Darganfyddwch fwy yng Ngardd Bodnant
Dysgwch pryd mae Gardd Bodnant ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Nid gwaith un unigolyn yw Gardd Bodnant, ond gwaddol cariad gan sawl cenhedlaeth o un teulu. Ar y dechrau, roedd yn amgylchedd heddychlon a swynol yn Nyffryn Conwy i fwynhau ymddeoliad, ymhell o brysurdeb gwaith a diwydiant ym Manceinion cyfnod Fictoria, ond daeth yn llawer iawn mwy. Dysgwch am waith y teuluoedd Pochin a McLaren, ym Modnant ac yn eu gwaith bob dydd a’u gwaith gwleidyddol.
Roedd sylfaenydd Gardd Bodnant, Henry Pochin yn biler y gymdeithas yng nghyfnod Fictoria, yn arweinydd diwydiannol ac yn wyddonydd oedd â diddordeb angerddol mewn planhigion. Wedi ei eni yn 1824, daeth Henry Davis Pochin, y cemegydd oedd yn fab i ffermwr o Swydd Gaerlŷr, i amlygrwydd, a gwneud ei ffortiwn trwy ddarganfod proses ddistyllu i droi sebon lliw brown cyfnod Fictoria yn wyn a chynhyrchu alwm, oedd â galw mawr amdano yn y diwydiant gwneud papur a lliwio.
Gyda’r cyfoeth a wnaeth trwy ei chwys ei hun aeth ymlaen i ariannu cwmnïau yn y diwydiannau glo, haearn a dur, peirianneg ac adeiladu llongau. Roedd ganddo uchelgais i fod yn wleidydd hefyd gan dueddu at ochr radical y blaid Ryddfrydol ac yn 1852 priododd Agnes Heap, oedd ei hun yn amlwg yn y mudiad i ennill pleidlais i ferched.
O’u cartref yn Salford roedd y cwpl yn brysur yn eu cymuned yn gweithio i wella bywydau gweithwyr, a bu Pochin yn gynghorydd ac yna yn faer.
Ar adeg ei phriodas roedd Agnes eisoes yn amlwg yn y mudiad i ennill pleidlais i ferched. Yn 1853 ceisiodd ddarbwyllo’r AS John Bright i gynnwys cymal pleidlais i ferched yn ei Fesur Diwygio yn 1853 ac wedyn yn 1855, dan yr enw Justitia, cyhoeddodd ‘The Right of Women to Exercise the Elective Franchise’.
Yn 1868 bu’n annerch cyfarfod cyhoeddus arloesol yn Neuadd Fasnach Rydd Manceinion, gyda’i gŵr yn y gader, ac o’r cyfarfod hwnnw y ffurfiwyd Cymdeithas Genedlaethol Manceinion dros Bleidlais i Ferched. Y flwyddyn ganlynol trefnodd Agnes a Henry ddeiseb yn Salford, ac oherwydd hynny ychwanegwyd 1,248 o ferched at gofrestr etholiadol Salford.
Ar ôl sawl blwyddyn brysur ym Manceinion, ymddeolodd y cwpwl i Bodnant, Gogledd Cymru, yn 1874, a dechreuodd Pochin aildrefnu Neuadd Bodnant a datblygu’r gerddi i arddangos ei gasgliad o goed a llwyni egsotig. Denodd y dyluniwr tirlun enwog Edward Milner yno i ddatblygu’r ardd lwyni Fictoraidd ffurfiol o gwmpas y tŷ, gan gynnwys y Bwa Tresi Aur.
Pochin hefyd fu’n annog datblygiad y gerddi ar lan yr afon, gan oruchwylio’r gwaith o blannu conwydd Gogledd America, a phrosiect gwaith carreg anferth i atgyfnerthu glannau a’r dyfrffyrdd, a chreu llwybrau sy’n creu’r teithiau cerdded rhamantus yn y glyn.
Roedd Pochin yr un mor brysur fel perchennog tir lleol, gan adeiladu bythynnod ar ystâd Bodnant a gwella arferion amaethyddol. Prynodd dir ym Mhrestatyn gerllaw hefyd, ar arfordir Gogledd Cymru, gan gyflenwi’r dref lan môr â dŵr glân a nwy, adeiladu amddiffynfeydd rhag llifogydd a datblygu blaen traeth a phromenâd.
