Darganfyddwch fwy yng Nghastell a Gardd Powis
Dysgwch pryd mae Castell a Gardd Powis ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Os yw’r gerddi yng Nghastell Powis yn ymddangos yn rhyfeddod pleserus heddiw yng Nghymru, dychmygwch pa mor rhyfeddol fydden nhw’n ymddangos 300 mlynedd yn ôl. Dysgwch am hanes yr ardd, o’i dechreuadau ffurfiol i’r gofal a’r gwaith cadwraeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Yn y dyddiau cynnar o’r dwyrain y byddech yn cyrraedd y castell, nid y gorllewin fel y byddwch heddiw. Byddai’r ardd yn dal o’r golwg nes y byddech yn cyrraedd mynedfa’r castell ar y teras uchaf. Yn sydyn byddech yn edrych i lawr ac yn gweld yr ardd derasau i gyd o’ch blaen. Roedd yr olygfa yn ddi-dor ar draws y caeau gan arwain at gribau’r bryniau tu hwnt.
Mae dechreuadau’r ardd welwch chi heddiw yn yr 1680au, pan gyflogodd William Herbert, Ardalydd 1af Powys (tua 1626–96), y pensaer William Winde i ddatblygu cyfres o derasau a llethrau glaswellt ffurfiol ar y llethr sy’n wynebu’r de o dan y Castell.
Roedd Winde wedi creu gardd debyg yn Cliveden, Swydd Buckingham, yn yr 1660au ac roedd yn gweithio ar du mewn Powis yn ystod y cyfnod hwn.
Yn 1688, ffodd yr Ardalydd 1af, oedd yn Gatholig, i Ffrainc gyda’r Brenin James II i’w alltudiaeth a bu farw yno. Roedd ei ardd newydd yng Nghymru yn dal yn anorffenedig nes i’w fab yr 2il Ardalydd (tua 1665–1745), William Herbert arall, ddychwelyd i Brydain yn 1703.
Dechreuodd William weithio ar yr ardd unwaith eto, y tro hwn gyda chymorth Adrian Duval, garddwr Ffrengig a oedd wedyn yn gweithio yn yr Iseldiroedd.
Ar y tir gwastad wrth droed y terasau crëwyd gardd ddŵr neu Dir Pleser yn arddull yr Iseldiroedd. Roedd yr ardd ddŵr yn gorchuddio cymaint o dir â’r castell a’r terasau gyda’i gilydd ac mae’n rhaid ei bod yn olygfa wych.
Yn 1771 fe wnaeth yr ardd roi llam i gyfeiriad ffasiwn y cyfnod. Roedd hwn yn gyfnod pan oedd gerddi ffurfiol trwy Brydain yn cael eu clirio er mwyn creu parciau tirwedd mwy naturiol, o ddŵr, coed a mannau gwyrdd, oedd yn cyrraedd at ddrws y plasty.
Un o brif ladmeryddion y mudiad tirwedd oedd Lancelot ‘Capability’ Brown (1716–83), gyda’i waith wedi ei gyfyngu i Loegr yn bennaf.
Yng Nghymru, William Emes (1730-1830) oedd yn cymryd ei le yn rhannol ac fe’i cyflogwyd gan Henry Arthur Herbert, Iarll 1af Powis (2il greadigaeth), i wneud gwelliannau i’r ystâd.
Plannodd ar y boncyn, a elwir yn y Gwyllt, i’r de o’r Castell, oedd yn amgáu’r terasau a’r ardd ddŵr, gan blannu llawer o dderw hardd sy’n dal i oroesi hyd heddiw.
Newidiodd y ffasiwn mewn gerddi ac erbyn yr 1800au roedd arddull meddalach, mwy naturiol yn ffasiynol. Erbyn 1809 roedd yr ardd ddŵr wedi cael ei chlirio a lawnt syml yn ei lle i’r ceirw bori hyd waelod y terasau.
Ar y terasau isaf glaswelltog roedd coed bach a llwyni yn ffynnu. Ar y terasau uchaf mwy ffurfiol, gadawyd i’r yw oedd unwaith wedi eu tocio mor ofalus i dyfu’n goed bach anffurfiol. Tynnwyd y coed ffrwythau oedd wedi eu tyfu ar hyd y waliau a’u cyfnewid am ddringwyr a dyfodd i fyny waliau’r Castell.
