Skip to content
Prosiect

Meddwl fel dafad i blannu coeden

Ŵyn mynydd Cymreig ar fferm Hafod y Llan, Eryri
Ŵyn mynydd Cymreig | © National Trust Images/Paul Harris

Mae prosiect anarferol yn annog wardeiniaid a gwirfoddolwyr i feddwl fel defaid wrth blannu coed yn Nyffryn Mymbyr, Eryri. Dysgwch beth sydd tu ôl i’r dull newydd yma.

Pam meddwl fel dafad?

Fel arfer mae prosiectau plannu coed yn golygu symud yr holl anifeiliaid fferm o’r ardal trwy godi ffensys neu waliau. Yn Eryri mae rhai syniadau newydd yn cael eu treialu, heb ddefnyddio ffensys, sy’n golygu plannu coed mewn ffordd sy’n golygu ei bod yn anodd, neu amhosibl, i anifeiliaid eu bwyta.

‘Meddyliwch fel dafad a gofyn i’ch hun, “a allai fwyta’r goeden yna?” Os mai na yw’r ateb, yna rydych wedi gwneud gwaith gwych,’ esbonia Warden yr Ardal, Simon Rogers i’w griw o wirfoddolwyr.

Technegau plannu clyfar

Trwy ddefnyddio nodweddion naturiol y tir a thechnegau plannu clyfar mae’n bosibl plannu coed er bod anifeiliaid fferm yn dal yn bresennol.

Mae ‘plannu sabrau’ yn golygu plannu coed ar 90 gradd i lechwedd serth, gan helpu i gadw’r tyfiant bregus mor bell o’r cyrraedd â phosibl. Mae’r diogeliad naturiol yn cynnwys defnyddio nodweddion yn y dirwedd i wneud y coed yn anodd eu cyrraedd. Mae’r nodweddion defnyddiol yn cynnwys eithin, rhedyn, llethrau serth, cerrig mawr, glannau afon a darnau creigiog.

Y goeden iawn i’r lle iawn

Gall dewis y coed sy’n cael eu plannu yn ofalus hefyd helpu. Daw’r coed a ddefnyddir yn Nyffryn Mymbyr o’r ardal leol gan Gwynant Trees sy’n casglu’r hadau yn Nant Gwynant a Chapel Curig. Mae’r coed tua 150cm o uchder ac yn cael eu tyfu mewn potiau, gyda’r uchder yn helpu i gadw’r tyfiant blaen allan o gyrraedd a’r potiau yn chwarae eu rhan wrth ddatblygu pelen o wreiddiau da a chryf.

Ansawdd nid swmp

Nid yw llwyddiant y prosiect yn cael ei fesur o ran sawl coeden sy’n cael ei phlannu, mae’r cyfan yn ymwneud ag ansawdd y plannu i sicrhau bod cymaint o goed ag sy’n bosibl yn goroesi. Rhoddir anogaeth i wirfoddolwyr gymryd eu hamser, astudio’r dirwedd a ‘meddwl fel dafad’ cyn dewis lleoliad i blannu pob coeden.

Mae gwirfoddolwyr wedi plannu 3,000 o goed dros y tair blynedd ddiwethaf ac mae tua 75 y cant wedi goroesi. Y nod yw plannu cyfanswm o 5,000 o goed erbyn diwedd y prosiect ‘Ffridd i’r Dyfodol’ pum mlynedd, sy’n cael ei ariannu gan y Royal Oak Foundation.

Golygfa o Ddyffryn Mymbyr yn Eryri, Cymru
Dyffryn Mymbyr | © National Trust Images

Manteision plannu coed

Dyffryn Mymbyr yw’r ddolen goll rhwng y ddau ddyffryn coediog o gwmpas Nant Gwynant a Chapel Curig. Gall ymestyn y gorchudd coed yn ardal ‘ffridd’ y fferm helpu i wella’r cysylltedd rhwng y ddwy ardal o goetir o boptu, gan adael i adar a mamaliaid bach gael cyfle i ehangu eu hardal hefyd. Mae’n golygu y bydd gwell gorchudd coed, a gorchudd mwy parhaus trwy’r rhan hon o Eryri.