Bu Pochin yn Ynad Heddwch, yn Ddirprwy Raglaw a Sirydd Sir Ddinbych a bu’n brysur ym myd busnes yn ystod yr 1880au. Parhaodd Agnes ei brwydr dros bleidlais i ferched, gan fod yn aelod o’r Gymdeithas Ganolog dros Bleidlais i Ferched, a chefnogi gwaith ei merch, Laura.
Bu Henry farw yn 1895 ac Agnes yn 1908.
Roedd Laura Pochin yn rhannu brwdfrydedd ei thad am yr ardd a chefnogai waith ei mam yn y mudiad pleidlais i ferched. Parhaodd Laura’r gwaith yn yr ardd ar lan yr afon ar ôl marwolaeth ei thad, gan ddatblygu’r ardd wyllt a’r ardd goed yn y Pen Pellaf.
Daeth y teulu Pochin a McLaren i adnabod ei gilydd trwy gyfeillgarwch y gwleidydd Rhyddfrydol enwog, John Bright â Henry Pochin. Roedd chwaer John, Agnes, wedi priodi Duncan McLaren ac roedd hithau’n ymgyrchydd diflino dros bleidlais i ferched.
Unwyd y ddau deulu yn 1877, pan briododd Charles, mab Priscilla a Duncan McLaren, ferch Henry ac Agnes, Laura. Gwnaed Charles, bargyfreithiwr Albanaidd ac AS dros Stafford a Bosworth, yn arglwydd yn 1911 a dewisodd y teitl Arglwydd Aberconwy.
 hwythau yn blant i rieni oedd yn ymgyrchu, roedd Laura a Charles yn ymwybodol ers yn ifanc iawn o’r ymgyrch dros bleidlais i ferched ac fe wnaethant barhau i feithrin pwysigrwydd eiriol dros hawliau merched yn eu plant a’u hwyrion.
Parhaodd Laura hefyd â gwaith ymgyrchu ei mam dros y mudiad pleidlais i ferched. Dadleuai Laura ei bod yn rhaid i bob merch gael ei lle dyledus fel dinesydd llawn mewn bywyd gwleidyddol i’r genedl ffynnu.
– Laura McLaren, The Academy (Medi 1908 yn y Saesneg gwreiddiol)
Tynnodd Laura sylw at gam-drin merched ifanc, gan godi pwnc nad oedd yn cael ei drafod fel arfer mewn cymdeithas barchus, a bu’n llafar dros ddirwyn Masnachu Caethweision Gwyn i ben. Yn 1912 bu Laura’n lobïo dros y Mesur Gwerthu Caethion Gwyn er mwyn atal caffael merched ar gyfer puteiniaeth. Roedd yn sylweddoli hefyd, heb bleidlais, bod llawer o’i rhyw yn cael eu cadw mewn rhyw fath o gaethwasiaeth, gartref ac yn y gweithle.
Credai Laura bod cefnogi merched yn allweddol i gadw cenedl yn iach, o’r crud i’r bedd. Cymerodd dros 60 mlynedd o waith caled gan dair cenhedlaeth o’r teulu i sicrhau bod y Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918 yn cael ei chymeradwyo. Ni fu Agnes a Priscilla, mamau’r teulu, fyw i weld y diwrnod hwnnw, ond fe wnaeth Laura a’i merched.
Dilynodd mab Laura, Henry, yn ôl troed ei dad a bu’n AS Rhyddfrydol dros Orllewin Swydd Stafford a Bosworth. Aeth ymlaen i arwain y busnesau teuluol, ond, prif ddiddordeb yr 2il Arglwydd Aberconwy oedd yr ardd ym Modnant.
Prif lwyddiant Henry oedd dylunio ac adeiladu’r pum teras, prosiect a roddwyd iddo gan ei fam, Laura. Roedd ganddo ddiddordeb angerddol mewn coed a llwyni newydd egsotig oedd yn cael eu darganfod yn Asia a gwledydd America. Roedd hefyd yn llywydd ar y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol o 1931 hyd ei farwolaeth.
