Darganfyddwch fwy yng Nghoedwigoedd Cleddau
Dysgwch sut i gyrraedd Coedwigoedd Cleddau, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mae dyfroedd cysgodol Afon Cleddau yn llifo o dref sirol Hwlffordd i lawr am Aberdaugleddau. Mwynhewch daith gerdded hamddenol gan basio Coed Little Milford, coetir derw hynafol o Lawrenni, a’r traethellau lleidiog yn West Williamston. Mae’n siŵr y gwelwch amrywiaeth o rydwyr ac adar dŵr ar hyd y daith.
O byllau glo i gonifferau, mae Little Milford wedi gweld y cyfan dros y canrifoedd. Yn ystod y 1900au cafodd tua thri chwarter y coed derw gwreiddiol eu cwympo i wneud lle ar gyfer coedwigaeth fasnachol. Rydym yn adfer y coed derw, sydd bellach yn hafan i fywyd gwyllt a cherddwyr, yn ôl i’w gwir ogoniant.
Tybir bod y coetir ei hun yn dyddio’n ôl i’r 11eg ganrif o leiaf, gyda’r trigolion ar hyd yr oesoedd yn gwneud y gorau o’r coed collddail. Manteisiodd y Normaniaid ar yr holl bren a choed tân, ac roedd y coed derw’n cael eu coedlannu’n rheolaidd tan y 1920au.
Chwaraeodd glo rôl fawr yn yr ardal hefyd. Ar ei hanterth, roedd Hook, y pentref cyfagos, yn cynnwys sawl pwll bach lle cloddiwyd glo caled – caeodd yr olaf o’r rhain ym 1959.
Daeth Little Milford yn safle masnachol yn ystod y cyfnod hwn, gyda rhannau eang o’r coetir yn cael eu cwympo a’u hailblannu â chonifferau.
Rhoddwyd y tir a sawl annedd i ni ym 1975 gan Mr Harcourt Roberts, disgynnydd i’r teulu a oedd yn berchen ar yr ystâd ac a arbrofodd gyda choedwigaeth broffidiol.
Yn 2012 gwnaethom gynaeafu’r rhan fwyaf o’r conifferau ac ailblannu’r ardaloedd a gliriwyd gyda chymysgedd o goed llydanddail.
Mae’r crëyr bach copog, y chwiwell, y gwalch a’r crëyr glas ymysg y rhywogaethau y gallech eu gweld, yn ogystal â’r gwybedog brith, y tingoch, y llwydfron a thelor yr ardd. Cadwch lygad ar agor am goed cyll, bedw a chelyn ar eich taith.
Gyda chefnlen o forfeydd heli, traethellau lleidiog a chilfachau llanwol, mae hwn yn baradwys ar gyfer gwylio adar a dianc rhag prysurdeb bywyd.
Mae’r pentir ar lannau’r Gleddau Ddu, lle mae afonydd Caeriw a Cresswell yn uno. Mae’r coetir tawel a heddychlon yn cael ei reoli fel gwarchodfa natur drwy brydles i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru ar eu gwefan.
Dewch â’ch binocwlars a chadwch lygad barcud ar y morfeydd heli a’r traethellau lleidiog eang sy’n cynnig golygfeydd gwych o’r glannau – y lle delfrydol i ddod wyneb yn wyneb ag adar hirgoes ac adar y dŵr.
Rownd y gornel, fe welwch gilfachau llanwol creigiog yr hen chwareli calchfaen, sy’n dyddio’n ôl i ddiwedd y 18fed ganrif. Cafodd llawer ohonynt eu cloddio a’u camlesu fel mannau llwytho i alluogi’r badau i ddocio, ond maen nhw nawr yn trawsnewid yn araf yn forfeydd heli.
Ewch am dro drwy’r coetir cyfagos a chewch eich cyfarch gan ynn a sycamorwydd. Gydag ychydig o lwc, fe allech weld un o bili-palod prinnaf Sir Benfro, y brithribin brown, sydd i’w weld yma ar ddiwedd yr haf.
Y coed derw hynafol yw sêr y coetir, yn amlwg, yn arbennig yn Lawrenni. Ond bwriwch olwg y tu hwnt i’r rhain ac fe welwch ynn a sycamorwydd, ynghyd â thoreth o gen a ffyngau.
Gadewch y coetir ar eich ôl a mentro i lan yr afon, lle gwelwch brysgwydd draenen ddu trwchus a phlanhigion mwy anghyffredin, gan gynnwys y tegeirian gwenynog.
Mae Ffermdy Little Milford a Chaban Little Milford yn fythynnod gwyliau erbyn hyn - mwynhewch wyliau heddychlon ger yr aber a’r coetir prydferth.
Dysgwch sut i gyrraedd Coedwigoedd Cleddau, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Darganfyddwch gartref masnachwr Tuduraidd cyfoethog yn Nhŷ’r Masnachwr Tuduraidd. Cewch flas ar fywyd masnachwr canoloesol poblogaidd yn oes y Tuduriaid yn y lle arbennig hwn.
A more than comfortable farmhouse complete with a snug room and views of the Cleddau River.
An apartment in the Cleddau woodlands on the Little Milford estate, close to Haverfordwest.