Mae’r rhan fwyaf o’r plannu wedi digwydd mewn ceunentydd ac ar lan nentydd gan mai dyma ble mae’r warchodaeth naturiol orau i’w chael ond gall plannu ar hyd ceunentydd gynnig manteision ychwanegol. Mae coed yn helpu i arafu llif dŵr yn ystod llifogydd sydyn a gallant hefyd wella ansawdd dŵr. Bydd y glaw sy’n disgyn yn Nyffryn Mymbyr yn y pen draw yn cyrraedd afon Conwy, sy’n adnabyddus am ei llifogydd. Y gobaith yw y bydd plannu coed yma yn lleihau’r llifogydd i lawr yr afon ac yn gwella ansawdd dŵr.

Rhoi cysgod

Ar ôl i’r coed dyfu, gallant hefyd fod yn lleiniau cysgodi ar gyfer y mamogiaid mynydd, a all wella llesiant a chynhyrchiant yr anifeiliaid yn fawr. Yn gyffredinol, mae’r dull hwn o blannu yn llawer llai costus ac yn creu llai o effaith gweledol ar y dirwedd mewn cymhariaeth â ffensio ardal i blannu coed.

Beth nesaf?

Hyd yn hyn mae’r prosiect wedi dangos y gall coed newydd gael eu sefydlu mewn tirwedd sy’n cael ei hamaethu ar gost gymharol isel a heb golli ardal bori. Mae’r manteision i fywyd gwyllt yn amlwg ac mae’r manteision ychwanegol o ddŵr araf, glân a chysgod i anifeiliaid yn gwneud y syniadau’n neilltuol o gyffrous.

Defnyddir canlyniadau’r prosiect i ddangos manteision y dull i ffermwyr, perchenogion tir a wardeiniaid. Gobeithio y bydd yn arwain at weld rhagor o goed yn cael eu sefydlu ar ffermydd ucheldir ar draws y wlad er budd bywyd gwyllt, anifeiliaid, dŵr ac efallai, yn bennaf oll, y coed eu hunain.

Dau o bobl allan yn cerdded yn yr eira gyda chi yn croesi camfa rhwng Tryfan a’r Glyder Fach gyda Nant Ffrancon yn y cefndir yn y Carneddau a’r Glyderau, Gwynedd.

Darganfyddwch fwy am Garneddau a Glyderau

Dysgwch sut i gyrraedd Carneddau a Glyderau, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Prosiect
Prosiect

Meddwl fel dafad i blannu coeden 

Darllenwch ragor am brosiect sy’n annog wardeiniaid a gwirfoddolwyr yng Nghymru i feddwl fel defaid wrth blannu coed yn Nyffryn Mymbyr, Carneddau a Glyderau, Eryri.

Dau o bobl allan yn cerdded yn yr eira gyda chi yn croesi camfa rhwng Tryfan a’r Glyder Fach gyda Nant Ffrancon yn y cefndir yn y Carneddau a’r Glyderau, Gwynedd.
Erthygl
Erthygl

Cerdded a dringo ar Dryfan 

Beth sy’n gwneud Tryfan mor arbennig? Dysgwch am hanes y copa garw a’r heriau y mae’n eu rhoi i ddringwyr a mynyddwyr sy’n ceisio ei goncro.

Pedwar cerddwr yn dringo bryn creigiog ger Pen yr Ole Wen, y Carneddau a’r Glyderau, Gwynedd. Mae llawer o gerrig anferth ar y bryn ac mae copa i’w weld yn y cefndir.
Erthygl
Erthygl

Hanes a chwedlau Cwm Idwal 

Dysgwch am orffennol Cwm Idwal, y ffordd y darganfu Darwin sut y crëwyd Cwm Idwal a chwedl tywysog o’r 12fed ganrif a’i fab oedd yn dal y tir