eithriadol wrth greu’r cerflun byw hwn o gath y gellir ei weld yn yr Oriel Hir. Mae’r gath wedi dal neidr dan un bawen, ond mae wedi troi ei phen i ysgyrnygu ar ymosodwr sy’n dynesu, sydd yn bwriadu dwyn ei hysglyfaeth efallai. Roedd y gath farmor yma’n anrheg gan Robert Clive, Clive o India, i’w wraig Margaret oedd wedi gwirioni ar gathod. Fe’i prynodd yn ystod ei daith fawr yn Rhufain, ac yn ôl yr hanes fe ddywedodd wrth ei asiant i’w brynu ‘Coute qui coute' (beth bynnag y pris). Credid unwaith ei fod wedi ei wneud ar gyfer marchnad y daith fawr, ond mae’n debyg bod y cerflun hwn o farmor Groegaidd grisialaidd yn Rhufeinig (100 CC – 200 OC).Dysgwch fwy am y gath (yn Saesneg yn unig)
Peintiad olew o ‘View of Verona from the Ponte Nuovo’ gan Bernardo Bellotto yn dangos camlas lydan gydag adeiladau tal o’i gwmpas a gondolas ar y dŵr o 1745-47
Golygfa o Verona o’r Ponte Nuovo gan Bernardo Bellotto | © National Trust Images/John Hammond
Golygfa o Verona
Gan Bernardo Bellotto (tua 1745-7), nai a chynorthwyydd Canaletto y mae’r gampwaith syfrdanol hwn. Mae’n dangos golygfa o Verona, gan edrych i fyny’r Afon Adige, gyda Chastell San Pietro yn y pellter canol, y Palazzo della Seta wedi ei addurno gyda ffresgos o’r unfed ganrif ar bymtheg ar y dde, ac wedi angori yn yr afon mae melinau’n arnofio i falu ŷd. Prynwyd y paentiad gan Robert Clive (1725-1774), ‘Clive o India’, oedd wedi sicrhau cyfoeth anhygoel yn yr India trwy helpu i sicrhau hawliau Diwāni i Gwmni Dwyrain India yn 1765. Roedd hynny’n caniatáu iddo gasglu trethi ar gyfer Bengal, Bihar ac Orissa yn uniongyrchol gan drigolion lleol, a dynnodd ar arian awdurdodau lleol ac achosi tlodi cynyddol i’r trigolion cynhenid.Gwyboadaeth bellach (yn Saesneg yn unig)
Y Foneddiges Henrietta Herbert gan Joshua Reynolds
Cafodd llun y Foneddiges Henrietta Herbert, Iarlles Powis (1758-1830), yn yr Ystafell Dderw, ei beintio gan Syr Joshua Reynolds, artist portreadau enwocaf y 18fed ganrif. Mae engrafiad bach, a wnaed ychydig ar ôl i’r llun gael ei beintio yn dangos fod y Foneddiges Henrietta wedi ei darlunio’n wreiddiol hefo steil gwallt crand, ond heb het. Mae’n debyg fod y darlun wedi ei newid gan artist arall pan newidiodd y ffasiwn. Priododd Henrietta ag Edward Clive, mab Robert Clive (‘Clive o India’) yn 1784 a phan wnaed ef yn Llywodraethwr Madras yn 1798, aeth gydag ef i India. Gyda gosgordd baciau yn cynnwys 14 eliffant, 2 gamel a thua 750 o weision, morynion a milwyr, aeth ar ymdaith eithriadol 1000 o filltiroedd i Mysore, gyda’i dwy ferch a’u hathrawes gartref, Anna Tonelli. Arhosodd ei gŵr ym Madras oherwydd ei waith.Dysgwch fwy (yn Saesneg yn unig)
Dyfrlliw o Edward Herbert, yr Arglwydd Herbert 1af o Cherbury (1581/3-1648), gan Isaac Oliver, yn dangos dyn mewn dwbled a tharian yn gorffwys ger nant mewn coetir wedi ei amgylchynu gan goed gyda’i weision a’i geffyl yn y cefndir
Edward Herbert, Arglwydd Herbert 1af o Cherbury (1581/3-1648), gan Isaac Oliver, (c. 1565-1617) | © National Trust Images/Todd-White Art Photography
Syr Edward Herbert, Arglwydd Herbert 1af o Cherbury yn ddiweddarach
Mae miniatur o’r gwrthrych cyfan fel hyn, wedi ei addurno’n gain â lliwiau llachar a metelau gwerthfawr fel arian ac aur, yn eithriadol o brin. Roedd Syr Edward Herbert (1581/2-1648) yn ŵr llys, milwr, diplomydd a bardd. Mae ei wisg foethus o arian a glas yn cyd-fynd â lifrai ei geffyl yn y pellter, ac mae hyn, ynghyd â’i darian â chalon arni, yn awgrymu ei fod yn gorffwys ar ôl twrnamaint brenhinol. Mae hwn yn un o’r miniaturau mwyaf hudolus a beintiwyd yn hyfryd o’r cyfnod Iagoaidd. Fe’i peintiwyd gan yr artist llys Isaac Oliver (tua 1565-1617), oedd yn arbenigo mewn rhyfeddodau bychain bach fel hyn. Fe’i prynwyd i’r genedl yn 2016 gyda help y Gronfa Goffa Treftadaeth Genedlaethol, y Gronfa Gelf, y diweddar Anrhydeddus Simon Sainsbury, Winifred Hooper, ac aelodau a chefnogwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.Porwch drwy’r casgliadau ar y we (yn Saesneg yn unig)
Sgrin Tsieineaidd chwe phanel (tua 1650-1700)
Mae ein sgrin Tsieinïaidd yn yr Ystafell Las, y gwnaed gwaith cadwraeth arni yn 2017, yn darlunio pen-blwydd Guo Ziyi (697-781) yn 80 oed. Ef oedd y mwyaf pwerus o gadfridogion y llinach Tang ac ystyrir ei fod yn un o’r rhai amlycaf yn hanes Tsieina. Fe’i mabwysiadwyd fel rhywun i’w efelychu i genedlaethau a’u dilynodd, gyda bywyd a gyrfa oedd yn cyfleu lwc dda, cyfoeth, enwogrwydd, ffyniant a hirhoedledd. Byddai sgriniau a gwrthrychau eraill yn ei ddarlunio yn cael eu rhoi fel rhoddion i ddymuno lwc dda, neu i gydnabod gyrfa lwyddiannus.Darllenwch fwy (yn Saesneg yn unig)
Derbyn Llysgenhadaeth
Yn hongian yn yr Ystafell Ddawnsio, ‘The Reception of an Embassy’ yn sicr yw un o’r tapestrïau mwyaf enigmatig yng nghasgliad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae’n dapestri cynnar, yn dyddio o 1545, ac mae’n bwysig nid yn unig oherwydd ei fod yn brin a’i faint mawr, ond hefyd oherwydd y credir ei fod yn darlunio digwyddiad hanesyddol gwirioneddol, pan wnaeth llysgenhadon o Fenis gysylltu’n ddiplomataidd am y tro cyntaf â rheolwyr Mamluk Damascus. Gellir adnabod Damascus oherwydd y portread cywir o nifer o fanylion pensaernïol, a Mosg Umayyad yn fwyaf trawiadol yn eu plith. Mae’n debyg iddo gael ei wneud yn ne’r Iseldiroedd neu Ffrainc, ac mae wedi ei seilio’n fras ar beintiad yn y Louvre gan arlunydd anhysbys o Fenis, a grëwyd hefyd yn 1545.Dysgwch fwy ar y we (yn Saesneg yn unig)
Cerflun o ‘Fame’ a Pegasus yng Nghwrt Gorllewinol Castell a Gardd Powis, Powys, Cymru.

