![Lilis yn yr haf yng Ngardd Bodnant, Bae Colwyn](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/bodnant-garden/library/summer/lilies-in-summer-at-bodnant-garden-colwyn-bay-wales-1421390.jpg?auto=webp&width=767&crop=16:9&dpr=2 2x)
Darganfyddwch fwy yng Ngardd Bodnant
Dysgwch pryd mae Gardd Bodnant ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Gydag 80 acer i’w harchwilio, mae digonedd o le i deuluoedd fwynhau ychydig o amser tawel gyda’i gilydd yng Ngardd Bodnant. Treuliwch ychydig oriau yn mwynhau’r prydferthwch a’r natur mae gwahanol rannau o’r ardd yn eu cynnig drwy gydol y flwyddyn.
Wyddoch chi pwy sy’n dod i Ardd Bodnant yr haf hwn?!
Bydd Prys a’r Pryfed gan Aardman yma drwy gydol gwyliau’r haf. Mae’n bryfyn bach direidus ond yn llawn hwyl, ac mae’n dod â rhai o’i ffrindiau a Llwybr Pryfed difyr hefyd.
Haf yma, mwynhewch chwilio am gymeriadau, gan gynnwys Prys a’i chwaer fach PB a’i ffrind gorau Abacus y pry’ lludw. Lawrlwythwch ap realiti estynedig arbennig a ddatblygwyd gan Aardman gyda’r Royal Entomological Society i ‘leihau’ eich hun yn faint pryfyn a gweld y byd trwy lygaid pryfyn. Yn ogystal, mwynhewch weithgareddau difyr i’r teulu drwy gydol yr haf yn yr ardd.
Er mwyn i chi allu cychwyn arni ar unwaith pan fyddwch yn cyrraedd yn yr ardd, ewch draw i Google Play neu Apple Store i lawrlwytho’r ap dwyieithog am ddim. Chwiliwch am ‘Helfa Pryfed’ a bydd Prys yno’n disgwyl amdanoch!
Pan fyddwch yn cyrraedd yr ardd, gallwch nodi’r cod lleoliad a dechrau arni ar unwaith!
Os nad ydych eisiau chwarae ar ffôn, mae digonedd o weithgareddau difyr yn ymwneud â phryfed i’w canfod ar hyd y ffordd.
Dewch i gael hwyl yng Ngardd Bodnant yr haf hwn a dysgwch pa mor bwysig yw pryfed yn union fel Prys a’i ffrindiau yn yr ardd.
Pob dydd o 22 Gorffennaf – 31 Awst. Digwyddiad am ddim, mynediad arferol i’r ardd yn daladwy.
Mae Gardd Bodnant yn lle perffaith i fynd â’r holl deulu am dro yn yr awyr agored yn ystod misoedd yr haf. Gyda therasau ffurfiol ar gyfer adegau tawel, lawntiau iraidd, gweirgloddiau blodau gwyllt a choetir cysgodol i gyd mewn un lle, mae gan yr ardd rywbeth i’w gynnig i bawb.
Pa un a fyddwch yn treulio diwrnod cyfan yma neu ddim ond awr neu ddwy, mae yna wastad rywbeth newydd i’w ddarganfod. Ewch am dro trwy weirgloddiau blodau gwyllt yr Hen Barc a thrwy’r Cae Coed Yw i lawr at afon Hiraethlyn i weld a allwch gael cipolwg ar fronwennod y dŵr yn bwydo’u cywion ochr yn ochr â chrehyrod ac adar gwyllt o fath arall sy’n ymweld â’r ardd.
Beth am fwynhau picnic wrth ymyl y Ddrysfa Helyg a mynd am dro ar hyd yr afon at yr Hen Felin, gan oedi am ennyd i gael hufen iâ cyn mynd yn ôl i fyny at Deras y Gamlas i dynnu llun o’r teulu a chael ennyd tawel i fwynhau gwylio gweision y neidr a mursennod yn dawnsio uwchben y lilïau yn y pwll.
Dysgwch pryd mae Gardd Bodnant ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mwynhewch luniaeth yn ystafelloedd te Gardd Bodnant drwy gydol y flwyddyn neu o'r ciosg ar lan yr afon yn y Glyn.
Gydag 80 erw i’w harchwilio, mae taith gerdded at ddant pawb. Mae croeso i gŵn ar dennyn byr (tennyn na ellir ei ymestyn) bob dydd Iau, Gwener, Sadwrn a Sul o 1 Ebrill i ddiwedd mis Medi. Darganfyddwch fwy am ddod eich ci i Ardd Bodnant yma.
Dewch i ymweld â gardd o’r safon uchaf yng Nghymru yng Ngardd Bodnant a mwynhau 80 erw o erddi ffurfiol, coetir a chaeau a chasgliadau botanegol o bob rhan o’r byd.