Yn 1948 darbwyllodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i dderbyn gerddi ar eu teilyngdod eu hunain i ddwylo’r elusen a Bodnant oedd yr ail a dderbyniwyd yn 1949 ar ôl Hidcote. Pan fu Henry farw yn 1953, etifeddodd ei fab, Charles, y teitl 3ydd Arglwydd Aberconwy a’r gwaith o ofalu am ystâd a gardd Bodnant.
Yn ystod cyfnod o hanner canrif arall, parhaodd Charles i ddatblygu Gardd Bodnant gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gan wneud gwelliannau, agor golygfeydd newydd, ac ychwanegu planhigion newydd.
Yn yr un modd â’i dad, bu’n llywydd ar y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol o 1961 hyd 1984. Etifeddodd ei fab Michael McLaren yr ystâd yn 2003 pan fu ei dad farw ac mae’n weithgar hyd heddiw, fel cyfarwyddwr yr ardd, gan gynnal cysylltiad pwysig y teulu â Gardd Bodnant.
Am 85 mlynedd roedd datblygiad Gardd Bodnant yn fater teuluol, partneriaeth rhwng y teulu McLaren a’u prif arddwyr, y teulu Puddle.
Cyrhaeddodd Frederick Puddle Bodnant fel prif arddwr yn 1920 a dyna gychwyn pennod newydd i’r ardd. Roedd yn arddwr talentog, ac roedd yn rhannu’r un diddordeb mewn planhigion â’r 2il Arglwydd Aberconwy, oedd yn noddi teithiau botanegol byd-eang.
Gyda’r mewnlifiad hwn o blanhigion newydd egsotig o Asia a De America fe wnaethant drawsnewid yr ardd. Roeddent yn gweithio’n glos hefyd ar raglen fridio planhigion yr ardd gan gynhyrchu llawer o blanhigion hybrid, rhododendron yn neilltuol, o’r planhigion newydd yma oedd yn cael eu darganfod. Arweiniodd gallu Frederick Ardd Bodnant at nifer o wobrau aur yn Sioe Flodau Chelsea a dyfarnwyd Medal Anrhydedd Fictoria yr RHS iddo ochr yn ochr â’i gyflogwyr.
O 1947 dilynodd mab Frederick, Charles, yn ei ôl troed i ddod yn brif arddwr a dyfarnwyd Medal Anrhydedd Fictoria’r RHS iddo yntau am ei lwyddiannau garddwriaethol. Charles Puddle oedd yn y swydd pan roddwyd Gardd Bodnant i ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1949.
Arweiniodd Charles a’i fab Martin, a ddaeth yn brif arddwr yn 1982, Bodnant trwy’r cyfnod newydd hwn, pan ddaeth yn un o erddi enwocaf Prydain. Dim ond pan fu Martin farw yn 2005 y torrwyd y cysylltiad teuluol maith hwn. Crëwyd Gardd Puddle yn agos at ein Canolfan Groeso yn 2011 fel teyrnged i’r tri dyn yma ac mae’n llawn o’r planhigion yr oeddent wrth eu bodd hefo nhw.
Dysgwch pryd mae Gardd Bodnant ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Dysgwch sut y gwnaeth ‘annedd ger y nant’ wrth droed mynyddoedd Eryri droi yn hafan arddwriaethol fyd-eang diolch i genedlaethau o’r teulu McLaren a phen-garddwyr Puddle.
Gydag 80 erw i’w harchwilio, mae taith gerdded at ddant pawb. Mae croeso i gŵn ar dennyn byr (tennyn na ellir ei ymestyn) bob dydd Iau, Gwener, Sadwrn a Sul o 1 Ebrill i ddiwedd mis Medi. Darganfyddwch fwy am ddod eich ci i Ardd Bodnant yma.
Dewch i ddarganfod y llu o blanhigion a choed egsotig a phrin yng Ngardd Bodnant, gan gynnwys pum Casgliad Cenedlaethol, ynghyd â chasgliad mwyaf Cymru o Goed sy’n Bencampwyr yn y Deyrnas Unedig.
Mwynhewch luniaeth yn ystafelloedd te Gardd Bodnant drwy gydol y flwyddyn neu o'r ciosg ar lan yr afon yn y Glyn.