Cyfnewidiwyd geometreg y dyluniad Eidalaidd â siapau mwy naturiol.
Mae siâp anarferol ‘twmpathau’ ywen a gwrychoedd enwog Castell Powis yn adrodd hanes y newid mewn ffasiwn yn y byd garddwriaethol.
Pan blannwyd yr yw yn wreiddiol yn y 18fed ganrif, roeddent yn cael eu tocio yn gonau neu byramidiau bach, ffurfiol. Ond, erbyn diwedd y ganrif roedd garddio tirlun Lloegr wedi cael effaith. Ar yr adeg hon gadawyd i wrychoedd yw Castell Powis dyfu’n naturiol a dod yn debyg i goed.
Parhaodd y tirlunio naturiol yng Nghastell Powis nes i arddio ffurfiol gael adfywiad yng nghyfnod Fictoria. Ar yr adeg hon tociwyd yr yw yn ôl i’w siâp eto, gan roi iddyn nhw’r strwythur anarferol sydd yn dal mor drawiadol heddiw.
Aeth yr ardd trwy weddill y 19eg ganrif heb unrhyw newidiadau mawr, nes y cyrhaeddodd rhywun arall brwdfrydig ar ffurf yr Arglwyddes Violet (1865–1929), gwraig 4ydd Iarll Powis.
- Yr Arglwyddes Violet, Iarlles Powis
Gweithiodd Violet ar yr ardd am 18 mlynedd, gan gyfoethogi’r planhigion ar y terasau ac ychwanegu mathau newydd o lwyni a blodau lluosflwydd.
Ei chyfraniad mwyaf oedd symud yr Ardd Lysiau, y tai gwydr a’r cyfan, i safle newydd o olwg y castell ac ar yr hen safle creodd yr ardd ffurfiol dlws. Gyda lawnt croquet, borderi blodau yn arddull bwthyn yn y wlad a choed ffrwythau wedi eu trimio’n ofalus mae’n dal yn un o uchafbwyntiau’r ardd heddiw.
Yn sefyll yn falch yng Ngardd y Ffownten mae pâr o giatiau haearn bwrw cain a gomisiynwyd gan yr Arglwyddes Violet fel anrheg pen-blwydd i’w gŵr, George, 4ydd Iarll Powis.
Ni newidiodd yr ardd ar ôl marwolaeth yr Arglwyddes Violet yn 1929, hyd 1952, pan ddaeth Castell Powis dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Ers hynny rydym wedi parhau i ddilyn ei huchelgais hi ar gyfer yr ardd gan gadw ei strwythur aml-haenog hanesyddol.
Dysgwch pryd mae Castell a Gardd Powis ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mae Castell Powis yn cael sylw yn y llyfr darluniadol hardd, '60 o Adeiladau Rhyfeddol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol', a ysgrifennwyd gan un o’n curaduron arbenigol. Prynwch y llyfr i ddysgu mwy am bum adeilad rhyfeddol yng Nghymru, yn ogystal â strwythurau cyfareddol eraill ledled Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Yn dyddio’n ôl 300 mlynedd, mae’r ardd o’r safon uchaf yn llawn o hanes. Welwch gymysgedd o derasau dramatig, borderi blodau , tocwaith anhygoel a golygfeydd rhyfeddol.
Castell Cymreig yw Powis a adeiladwyd gan dywysog Cymreig, Gruffudd ap Gwenwynwyn (tua 1252). Goroesodd ryfeloedd a’i rannu i ddod yn un o gestyll amlycaf Cymru.
Ar ôl crwydro’r castell neu deithio trwy’r terasau, dadebrwch gydag un o’r danteithion blasus o Fwyty’r Cwrt, neu ewch ag anrheg adref o’r siop i’ch helpu i gofio diwrnod gwych.
Mae Amgueddfa’r Teulu Clive yn cynnwys mwy na 300 o eitemau o India a’r Dwyrain Pell yn y casgliad preifat mwyaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig. Dysgwch ragor am ei hanes.