Casgliadau Erddig
Darganfyddwch y gwrthrychau a’r gwaith celf rydym yn gofalu amdanynt yn Erddig ar wefan Casgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Dysgwch am yr Uchel Sirydd fu’n byw’n rhy fras wrth adeiladu Erddig, a’r cyfreithiwr cyfoethog o Lundain a wnaeth ymestyn ac ailaddurno’r tŷ. Porwch trwy 240 mlynedd o hanes teulu Yorke yn Erddig.
Yn 1682 penodwyd Joshua Edisbury yn Uchel Sirydd Sir Ddinbych; dyma ddechrau oes aur Erddig, a chwymp Edisbury. Dewisodd Edisbury’r safle dramatig ar lethr uwchben Afon Clywedog droellog filltir i’r de o Wrecsam.
Ar 1 Tachwedd 1683, lluniodd Thomas Webb, saer rhydd o Middlewich yn Swydd Gaer, ‘covenanted and agreed to undertake and perform the care and oversight of contriving, building and finishing of a case or body of a new house’.
Cychwynnodd y gwaith yn 1684 ar dŷ naw bae o led, ond roedd Edisbury wedi mentro gormod ac erbyn 1709, roedd yn fethdalwr.
Rhoddodd Elihu Yale, y noddwr enwog sydd wedi rhoi ei enw i’r brifysgol yn yr Unol Daleithiau, hefyd fenthyciad i Joshua Edisbury i’w helpu wrth adeiladu Erddig.
Roedd Edisbury eisoes wedi bod yn ceisio ffafr y masnachwr cyfoethog o Gwmni Dwyrain India gyda chasgenni o Gwrw Sandpatch. Roedd Yale wedi talu’n ôl gydag ‘our best mango Atchar [siytni]’ a ‘Japan Skreen’ i wraig Edisbury, y gallwch chi eu gweld o hyd yn yr Ystafell Wely Swyddogol.
Ond chwalodd eu cyfeillgarwch pan fu’n rhaid i Yale alw ei ddyledion i mewn – gan fynnu £4,000 am fenthyciad o hanner y swm hwnnw – gan gychwyn y broses wnaeth arwain at fethdaliad Joshua Edisbury.
Cyfreithiwr llwyddiannus o Lundain oedd perchennog nesaf Erddig. Prynodd Meller ddyledion Edisbury ac ar ôl prynu Erddig, cychwynnodd ar y gwaith o’i ddodrefnu gyda dodrefn a ffabrigau gorau’r cyfnod.
Estynnodd yr adeilad tua’r gogledd a’r de, gan ychwanegu dwy adain ddeulawr; ei ‘rooms of parade’. Heb wraig na phlant, edrychodd Meller tuag at fab ei chwaer, Simon Yorke, i oruchwylio’r gwaith o orffen a chludo’r dodrefn newydd gwerthfawr i Erddig. Yn ddiweddarach gadawodd y tŷ i’w nai Simon ar ei farwolaeth yn 1733.
Etifeddodd Simon Yorke I Erddig gan ei ewythr John Meller yn 1733. Bu Erddig yn nwylo’r teulu Yorke am 240 mlynedd; a phob perchennog olynol yn cael ei alw yn naill ai Simon neu Philip.
Mwynhaodd Simon Yorke I ei lwc dda, gan ddatblygu’r ardd ond ni wnaeth fawr i’r tŷ. O’i briodas i’r aeres Dorothy Hutton cawsant un mab, Philip.
Etifeddodd Philip Yorke I Erddig ar farwolaeth ei dad yn 1767. Trwy etifeddiaeth gan frawd ei fam gallodd briodi Elizabeth Cust, merch Syr John Cust o Belton. Trwy’r etifeddiaeth a’i gwaddol hi ariannwyd ychydig o newidiadau yn Erddig, gan gynnwys:
Ar ei farwolaeth yn 1804, gadawodd Philip Yorke I Erddig i’w fab hynaf, Simon.
