![Lilis yn yr haf yng Ngardd Bodnant, Bae Colwyn](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/bodnant-garden/library/summer/lilies-in-summer-at-bodnant-garden-colwyn-bay-wales-1421390.jpg?auto=webp&width=767&crop=16:9&dpr=2 2x)
Darganfyddwch fwy yng Ngardd Bodnant
Dysgwch pryd mae Gardd Bodnant ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Bydd gardd wych yn cynnig rhywbeth i’w fwynhau yn ystod pob tymor ac mae gan Bodnant, sydd yn Rhestredig Gradd I, 80 erw o erddi ffurfiol, coetir a golygfeydd panoramig o’r mynyddoedd i danio eich synhwyrau. Chwiliwch am daith gerdded sy’n addas i chi, ac edmygu harddwch y cynlluniau plannu lliwgar.
Dewch i fwynhau golygfeydd, arogleuon a seiniau hudolus ein terasau Eidalaidd enwog sy’n blodeuo’n brydferthach nag erioed wrth i flynyddoedd o waith cadwraeth ddwyn ffrwyth.
Cynlluniwyd ac adeiladwyd pum teras Eidalaidd ffurfiol Gardd Bodnant rhwng 1904 ac 1914 gan Henry McLaren, un o’r teulu a roddodd y lle, yn yr arddull Celf a Chrefft newydd. Mae dylanwad ei fam Laura McLaren, Arglwyddes Aberconwy, yn amlwg yn y cynllun plannu â’i hoffter o blanhigion cynhenid a blodau’r ardd fwthyn.
Yn fwy diweddar mae gerddi’r terasau wedi bod yn mwynhau sylw gofalus gan ein tîm garddio. Adnewyddwyd y Teras Rhosod Uchaf yn 2006 a’r Teras Rhosod Isaf yn 2012. Ail-blannwyd yr hen welyau gyda Rhosod Seisnig llawn arogleuon, llawer ohonynt o gasgliad enwog David Austin, sy’n blodeuo’n barhaus o fis Mehefin i fis Hydref.
Crëwyd gwelyau newydd hefyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf - yr Ardd Wen yn 2014, y Gwely Pabi Himalaya yn 2015 a dyluniad newydd ar gyfer borderi hir Teras y Gamlas yn 2017.
Ar eich ochr dde wrth ichi adael adeilad y Ganolfan Ymwelwyr a mynd i mewn i’r ardd, fe welwch forderi blodau. Mae’r rhain wedi’u plannu â lliwiau llachar yr haf ac maent yno er parch i’r tai gwydr a arferai fod yn y fan hon. Bydd y lliwiau coch, oren a melyn llachar yn cynnig diddordeb drwy gydol misoedd yr haf tan ddechrau mis Medi.
Eleni, bydd Gardd Bodnant yn dathlu 150 o flynyddoedd ers iddi gael ei phrynu mewn arwerthiant gan Henry Davis Pochin, diwydiannwr o Oes Fictoria, a’i wraig ym 1874. Ar y pryd roedd ‘Bodnod’, fel y’i gelwid ers talwm, yn ystad a chanddi ardd furiog, coedwigoedd a phlanhigfeydd. Gweledigaeth fawr Pochin a ffurfiodd ac a arweiniodd at yr ardd restredig Gradd 1 a welwn heddiw.
Yn 2024, byddwn hefyd yn dathlu 75 o flynyddoedd ers i Henry McLaren, Arglwydd Aberconwy, roi Gardd Bodnant yn rhodd i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ym 1948, perswadiodd McLaren yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i dderbyn y gerddi dan ofal yr elusen – Bodnant oedd yr ail ardd yn unig i ddod dan ofal yr Ymddiriedolaeth ym 1949, ar ôl Hidcote.
Drwy gydol y flwyddyn, byddwn yn rhannu rhagor o wybodaeth am hanes yr ardd a’r bobl a fu’n hollbwysig o ran creu a datblygu’r hyn a welwn yma heddiw. O weledigaeth gyntaf y teulu hyd at brif arddwyr yn datblygu ac yn croesi Rhododendronau Bodnant, a’r gwaith a gaiff ei wneud hyd heddiw gan dîm yr ardd – bydd yn bleser cael rhannu rhagor o wybodaeth gyda chi drwy gydol y flwyddyn.
