Skip to content

Hanes adfer yr ardd yn Erddig

Golwg o’r awyr o’r gwelyau blodau ffurfiol a’r lawntiau o flaen y tŷ brics coch yn Erddig, gyda’r ardd furiog ar y dde
Y plannu parterre Fictoraidd wedi ei adfer a’r ardd furiog o’r 18fed ganrif yn Erddig | © National Trust Images/John Miller

Roedd grymoedd natur wedi cael rhyddid yn y tŷ a’r tiroedd pan drosglwyddodd Philip Yorke III Erddig i’n gofal yn 1973. Roedd y Pen Garddwr Mike Snowden yn wynebu tasg anodd yn datgelu ac adfer yr ardd restredig Gradd I hon. Aeth ei dîm ati i ddechrau dehongli hen gynlluniau, clirio’r tir a darllen y cliwiau i adfywio’r gogoniant a fu, gan gynnwys yr ardd furiog o’r 18fed ganrif a’r parterre Fictoraidd.

Dim arwydd o ardd ffurfiol 

Roedd tair dafad a gafr yn crwydro’r ardd furiog 12.5 erw wyllt, oedd yn gartref hefyd i goed ffawydd afiach, nodwedd dŵr camlas oedd yn llawn o ‘flancmange du’ fel mae Mike yn cofio, a thŷ cwch wedi dadfeilio. Nid oedd unrhyw arwydd o’r ardd ffurfiol, a fu’n destun balchder i berchenogion Erddig yn y gorffennol. 

Ni wnaeth y dasg anferth fennu dim ar Mike a thra’r oedd y cadwraethwyr wrthi eu gorau yn ceisio achub y casgliad bregus a’r tŷ oedd yn suddo, dechreuodd weithio ar adfer y gerddi. 

‘We were intruders in a landscape that had been taken over by mother nature.’ 

- Mike Snowden, Pen Garddwr Erddig 1973-80 

Y cynlluniau gwreiddiol 

Siapiwyd y gwaith adfer gan gynlluniau gardd John Meller, y cyfreithiwr cyfoethog o Lundain a brynodd Erddig yn 1714. 

Ond yn ystod eu gwaith ymchwil yn yr archifau, darganfu’r tîm rai o’r cynlluniau gwreiddiol ar gyfer yr ardd o’r adeg pan wnaeth Joshua Edisbury gomisiynu’r tŷ gyntaf yn yr 1680au. Roedd yno gyfeiriadau at goed ffrwythau – felly roedd ffrwythau’n mynd i gael eu cynnwys yn y gwaith adfer. Byddai’r ardd yr oedd Edisbury wedi ei chynllunio wedi ffitio ym muriau gardd John Meller 12 gwaith. 

Yr ardd parterre o’r 18fed ganrif yn Erddig yng Nghymru ar ddiwrnod heulog ym mis Mai, gyda gwelyau blodau ffurfiol yn y blaendir.
Yr ardd parterre o’r 18fed ganrif yn Erddig yng Nghymru | © National Trust Images/Gwenno Parry
Mike Snowden gyda Philip Yorke III's yn Erddig
Bydd Mike Snowden, Prif Arddwr Erddig o 1973 tan 1980, yn siarad am feics peni-ffardding Philip Yorke III, a'i gyfnod yn garddio. | © National Trust

Garddio a beics peni-ffardding

Bydd Mike Snowden, Prif Arddwr Erddig o 1973 tan 1980, yn siarad am feics peni-ffardding Philip Yorke III, a'i gyfnod yn garddio. Philip Yorke III oedd y Sgweier olaf a'r unig etifedd posibl, felly ef ag etifeddodd y plasty Cymreig a oedd yn mynd a'i ben iddo.

1 of 2

Clirio’r tir 

Ar ôl i’r anifeiliaid fynd, y gwaith nesaf oedd clirio olion amser. Ar ôl codi’r mieri a’r prysglwyni, daeth strwythur yr ardd a maint anferthol y dasg i’r golwg.

Cynhaliwyd arolwg ar y coed ffawydd a gweld eu bod wedi pydru ac yn beryglus, felly torrodd y tîm nhw a symud y darnau pren i’r ystâd i greu cartrefi i bob math o fywyd gwyllt. 

Roedd darnau o’r waliau’n chwalu a bu’n rhaid eu hailadeiladu – mae’r gwaith trwsio’n parhau heddiw. 

