5.30am
Cychwyn cynnar
Morwyn y gegin gefn yw un o’r rhai cyntaf i godi, ymolchi’n sydyn mewn dŵr oer a gwisgo. Yna i lawr i’r gegin oer i lanhau grât haearn y gegin a thanio’r tân. Cael y dŵr i ferwi yw’r flaenoriaeth, fel ei bod yn gallu mynd â phaned o de i’r wraig cadw tŷ a’r gogyddes, a dŵr poeth iddyn nhw gael ymolchi.
Wedyn mae angen paratoi brecwast – i’r gweision a morynion eraill yn gyntaf sy’n bwyta yn Ystafell y Gweision a’r Morynion, ac yna’r teulu Yorke a’u gwahoddedigion sy’n cael ei weini yn yr Ystafell Fwyta.
![Llun du a gwyn o weision a morynion yn eu gwisg, yn sefyll ar risiau blaen y tŷ mawr. Teulu o rieni a phlant yn edrych arnyn nhw o ffenestr ar y llawr cyntaf.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/erddig/library/built-heritage-history-and-collections/new-kitchen-erddig-wales-1089026.jpg?auto=webp&width=623&dpr=2 2x)