Gwneud rhodd
Mae pawb angen natur, nawr yn fwy nag erioed. Rhowch heddiw ac fe allech helpu pobl a natur i ffynnu yn y lleoedd dan ein gofal.
Mae mawndiroedd y DU dan fygythiad, ond yng Nghymru maen nhw’n cael cyfle i adfer diolch i waith Prosiect Mawndiroedd Cymru. Mae mawndiroedd y DU dan fygythiad, ond yng Nghymru maen nhw’n cael cyfle i adfer diolch i waith Prosiect Mawndiroedd Cymru.
Mae Prosiect Mawndiroedd Cymru’r Cynllun Rheoli Cynaliadwy (CRhC) yn brosiect partneriaeth mawr sy’n cael ei gyflawni gan amrywiaeth o sefydliadau ledled Cymru. Ein prif nodau yw helpu i gyflawni targed Llywodraeth Cymru i ddod â mawndiroedd dan reolaeth gynaliadwy erbyn 2020 yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd mawnogydd drwy alluogi cymunedau i gynnal a gofalu am fawndiroedd drwy roi’r wybodaeth a’r sgiliau cywir iddynt.
Mae’r prosiect hwn yn arddangos y Cod Mawndiroedd ledled y DU - safon wirfoddol ar gyfer prosiectau mawndiroedd yn y DU sydd am hyrwyddo manteision hinsoddol mawndiroedd. Rydym yn gobeithio y daw’r prosiect yn hyb cenedlaethol ar gyfer ymchwil i fawndiroedd er mwyn i’r wybodaeth allu cael ei rhannu â chymunedau ac ymchwilwyr drwy amrywiaeth o ddigwyddiadau ymwybyddiaeth, teithiau tywys a sgyrsiau.
Mae mawndiroedd yn bwysig am bedwar rheswm; bioamrywiaeth, storio carbon, gwerth hanesyddol ac ansawdd a chyflenwad dŵr.
Mae mawndiroedd yn ffurfio cynefin unigryw sy’n cefnogi amrywiaeth o rywogaethau o blanhigion yn ogystal â phryfed, adar a mamaliaid. Mae mawndiroedd yn gartref i lawer o rywogaethau sydd mewn perygl, fel y gylfinir a’r cwtiad aur.
Mae mawnogydd hefyd yn storfeydd enfawr o garbon gan nad yw’r planhigion sy’n tyfu yno yn gallu pydru’n llawn, sy’n golygu bod y carbon yn y planhigion yn cael ei gloi yn y mawn.
Oeddech chi’n gwybod bod mawndiroedd ond yn gorchuddio tua 3 y cant o arwyneb y ddaear ond eu bod yn cynnwys mwy o garbon na holl goedwigoedd glaw’r byd gyda’i gilydd? O holl orchudd mawn y byd, mae tua 12 y cant yn y DU, gyda thua 173,000 erw o orgors ucheldirol yng Nghymru.
Mae mawndiroedd hefyd yn un o storfeydd carbon daearol pwysicaf y DU – maent yn cynnwys 20 gwaith yn fwy o garbon na holl goedwigoedd y DU.
Gall mawndiroedd fod yn ffenest i’r gorffennol – gallant gadw eitemau, fel offer a dillad, mewn cyflwr perffaith am filoedd o flynyddoedd. Yn ychwanegol i hyn, mae’r cylch hydrolegol hefyd yn cael ei effeithio gan gyflwr ein mawndiroedd.
Mae llawer o’r dŵr rydym yn ei yfed wedi draenio oddi ar fawndiroedd ucheldirol ac yn cael ei hidlo’n naturiol gan y mawn. Mae ganddynt rôl i’w chwarae hefyd o ran atal llifogydd; gall mawndir iach ddal llawer mwy o ddŵr nag un sy’n cael ei erydu, gan felly leihau difrod llifogydd ymhellach i lawr yr afon.
Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi bod yn berchen ar Diroedd Comin Abergwesyn ers 1984. Maent yn gorwedd yng nghanol Mynyddoedd Cambria ym Mhowys.
Mae’r grŵp hwn o diroedd comin, sy’n 16,500 erw o faint, yn un o flociau tir mwyaf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru, gyda thua 32 y cant wedi’i ddynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) neu Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA).
Er nad yw’r 68 y cant sy’n weddill wedi’i ddynodi, gallai 20 y cant ohono gael ei ddosbarthu’n gynefin â blaenoriaeth, gan gynnwys gorgors wedi’i haddasu, mignen a rhostir, sy’n gwneud hon yn ardal bwysig ar gyfer ein gwaith adfer.
Mae pawb angen natur, nawr yn fwy nag erioed. Rhowch heddiw ac fe allech helpu pobl a natur i ffynnu yn y lleoedd dan ein gofal.
Darganfyddwch gyfoeth o adfeilion archeolegol, gan gynnwys 14 o garneddau o’r Oes Efydd, sydd wedi parhau’n ddigyffwrdd am filoedd o flynyddoedd yn y dirwedd eang, wyllt hon yng Nghomin Abergwesyn, Powys.
Darganfyddwch leoliad o dirweddau digyffwrdd a dramatig, lle mae dyffrynnoedd serth yn ildio i diroedd comin trawiadol sy’n cynnig golygfeydd gwych cyn belled â Bannau Brycheiniog.