Skip to content
Datganiad i'r wasg

Mainc arbennig yn nodi hanes cysylltiad a newid yng Nghwm Idwal, Eryri

Mainc stori newydd wedi'i cherfio â llaw yng Nghwm Idwal, Eryri
Mainc stori newydd wedi'i cherfio â llaw yng Nghwm Idwal | © National Trust Images

Tri phâr o ddieithriaid sydd â chysylltiad arbennig â Chwm Idwal yn dod ynghyd i fynegi eu gobeithion a’u hofnau am yr ardal mewn hinsawdd sy’n newid. Mae’r themâu o'u sgyrsiau wedi ysbrydoli mainc wedi'i cherfio'n arbennig i ymwelwyr ei mwynhau, wedi'i lleoli ar hyd y llwybr i'r llyn.

Mae newid hinsawdd yn cael effaith ar Warchodfa Natur Genedlaethol Cwm Idwal yng ngogledd Eryri mewn sawl ffordd. Mae glaw trwm yn achosi erydiad, ac mae tywydd anrhagweladwy, gwres eithafol a sychder yn cynyddu'r pwysau ar rywogaethau planhigion sydd eisoes yn brin. Ond mae’r dirwedd, sy’n derbyn gofal gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru a Pharc Cenedlaethol Eryri, yn cael ei gefnogi gan sawl mesur addasu hinsawdd.

Dywedodd Rhys Wheldon-Roberts, Swyddog Partneriaeth Cwm Idwal, “Mae ein gwaith llwybrau troed yn helpu mynd i’r afael ag erydiad, mae rheoli pori yn helpu cynyddu bioamrywiaeth ac mae system synhwyrydd tymheredd arloesol yn helpu amddiffyn planhigion prin rhag difrod yn y gaeaf. Mae’r mesurau hyn i gyd yn cynyddu gwytnwch Cwm Idwal i effeithiau newid hinsawdd.”

Roedd y parau’n cynnwys y bardd lleol, Ieuan Wyn, sydd canfod ysbrydoliaeth ers tro yn y dirwedd a Lynwen Veerbek, dwy ar bymtheg oed, sydd wedi’i magu yn y cwm. Siaradodd Alun Roberts, prifathro wedi ymddeol, y mae ei deulu wedi byw yn yr ardal ers 350 o flynyddoedd ac a fu unwaith yn berchen Bwthyn Ogwen gerllaw â David Walker, mynyddwr a symudodd i Fethesda yn ystod y cyfyngiadau symud ac sydd bellach yn gweithio yn y dirwedd. Yn ogystal mae Dan Parri, bugail lleol a fu’n sgwrsio â Rachel Bedwin aelod o dîm llwybrau troed yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a ddysgodd Gymraeg a symud i’r ardal o Lundain.

Mae’r fainc, sydd wedi’i hysbrydoli gan eu sgyrsiau, yn annog pobl i eistedd a rhannu eu straeon am Gwm Idwal a sut mae’n newid. Wedi’u cerfio ar y panel cefn mae geiriau a delweddau sy’n cyfleu’r dirwedd a pherthynas pobl ag ef, gan gynnwys cwpled gan Ieuan Wyn:

“Hyfryd yw hud Cwm Idwal,
A’i swynion dwfn sy’n ein dal.

Gwyliwch y fideo

Gellir gwylio ffilm fer o’u sgyrsiau yma a bydd hefyd ar gael yng Nghanolfan Cwm Idwal i ymwelwyr ei gweld.

Caniatáu i’r fideo chwarae? Mae cynnwys a gyhoeddwyd ar YouTube ar y dudalen hon.

Rydym yn gofyn am eich caniatâd cyn i unrhyw beth lwytho, oherwydd gallai’r cynnwys hwn gyflwyno cwcis ychwanegol. Efallai yr hoffech ddarllen telerau gwasanaeth  a pholisi preifatrwydd  YouTube Google cyn derbyn.

Fideo
Fideo

Mainc Stori yng Ngwm Idwal

Mae’r fideo hwn yn dod â thri phâr o ddieithriaid sydd â chysylltiad arbennig â Chwm Idwal at ei gilydd i fynegi eu gobeithion a’u hofnau am yr ardal mewn hinsawdd sy’n newid.

You might also be interested in

Golygfa o Slabiau Idwal yng Nghwm Idwal, y Carneddau a’r Glyderau, Gwynedd, Cymru
Llwybr
Llwybr

Taith Cwm Idwal 

Wales

Dilynwch daith Cwm Idwal trwy rai o’r golygfeydd mwyaf dramatig yn y Deyrnas Unedig. Taith 3 milltir gyda llyn chwedlonol ym mynyddoedd y Glyderau yng Ngogledd Eryri.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 3 (km: 4.8)
Dringwr ar Foel-fras y Carneddau a’r Glyderau, Gwynedd. Llyn Anafon yn y cefndir
Datganiad i'r wasg
Datganiad i'r wasg

Offer newydd yn helpu dringwyr i warchod rhywogaethau planhigion prin yng Nghwm Idwal 

Bydd synwyryddion tymheredd newydd sy’n cael eu gosod yng Nghwm Idwal yn helpu i warchod planhigion prin y Warchodfa Natur Genedlaethol rhag cael eu niweidio yn ystod misoedd y gaeaf.

Walkers admire the view across Llyn Ogwen to the Cwm Idwal Valley on a sunny day, with a body of water visible in the valley and mountains in the distance
Lle
Lle

Carneddau a Glyderau 

Profwch dirlun anial Eryri.

Bethesda, Gwynedd

Yn hollol agored heddiw