O fis Mawrth, bydd yr Hen Felin yn y Glyn ar agor i ymwelwyr a bydd yn cynnwys arddangosfa’n llawn gwybodaeth a ffotograffau archif o’r 150 o flynyddoedd diwethaf yn hanes yr ardd. Cadwch olwg ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol yn ystod 2024 i gael rhagor o wybodaeth a manylion am ddigwyddiadau i’n helpu i ddathlu’r flwyddyn goffa hon yn hanes Gardd Bodnant.
Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi bod yn gofalu am Ardd Bodnant ers 1949 – ac yn wir, dyma ardd sy’n hoff iawn o dorri tir newydd. Mae hi’n gartref i’r bwa tresi aur cynharaf a mwyaf trawiadol, a gwblhawyd oddeutu 1880, a hefyd mae hi’n gartref i rai o’r coed magnolia cynharaf a gyflwynwyd o Tsieina yn niwedd y 1800au. Dywedir bod yna goeden rhododendron yn ei blodau bob mis o’r flwyddyn ym Modnant, ond bydd y coed hyn yn cyrraedd eu penllanw yn ystod Ebrill a Mai.
Mae’r ardd yn arbennig o enwog am ei choed rhododendron o Asia, yn cynnwys mathau hybrid a fagwyd yn yr ardd o’r 1920 ymlaen. Mae modd gweld nifer o’r coed unigryw hyn yn yr ardd hyd heddiw. Hefyd, mae Bodnant yn gartref i bump o Gasgliadau Cenedlaethol – coed rhododendron forrestii, coed magnolia, planhigion embothrium (a elwir yn ‘llwyni tân Chile’), llwyni eucryphia a choed rhododendron Hybrid Bodnant.
Mae Gardd Bodnant yn enwog am ei gardd rosynnau – yr orau trwy Gymru – yn ogystal â’i therasau Eidalaidd ffurfiol, a gynlluniwyd ac a adeiladwyd yn yr arddull ‘Celfyddyd a Chrefft’ newydd rhwng 1904 a 1914. Mae’r ardd hon yn gartref i wahanol fathau o rosynnau sydd wedi hen ennill eu plwyf, yn cynnwys amrywogaethau David Austin, a rhwng Mehefin a diwedd Medi mae hi’n llawn lliw a phersawr.
Caiff dau o’r terasau eu cydnabod ar sail eu pyllau hardd, sy’n gartref i lilïau dŵr ac amryw byd o fywyd gwyllt. Wrth blannu’r borderi ar bob un o’r terasau, rhoddwyd ystyriaeth ofalus i’r amgylchedd o’u hamgylch ac maent yn cyd-fynd â’r flwyddyn y cawsant eu creu. Bwriad pob un o’r pum teras yw cynnig rhyfeddod wrth ichi symud i lawr o’r naill i’r llall.
Mae blodau euraid y Bwa Tresi Aur yn denu miloedd o ymwelwyr i’r ardd bob blwyddyn rhwng diwedd Mai a dechrau Mehefin. Bydd y bwa’n blodeuo am oddeutu 10-14 diwrnod bob blwyddyn. Y bwa hwn yw’r unig fwa o’i fath drwy’r wlad, ac mae yna dipyn o dro ynddo gan ei fod yn dilyn y wal sy’n sefyll wrth ei ochr.
Mae’r Ardd Gron, gyda’i ffownten ddŵr o’r ddeunawfed ganrif, yn cynnig diddordeb drwy gydol y gwanwyn a’r haf gyda’i phedwar cwadrant a’i chynllun plannu newydd. Mae ffurfiau strwythurol a phennau hadau’n cynnig diddordeb drwy gydol misoedd yr hydref a’r gaeaf.
Mae Gardd y Gaeaf, a leolir yn union cyn cyrraedd giât uchaf Gweirglodd yr Hen Barc, yn cynnwys drysfa o lwybrau sy’n eich tywys trwy amrywiaeth o gwyros, sgimiâu, syclamen, gellesg a bliwlys. Fel yr awgryma’r enw, daw’r ardd hon yn fyw yn ystod misoedd y gaeaf, gan gynnig lle diddorol a thawel i eistedd.
Mae’r Borderi Llwyni yn rhoi cipolwg ichi ar y rhyfeddodau sy’n eich disgwyl i lawr yn y Glyn. Mae’r borderi hyn yn gartref i goed camelia a magnolia yn ogystal â rhai o’r coed rhododendron hybrid gwaetgoch a ddaw ag enwogrwydd i Fodnant. Y tu ôl i’r Felin Binnau ceir llwybr sy’n arwain i lawr heibio coed camelia a rhododendron at ardd gerrig a gaiff ei bwydo gan nant – ddiwedd y gwanwyn a dechrau’r haf, daw’r ardd gerrig hon yn fyw gyda lilïau Himalaiaidd enfawr, rhedyn a phlanhigion hosta.
