Mae’r râs wedi dechrau i docio 168 o goed pisgwydd yn Erddig â llaw, er mwyn eu paratoi am eu hadfywiad gwanwyn blynyddol
- Cyhoeddwyd:
- 24 Ebrill 2023
Mae’r gwaith blynyddol o blygu 168 o goed pisgwydd yn Erddig, gogledd Cymru ar waith ac amcangyfrifir y bydd yn cymryd cyfanswm o 65,000 toriad i dîm bach o staff a gwirfoddolwyr i’w gwblhau, yn barod iddynt ffrwydro’n llawn dail erbyn canol mis Mai.
Cafodd y rhodfeydd o goed pisgwydd eu plannu yn Erddig, gogledd Cymru ym 1976 gan Mike Snowden, y Prif Arddwr, a aeth ati i adfer yr ardd restredig Gradd I i’w dyluniad 18fed ganrif ffurfiol.
Yn gynharach ym mis Ebrill, dechreuodd Glyn Smith, y Prif Arddwr, ar y dasg flynyddol o blygu’r coed pisgwydd sy’n cynnwys tocio bob cangen â llaw, ac amcangyfrifir y bydd yn cymryd cyfanswm o 65,000 toriad ar hyd 168 o goed. Oni bai am dîm bach o staff a gwirfoddolwyr sy’n cefnogi’r dasg enfawr hon, byddai’n cymryd 10 wythnos i un garddwr i’w chwblhau.
Dywedodd Glyn Smith, Prif Arddwr Erddig, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru;
“Rydym dros hanner ffordd drwy’r dasg grefftus o blygu’r coed pisgwydd ac rydym yn anelu at gwblhau’r gwaith yr wythnos nesaf. Yna, bydd y coed yn ffrwydro’n llawn dail oddeutu wythnos yn ddiweddarach. Mae’n olygfa y byddwn ni a sawl ymwelydd yn edrych ymlaen at ei gweld bob blwyddyn.”
Gelwir y coed hyn yn “lime trees” yn Saesneg; yn wahanol i “lime trees” arferol, nid ydynt yn cynhyrchu ffrwythau leim, ond cânt eu henw o’r arogl leim maent yn ei gynhyrchu wrth iddynt flodeuo yn yr haf. Daw’r rhain o’r pisgwydd croesryw eithaf egnïol, Tilia x euchlora, ac maent yn edrych yn odidog yn yr ardd.
Mae Glyn Smith wedi bod yn Brif Arddwr yn Erddig ers 37 o flynyddoedd ac ni fethodd flwyddyn o blygu’r coed. Mae’n adnabod pob boncyff, coesyn a chainc, ac mae’n egluro’r gwaith crefftus sydd ynghlwm â thocio a meithrin y coed yn flynyddol;
“Rydym yn defnyddio’r dull o blygu’r coed er mwyn meithrin y coed i greu sgrin neu wrychyn cul drwy glymu a phlethu’r egin ifanc hyblyg ar hyd fframwaith cynhaliol. Mae bob un o’r canghennau wedi cael eu himpio gyda’i gilydd er mwyn uno â’r un nesaf atynt.”
“Mae’n bwysig cadw boncyff neu goesyn y goeden yn glir, felly rhan fawr o’r dasg hefyd yw cael gwared ar yr egin newydd, fel bod taldra ac ymddangosiad ffurfiol y coed yn parhau’n daclus ac yn annog tyfiant trwchus.
“Mae’r gwrychyn hirfain wedyn yn darparu lloches a chysgod i nifer o gynefinoedd megis adar ac infertebratau. Maent hefyd yn cynnig cysgod i’r rhai sy’n cerdded yn yr ardd ers blynyddoedd bellach.”
Mae’r coed yn cynnig arddangosfa syfrdanol drwy gydol y flwyddyn, gyda’r gwanwyn y tymor y mae pobl yn edrych ymlaen ato fwyaf, wrth i’r dail gwyrdd siâp calon ymddangos gydag ychydig o felyn oddi tanynt.
Bydd y dail, ar ddechrau’r hydref, yn troi’n lliw melyn tywyll cyn syrthio i’r llawr, ac yn datgelu rhisgl rhigolog a brigau browngoch tywyll, gan ychwanegu diddordeb saernïol i’r ardd drwy gydol y flwyddyn.
Trefnwch eich ymweliad i Erddig; www.nationaltrust.org.uk/erddig
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
Hanes adfer yr ardd yn Erddig
Dysgwch sut y gwnaeth y Pen Garddwr Mike Snowden ddatgelu ac adfer gogoniant gardd Erddig, trwy edrych ar gynlluniau a darllen y cliwiau ar y tir.
Ymweld â'r ardd Erddig
O gennin Pedr yn y gwanwyn i 180 o wahanol fathau o afalau yn yr hydref, dysgwch am yr ardd furiog hon o’r 18fed ganrif ai gweithgareddau tymhorol a’r uchafbwyntiau.
Cymru
Darganfyddwch gestyll tylwyth teg, gerddi godidog a thirwedd Geltaidd wyllt sy’n drysorfa o chwedlau ar eich ymweliad â Chymru.