Casgliadau Castell a Gardd Powis

Darganfyddwch y gwrthrychau a’r gwaith celf rydym yn gofalu amdanynt yng Nghastell a Gardd Powis ar wefan Casgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Portread o Robert Clive, Y Barwn 1af Clive o Plassey ‘Clive o’r India’ gan Syr Nathaniel Dance-Holland RA (Llundain 1735)
Erthygl
Erthygl

Amgueddfa Clive yng Nghastell Powis 

Mae Amgueddfa’r Teulu Clive yn cynnwys mwy na 300 o eitemau o India a’r Dwyrain Pell yn y casgliad preifat mwyaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig. Dysgwch ragor am ei hanes.

Golygfa o’r ardd ym mis Gorffennaf tua chefn gwlad yr ardal o gwmpas Castell Powis, Powys, Cymru
Erthygl
Erthygl

Hanes yr ardd yng Nghastell Powis 

Crwydrwch baradwys o ardd yng Nghymru, gyda 300 mlynedd o drawsnewid gardd yn cynnig haenau lawer o hanes i’w harchwilio.

Golygfa o’r ardd ym mis Gorffennaf tua chefn gwlad yr ardal o gwmpas Castell Powis, Powys, Cymru
Erthygl
Erthygl

Hanes yr ardd yng Nghastell Powis 

Crwydrwch baradwys o ardd yng Nghymru, gyda 300 mlynedd o drawsnewid gardd yn cynnig haenau lawer o hanes i’w harchwilio.

A tray of fruit scones straight from the oven being held by the baker
Erthygl
Erthygl

Bwyta a siopa yng Nghastell Powis 

Ar ôl crwydro’r castell neu deithio trwy’r terasau, dadebrwch gydag un o’r danteithion blasus o Fwyty’r Cwrt, neu ewch ag anrheg adref o’r siop i’ch helpu i gofio diwrnod gwych.

Collage yn cynnwys tri gwaith celf: peintiad o Teresia, Arglwyddes Shirley gan Van Dyke yn Petworth House; peintiad olew o goetsmon ifanc yn Erddig; a ffotograff o’r Maharaja Jam Sahib o Nawnagar yn Polesden Lacey.
Erthygl
Erthygl

Adroddiad gwladychiaeth a chaethwasiaeth hanesyddol 

Darllenwch ein hadroddiad ar wladychiaeth a chaethwasiaeth hanesyddol yn y llefydd a’r casgliadau rydym yn gofalu amdanynt a dysgwch sut rydym yn newid ein ffordd o ymdrin â’r materion hyn. (Saesneg yn unig)