Darganfyddwch fwy yn Erddig
Dysgwch pryd mae Erddig ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Gyda’i barcdir amrywiol, mae Erddig yn gyforiog o laswelltir, llynnoedd, pyllau, afonydd, coed hynafol a choetir. Dewch i weld golygfeydd sy’n amrywio o afon Clywedog a’r dirwedd goediog heddychlon yn y Coed Mawr, i nodweddion pensaernïol enwog fel y ‘cwpan a’r soser’ a’r llethr dramatig sy’n arwain at Glawdd Wat. Crwydrwch trwy weddillion castell mwnt a beili Normanaidd.
Mwynhewch lwybr sydd wedi ei farcio o gwmpas yr ystâd 1,200 erw neu ticiwch nifer o’n gweithgareddau 50 o bethau i’w gwneud cyn bod yn 11¾ ar yr ystâd. Gallwch wneud Rhif 1 yn hawdd iawn, dod i adnabod coeden neu Rif 5 Sgimio carreg ac mae’r pontydd ar yr afon yn berffaith ar gyfer Rhif 19, chwarae Rasys Priciau.
Yma ac acw ar hyd y llwybrau mae digon o fannau i fwynhau picnic, boed yn y coed, ger yr afon neu mewn cae.
Mae croeso i gŵn sy’n cael eu rheoli’n ofalus ac ar dennyn yn ymyl anifeiliaid, yn arbennig yn y gwanwyn pan fydd ŵyn o gwmpas. Dewch i weld y rhan heb dennyn ger Melin Puleston lle gall eich ci grafu, ffroeni a charlamu’r hyn a fynno’n rhydd.
Gwaith y dylunydd tirweddau mawr ei barch, William Emes oedd y ‘great expense and labour’ i raddau helaeth. Bu’n gweithio yn Erddig o 1768-1780. Rhoddwyd contract iddo nid yn unig i greu tirwedd oedd yn ddeniadol yn esthetaidd ond hefyd i gynyddu gwerth amaethyddol y tir trwy leihau’r llifogydd difrifol yn Afon Clywedog.
Creodd Emes lwybrau graean trwy’r tiroedd hamdden helaeth, plannodd lawer o goed sy’n dal i ffynnu hyd heddiw, a chyfeiriodd lif y dŵr ar draws y parc trwy gyfres o raeadrau a choredau.
Yr addasiad mwyaf unigryw a wnaeth i dirwedd Erddig oedd creu’r rhaeadr Cwpan a Soser. Gellir gweld y nodwedd hon hyd heddiw, ac mae’n gweithio trwy gasglu dŵr mewn basn carreg crwn sydd â rhaeadr silindraidd yn ei ganol, mae’r dŵr yn disgyn trwy’r rhaeadr hwn ac yn ymddangos o dwnnel rai llathenni i lawr yr afon.
Fe wnaeth Emes ymgorffori rhai o nodweddion mwyaf hynafol Erddig yn ei waith, er enghraifft, y castell Tomen a Beili a Chlawdd Wat sy’n glawdd pridd amddiffynnol 40 milltir o hyd a godwyd yn yr wythfed ganrif.
Adeiladwyd y Castell Tomen a Beili gan y Normaniaid yn yr 11eg ganrif i gryfhau eu rheolaeth dros yr ardal leol. Unig weddillion y castell yw’r twmpathau pridd uchel, wedi’u gorchuddio â choed, ond ar un adeg byddai wedi bod yn adeilad amlwg iawn. Wrth adeiladu’r castell, defnyddiodd y Normaniaid dopograffi naturiol y tir a therfyn amddiffynnol Clawdd Wat a oedd eisoes yn bodoli.
700 mlynedd yn ddiweddarach, fe wnaeth Emes ymgorffori’r cloddiau pridd hyn yn ei gynlluniau, a phlannodd rodfa goed ar y copa o’r enw Rhodfa’r Gadeirlan ac mae’n arwain at olygfa odidog o’r wlad o amgylch. Gadewch i’ch llygaid eu dilyn a gweld sut mae’r coed yn arwain at olygfa ryfeddol o’r dirwedd o’ch cwmpas.
Mae ymwelwyr wedi cael crwydro parcdir Erddig ers 300 mlynedd a mwy. Nid oedd y teulu Yorke yn dymuno cadw eu hystâd iddyn nhw eu hunain, ac roedden nhw’n deall pa mor werthfawr oedd cefn gwlad i iechyd a lles y gymuned leol. Yn 1779, cododd Philip Yorke I yr arwydd canlynol wrth y fynedfa i Erddig:
Philip Yorke I
Parcdir Erddig yw un o’r mannau gorau yn y Deyrnas Unedig am ei goed hynafol a nodedig. Mae’r rhain yn cynnwys derw, masarn, ffawydd, castanwydd pêr, ynn, pisgwydd, oestrwydd a drain gwynion.
Mae ddigonedd o dderw hynafol i'w weld, tua 150 o goed y tro diwethaf y cawsant eu cyfri. Coeden hynafol yw coeden sy’n eithriadol o hen i’w rhywogaeth a gall hyn amrywio’n ddramatig. Er enghraifft, mae coed bedw yn cael eu hystyried yn hynafol yn 150 oed, derw yn 400 oed a choed yw yn 800 mlynedd oed rhyfeddol.
Mae Afon Clywedog a Nant Ddu, sy’n rhedeg trwy’r ystâd, yn cynnwys nifer o rywogaethau o bysgod, yn ogystal â llyswennod a llygod y dŵr. Mae dyfrgwn hefyd yn teithio trwy Erddig ac yn ymweld, ond mae’r creaduriaid hyn yn dal yn rhai o’r rhai anoddaf i’w gweld.
Gellir gweld crëyr glas yn aml yn plismona’r afonydd a bydd ein wardeiniaid yn aml yn gweld y trochwr yn chwarae yn y rhaeadrau. Os byddwch chi’n lwcus fe allwch chi gael cip ar las y dorlan hyd yn oed!
Gyda dros 30 o byllau ar ein hystâd, mae gan Erddig amrywiaeth iach iawn o gynefinoedd gwlyptir i weddu i amrywiaeth eang o rywogaethau’r dŵr o was y neidr i elyrch. Mae nadroedd y gwair yn hoffi treulio amser yn yr ardaloedd yma hefyd, ond peidiwch â phoeni, maen nhw’n hollol ddiniwed.
Edrychwch ar Erddig a’r parcdir o’i gwmpas o’r awyr; https://www.youtube.com/watch?v=eCflRkbfwtg
Dysgwch pryd mae Erddig ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mae gan Erddig sgôr o ddwy bawen. Mae Erddig yn cynnig digon o gyfleoedd i rasio, neidio, ffroeni a sblasio i gŵn. Dysgwch am y parth oddi ar dennyn a chyfyngiadau ar fynediad a all effeithio ar eich cynlluniau.
O gennin Pedr yn y gwanwyn i 180 o wahanol fathau o afalau yn yr hydref, dysgwch am yr ardd furiog hon o’r 18fed ganrif ai gweithgareddau tymhorol a’r uchafbwyntiau.
Edrychwch ar y mannau i fwyta a siopa yn Erddig. Mae’r rhan fwyaf yn ein hadeiladau hanesyddol ac mae pob pryniant yn ein helpu i ofalu am Erddig i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau.
Dysgwch am yr Uchel Sirydd a fu’n byw tu hwnt i’w fodd pan adeiladodd Erddig, y cyfreithiwr cyfoethog o Lundain a fu’n ei ymestyn a’i ailaddurno a 240 mlynedd o deulu Yorke.