Mae’r Llennyrch yn gwahanu’r Borderi Llwyni a’r Glyn. Yn y gwanwyn, dyma lecyn da i gennin Pedr, ac yn fuan wedyn bydd clychau’r gog yn tyfu yno. Yn ystod misoedd yr Hydref, bydd y Llennyrch yn cynnig gwledd o goch ac oren llachar. Mae coed o bob cwr o’r byd, yn cynnwys cwyros, coed eirin, lliwefr a phawlinia, yn cynnig diddordeb drwy gydol y flwyddyn, a rhwng Medi a Thachwedd bydd masarn yn goleuo’r Goedardd.
Mae pridd cyfoethog ac atmosffer llaith y Glyn yn gweddu i goed rhododendron â dail mwy. Dewch i wirioni ar Bont y Rhaeadr – ar un ochr ceir llifeiriant dŵr ac ar yr ochr arall ceir pwll tawel, adlewyrchol. Mae’r fan hon yn gartref i fywyd gwyllt, yn cynnwys gleision y dorlan, bronwennod y dŵr, crehyrod a hwyaid. Yn uwch i fyny’r afon fe ddewch o hyd i’r Pwll Sglefrio a’r Cwt Cychod, lle bydd lliwiau llachar helyg wylofus, cochwydd collddail ac asaleas yn arwydd bod y gwanwyn wedi dod.
Mae’r rhan hon o’r ardd yn cynnig golygfeydd i gyfeiriad y tŷ a’r terasau, a hefyd ar draws Afon Conwy. Yn y gwanwyn daw Llwybr Penjerrick, ar ben Bryn Ffwrnais, yn fyw gyda gwahanol fathau o goed rhododendron, yn cynnwys Augustinii, Penjerrick a ‘Reve d’amour’ ymhlith eraill. Beth am eistedd ar Sedd yr Arglwyddes am dipyn i fwynhau’r olygfa i gyfeiriad y tŷ a’r terasau.
Mae gan Ardd Bodnant ddwy o weirgloddiau blodau gwyllt. Mae Gweirglodd yr Hen Barc yn dyddio i’r cyfnod Sioraidd. Yn gynnar yn y gwanwyn, mae’r weirglodd hon yn gartref i gennin Pedr, a thrwy fis Mai a mis Mehefin bydd wedi’i charpedu â myrdd o flodau gwyllt. Yn ystod y gaeaf, bydd defaid yn pori’r Hen Barc hyd at y Nadolig. Mae Gweirglodd y Ffwrnais wedi’i lleoli ar y llethr ddeheuol, uwchlaw gardd glan yr afon – llecyn tawel lle gallwch fwynhau natur, ni waeth be fo’r tymor.
Dysgwch pryd mae Gardd Bodnant ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mwynhewch luniaeth yn ystafelloedd te Gardd Bodnant drwy gydol y flwyddyn neu o'r ciosg ar lan yr afon yn y Glyn.
Gydag 80 erw i’w harchwilio, mae taith gerdded at ddant pawb. Mae croeso i gŵn ar dennyn byr (tennyn na ellir ei ymestyn) bob dydd Iau, Gwener, Sadwrn a Sul o 1 Ebrill i ddiwedd mis Medi. Darganfyddwch fwy am ddod eich ci i Ardd Bodnant yma.
Dewch i ddarganfod y llu o blanhigion a choed egsotig a phrin yng Ngardd Bodnant, gan gynnwys pum Casgliad Cenedlaethol, ynghyd â chasgliad mwyaf Cymru o Goed sy’n Bencampwyr yn y Deyrnas Unedig.
Dysgwch sut y gwnaeth ‘annedd ger y nant’ wrth droed mynyddoedd Eryri droi yn hafan arddwriaethol fyd-eang diolch i genedlaethau o’r teulu McLaren a phen-garddwyr Puddle.
Gwaith cenedlaethau yw’r ardd ym Modnant, gan ddechrau gyda’r teulu Pochin ar ôl iddyn nhw symud o Fanceinion. Dysgwch am y bobl a wnaeth wneud Bodnant yr hyn welwn ni heddiw.