Dechrau i ganol yr 1800au
Henry Davis Pochin
Pan brynodd y diwydiannwr Henry Davis Pochin a’i wraig Bodnant mewn arwerthiant yn 1874 roedd gan yr ystâd ardd furiog, coedwig a phlanhigfeydd, ond gweledigaeth fawr Pochin a siapiodd yr ardd yn un adnabyddus ar draws y byd, yr un yr ydym ni yn ei hadnabod heddiw.
Bwa Tresi Aur
Sicrhaodd Pochin sgiliau'r dylunydd tirwedd Edward Milner i ddatblygu'r ardd lwyni Fictoraidd ffurfiol o amgylch y tŷ, gan gynnwys y Bwa Tresi Aur enwog. Ef hefyd a gerfiodd y llethrau lawr at yr afon, gan blannu'r conifferau o Ogledd America a chreu llwybrau i ffurfio'r glynnoedd rhamantus a'r gerddi dŵr.
Fel tirfeddiannwr lleol roedd Pochin yr un mor weithgar, yn adeiladu bythynnod ar ystâd Bodnant a gwella arferion amaethyddol.