Coeden ffrwyth espalier ar yr ardd furiog yn Erddig
Coeden ffrwyth espalier ar yr ardd furiog yn Erddig | © National Trust Images/John Miller

Gwaith ditectif yn y rhew 

Mae tywydd sych a dyddiau rhewllyd yn dda o ran cael cliwiau am ddyluniad gardd yn y gorffennol. Gwyddai’r tîm bod cynllun ffurfiol wedi bodoli, mae’n rhaid, oherwydd roedd awgrymiadau o’r siapiau yn y glaswellt ar ôl torri’r gwair. 

Ar un bore oer o aeaf, mentrodd Mike i ben to Erddig i weld a fyddai patrwm rhewllyd yn dod i’r golwg. Roedd wrth ei fodd, roedd amlinell glir yn dod i’r golwg yn y glaswellt oddi tano. Gwaeddodd Mike gyfarwyddiadau ar ei gyd-arddwr i farcio’r siâp ac fe ail-aned cynllun borderi ffurfiol y parterre Fictoraidd. 

Yr ardd heddiw 

Cymerodd bedair blynedd i’r tŷ a’r gerddi gael eu hachub ar ôl blynyddoedd o ddirywiad. Dewch i gadw cwmni i'n tywyswyr gwirfoddol ar un o'n teithiau dyddiol o amgylched y gerddi a chrwydro’r ardd furiog drawiadol, sydd wedi ei hadfer yn awr yn ôl dyluniad ffurfiol y 18fed ganrif.

Gyda choed ffrwythau prin a Chasgliad Cenedlaethol o Eiddew, mae gardd restredig Gradd I Erddig yn lle arbennig iawn, sy’n deilwng o’r cynlluniau cynharaf ac ymroddiad tîm Mike Snowden. 

Y plasty o’r 18fed ganrif, ar draws y llyn yn Erddig, Cymru

Darganfyddwch fwy yn Erddig

Dysgwch pryd mae Erddig ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Y tŷ a’r tocwaith yn Erddig, Wrecsam, dan orchudd barrug
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r ardd Erddig 

O gennin Pedr yn y gwanwyn i 180 o wahanol fathau o afalau yn yr hydref, dysgwch am yr ardd furiog hon o’r 18fed ganrif ai gweithgareddau tymhorol a’r uchafbwyntiau.

Golygfa ar draws y llyn tuag at y tŷ yn Erddig, Clwyd, sy’n cael ei adlewyrchu ar y dŵr.
Erthygl
Erthygl

Hanes Erddig 

Dysgwch am yr Uchel Sirydd a fu’n byw tu hwnt i’w fodd pan adeiladodd Erddig, y cyfreithiwr cyfoethog o Lundain a fu’n ei ymestyn a’i ailaddurno a 240 mlynedd o deulu Yorke.

1,200 erw o barcdir yn Erddig
Erthygl
Erthygl

Crwydro parcdir Erddig 

Dysgwch beth yw’r prif bethau i’w gweld a’u gwneud wrth ymweld â’r parcdir. O afonydd troellog a nodwedd ddŵr o’r 18fed ganrif i’r llethr dramatig yn arwain at Glawdd Wat.

Llun du a gwyn o weision a morynion yn eu gwisg, yn sefyll ar risiau blaen y tŷ mawr. Teulu o rieni a phlant yn edrych arnyn nhw o ffenestr ar y llawr cyntaf.
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r tŷ yn Erddig 

Wedi ei achub rhag dadfeilio, mae Erddig yn fath prin ac unigryw o’r plastai sydd wedi goroesi yn orlawn o drysorau. O bortreadau gweision a morynion i ddodrefn cain, dysgwch beth yw’r prif bethau i’w gweld a’u gwneud wrth ymweld â’r tŷ.

Bwrdd pren gyda chlychau efydd. Maent wedi eu labelu ‘White Room’, ‘West Room’, ‘Drawing Room’ a ‘Front Hall’.
Erthygl
Erthygl

Hanes bywyd y gweision a’r morynion yn Erddig 

Pam bod y teulu Yorke yn coffau eu staff mewn lluniau a cherddi? Dysgwch am ddiwrnod ym mywydau’r gweision a’r morynion a gweld sut y gwnaeth un wraig cadw tŷ orfod mynd o flaen ei gwell.