Priododd Simon Yorke II â Margaret Holland a chawsant chwech o blant, ond bu dau farw yn eu plentyndod. Roedd Simon yn gymdeithasol iawn, gan wahodd teulu a ffrindiau i Erddig yn aml a chomisiynodd Thomas Hopper i greu ystafell fwyta fawr yng nghyfres ddeheuol Meller o ystafelloedd. Fe wnaeth adnewyddu ystafelloedd eraill ar yr adain honno, gan osod system wresogi dan y llawr a chlychau.
Y mab hynaf oedd yn dal yn fyw, Simon, a’i holynodd.
Gwnaeth Simon Yorke III lawer o newidiadau i’r parc a’r gerddi, gan greu grisiau o’r Salŵn i roi gwell mynediad i’r partree oedd wedi ei osod o’r newydd ynghyd â ffowntenni newydd. Creodd ef a’i wraig Victoria Cust hefyd Ystafell Gerdd yn y Cyntedd, gan symud y fynedfa flaen i Ystafell y Llwythau.
Ar ôl ei farwolaeth yn 1894 symudodd ei fab Philip yn ôl i Erddig.
Ychydig iawn o newidiadau wnaeth Philip Yorke II a’i wraig Louisa Scott i Erddig ond fe wnaethant weithio i gadw’r tŷ a’i gynnwys gyda nifer lai a llai o weision a morynion.
Etifeddodd Simon Yorke IV Erddig yn 1922 ac yntau’n 19 oed. Roedd yr ystâd mewn helynt ariannol ddifrifol ac ychydig o staff oedd yn dal ar ôl. Oherwydd i’r Bwrdd Glo gael ei wladoli yn 1947, aed ati i gloddio am lo o dan y tŷ ac oherwydd hynny bu ymsuddiant difrifol.
Aeth Simon yn feudwy heb unrhyw drydan na ffôn, gan gilio o’r byd tu allan. Dirywiodd Erddig, ond roedd Simon yn gwrthod gwerthu dim byd o’r tŷ.
Etifeddodd Philip Yorke III Erddig oedd yn dadfeilio ar farwolaeth ei frawd. Nid oedd yr un o’r ddau frawd wedi priodi, felly cychwynnodd Philip drafodaethau gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Daeth Erddig dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1973 a chychwynnwyd ar brosiect adfer pedair blynedd.
Bu Philip farw yn 1978. Ond fel Sgweier olaf Erddig, bu Philip fyw’n ddigon hir i weld Erddig yn dychwelyd i fod fel yr oedd pan oedd yn blentyn.
Darganfyddwch y gwrthrychau a’r gwaith celf rydym yn gofalu amdanynt yn Erddig ar wefan Casgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Wedi ei achub rhag dadfeilio, mae Erddig yn fath prin ac unigryw o’r plastai sydd wedi goroesi yn orlawn o drysorau. O bortreadau gweision a morynion i ddodrefn cain, dysgwch beth yw’r prif bethau i’w gweld a’u gwneud wrth ymweld â’r tŷ.
Mae gan Erddig un o'r casgliadau mwyaf o eitemau o fewn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyfan. Mae angen gofalu am 30,000 o eitemau, sy’n dipyn o her i’n tîm o warchodwyr a gwirfoddolwyr. Mae Erddig hefyd yn amgueddfa ardystiedig.
O gennin Pedr yn y gwanwyn i 180 o wahanol fathau o afalau yn yr hydref, dysgwch am yr ardd furiog hon o’r 18fed ganrif ai gweithgareddau tymhorol a’r uchafbwyntiau.
Dysgwch beth yw’r prif bethau i’w gweld a’u gwneud wrth ymweld â’r parcdir. O afonydd troellog a nodwedd ddŵr o’r 18fed ganrif i’r llethr dramatig yn arwain at Glawdd Wat.