Un o Dderw mwyaf a hynaf y byd yn dychwelyd i’r Waun
- Cyhoeddwyd:
- 13 Ebrill 2023
Tair cenhedlaeth o’r teulu Williams yn dod ynghyd i blannu coeden ifanc prin yng Nghastell y Waun, coeden ifanc wedi’i thrawsblannu o’r Dderwen wreiddiol Pontfadog a safodd yn ystod gorchfygiad Owain Gwynedd o’r Saeson, ac ymddangosodd yn y Guinness Book of Records fel ‘y goeden letaf ym Mhrydain’.
Safodd Dderwen hynafol Pontfadog, a ddisgynnodd mewn storm yn 2013, ar Fferm Cilcochwyn, ger y Waun, Wrecsam, a gofalwyd amdani gan genedlaethau o deulu Morris/Williams. Credwyd mai dyma un o dderw mwyaf a hynaf y byd.
Yn 2013, bu i Ystâd y Goron luosogi y Dderwen Pontfadog wreiddiol a phlannwyd coeden yn Windsor Great Park. Cafodd pum Derwen Pontfadog pellach eu lluosogi o’r goeden hon; mae tair wedi’u rhoi i Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, ac mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn gofalu am ddwy.
Ddydd Iau, 13 Ebrill, ymunodd tair cenhedlaeth o’r teulu Morris/Williams, yn ogystal â chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, ag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru i blannu'r goeden ifanc prin ar ystâd Castell y Waun, dim ond dwy filltir o ble safodd y goeden dderwen unwaith.
Dywedodd Chris Morris o deulu Morris/Williams, Fferm Cilcochwyn;
“Mae’r teulu wrth eu bodd fod etifeddiaeth o Dderwen Pontfadog yn parhau drwy’r goeden ifanc a thrawsblannwyd, ac yn falch fod un o’r coed ifanc yn cael ei phlannu yma yng Nghastell y Wau, yn ddigon agos i ni allu ymweld yn rheolaidd, a’i gwylio yn tyfu.”
Amcangyfrifwyd bod y dderwen rhwng 1,200 a 1,700 oed pan ddisgynnodd, a’i bod yn debygol wedi dechrau ei bywyd fel mesen rhwng 367 OC ac 814 OC. Gwelodd ddiwedd rheolaeth y Rhufeinwyr, ac Owain Gwynedd yn goresgyn y Saeson ym Mrwydr Crogen yn 1165, ychydig o gannoedd o fedrau o’r dderwen.
Yn 1972 ymddangosodd yn y Guinness Book of Records fel y ‘goeden letaf ym Mhrydain’ gyda chylchfesur o 40ft a 2 modfedd, a thaldra o 53ft. Yn ddiweddarach yn 1996, dywedodd Michael Lear, Ymgynghorydd Botaneg mewn llythyr i Jo Williams na allai ganfod cofnod o dderwen yn y byd a oedd â chylchfesur mwy na’r Pontfadog.
Mae Jo Williams o Fferm Cilcochwyn wedi curadu hanes y dderwen am dros 70 mlynedd, gan gynnwys toriadau papurau newydd a dogfennaeth swyddogol yn dyddio’n ôl i 1971, yn ogystal ag amserlen o ddigwyddiadau yn arwain yn ôl i 1165 [2]. Roedd y goeden yn rhan fawr o deulu’r Morris/Williams. Ychwanegodd Jo:
“I rywun arall mae’n bosibl mai dim ond coeden ydyw, ond roedd yn golygu mwy na hynny i ni. Rydym wedi chwarae cuddio yno, gallech roi bwrdd a chwe chadair ynddi a chael bwyd ynddi. Mae cymaint o bobl wedi cerfio eu blaenlythrennau arni.”
“Mae wedi bod yn gyfarwydd i mi drwy fy mywyd, ac mae gen i luniau pan oeddwn yn blentyn bach gyda fy mam yn sefyll o’i blaen i luniau ohonof ar ddiwrnod fy mhriodas yn sefyll gyda theulu a ffrindiau.”
Dywedodd Keith Griffith, Coedwigwr Arweiniol yng Nghastell y Waun, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru;
“Mae’n anrhydedd plannu coeden fach Pontfadog yng Nghastell y Waun, mae ei DNA wedi’i wreiddio yn hanes Dyffryn Ceiriog, wedi gwasanaethu natur, anifeiliaid a phobl yma am dros fileniwm.
"Mae’n fraint plannu’r goeden fach ochr yn ochr â 11 aelod o deulu Morris a Williams, mae gan bob un ohonynt gysylltiad dwfn â’r dderwen, ac wedi gofalu amdani fel aelod o’r teulu.
"Rydym yn gobeithio y bydd y goeden fach yn tyfu i fod yn goeden hynafol yn y dyfodol, ac mewn 200 mlynedd neu fwy, efallai y bydd pobl yn eistedd yng nghysgod y goeden yng Nghastell y Waun.”
Dywedodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, a blannodd un o’r coed ifanc yn Erddig ym mis Rhagfyr gyda’i Fawrhydi’r Brenin er cof am y Diweddar Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II:
“Mae gan y coed ifanc arbennig hyn hanes anhygoel gan eu bod wedi’u trawsblannu o dderwen fawr a hynafol - Derwen Pontfadog.
“Mae’n briodol y bydd y goeden ifanc hon yn cael ei phlannu yn y Waun, yn agos i ble safodd y goeden wreiddiol fwy na 1,000 mlynedd yn ôl.
“Gobeithiaf y bydd yn tyfu’n gryf ac yn iach ac yn datblygu yn dderwen fawr ac eiconig arall, fydd yn sefyll am ganrifoedd i ddod yng Nghastell y Waun”.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
Cestyll a chaerau yng Nghymru
Camwch i mewn i gaer ganoloesol â dwnsiynau yn y Waun neu ymwelwch â chartref tywysogion Cymru yng Nghastell Powis. Darganfyddwch rai o gestyll gwychaf ac enwocaf Cymru.
Gerddi a pharciau yng Nghymru
Ymwelwch â chasgliad arbennig o erddi a pharciau yng Nghymru. O erddi muriog i ystadau cefn gwlad a gerddi coed, mae digon i’w ddarganfod.