Skip to content

Ymweld â Thŷ’r Masnachwr Tuduraidd

Golygfa o stryd Dinbych-y-pysgod a’r harbwr
Stryd Dinbych-y-pysgod ger Tŷ’r Masnachwr Tuduraidd, Dinbych-y-pysgod | © National Trust / James Dobson

‘Slawer dydd, roedd masnachwr lleol yn byw yn y tŷ tref cul hwn yn Ninbych-y-pysgod. Mae Tŷ’r Masnachwr Tuduraidd yn nodweddiadol o dai’r masnachwyr cyfoethog yn Ninbych-y-pysgod pan ddaeth y dref yn borthladd ffyniannus ar ddiwedd yr Oesoedd Canol. Camwch drwy’r drws a chael blas ar fywyd masnachwr cyfoethog.

Pethau i’w gweld yn Dŷ'r Masnachwr Tuduraidd

Mae’n cynnwys tri lefel ac wedi ei adeiladu o rwbel calchfaen a thywodfaen. Mae ganddo gorn simnai cylch ac mae’r trawstiau to agored gwreiddiol i’w gweld o hyd. Heddiw, mae’r tŷ yn gartref i gasgliad rhyfeddol o atgynyrchiadau a wnaed yn lleol. Mae’r dodrefn, y piwter, y llenni a’r crochenwaith i gyd wedi’u copïo’n ofalus o ddarnau Tuduraidd lleol go iawn. 

Ardal fasnach  

Byddai’r masnachwr a oedd yn byw yma wedi gosod ei siop ym mlaen y tŷ. Byddai’r siop yn agor i’r stryd er mwyn cael mynediad rhwydd at y trigolion. Byddai masnachwyr yr oes yn gwerthu nwyddau a fasnachwyd drwy’r porthladd. Ymysg y nwyddau poblogaidd roedd brethyn, glo môr, finegr a photiau ceramig. 

Yr ardal fasnachu yn Nhŷ’r Masnachwr Tuduraidd, Sir Benfro, sydd â tho isel â thrawstiau pren, llawr fflags, casgenni a bwrdd ochr gwyrdd gyda phowlenni terracotta arno.
Yr ardal fasnachu yn Nhŷ’r Masnachwr Tuduraidd | © National Trust Images/James Dobson

Y Gegin

Roedd y gegin yng nghefn y tŷ. Roedd wedi’i lleoli o gwmpas lle tân agored mawr. Mae’r gwaith haearn yn dangos sut y coginiwyd bwyd gyda thân agored, o’r offer hongian a ddefnyddiwyd i godi neu ostwng y potiau coginio i’r cigweiniau hirion a ddefnyddiwyd i droi’r bwyd.  

Gwledd i’r synhwyrau

Mae gardd y gegin dan ei sang â pherlysiau aromatig a fyddai wedi cael eu defnyddio i ychwanegu blas a lliw at y bwyd. Roedd planhigion lafant yn helpu i gadw pryfed allan o’r gegin ac yn sylfaen i berbelenni persawrus poblogaidd. 

Y Neuadd

Yr ystafell hon oedd prif ystafell fyw’r tŷ. Mae dodrefn Tuduraidd replica sydd wedi’u peintio’n llachar i’w gweld ym mhob twll a chornel.  

Mae’r llieiniau crog sydd wedi’u peintio yn dangos y math o ddelweddau y byddai’r masnachwr wedi’u harddangos ar ei waliau tua’r flwyddyn 1500. Mae un o’r llieiniau crog hyn yn dangos llong nodweddiadol o’r Oesoedd Canol – y Carac. Mae’r paentiadau crog eraill yn dangos adeiladau’r dref, gan gynnwys y waliau cadarn hanesyddol sy’n amgylchynu’r dref. 

Y tu mewn i’r gegin yn Nhŷ’r Masnachwr Tuduraidd, Sir Benfro. Canolbwynt yr ystafell yw lle tân carreg wedi’i osod yn y wal. Mae yna fwrdd pren gyda meinciau a chasgenni sy’n cael eu defnyddio fel eitemau ychwanegol o ddodrefn.
Y gegin yn Nhŷ’r Masnachwr Tuduraidd | © National Trust Images/James Dobson

Am olygfa  

Mae gan yr ystafell wely un o’r golygfeydd gorau o’r arfordir a’r harbwr. Yn yr ystafell hon mae rhai eitemau replica o ddillad Tuduraidd y gallwch eu gwisgo.

Cadwch olwg am y crud arbennig sydd wedi’i beintio – mae’n siglo gan felly helpu’r babi i gysgu.    

Am fodern

Cadwch olwg am y tŷ bach, sy’n cynnwys tŵr tŷ bach a charthbwll. Byddai’r siafft garreg neu frics fertigol hon yn arwain i lawr i’r carthbwll ar y gwaelod. Byddai’n cael ei alw’n ‘ddisgynfa hir’ yn aml oherwydd yr uchder a’r pellter. Roedd hyn yn fodern iawn oherwydd ni fyddai’r fath beth wedi’i weld mewn llawer o dai. Y peth agosaf at hyn heddiw fyddai ystafell ensuite wedi’i chysylltu â’ch ystafell wely. 

Visitor with costumed interpreter at Tudor Merchant's House, Pembrokeshire

Trefnwch eich ymweliad

Mae angen cadw tocynnau ar gyfer Tŷ’r Masnachwr Tuduraidd. Gallwch archebu ar gyfer heddiw hyd at 8am. Bob dydd Iau bydd slotiau amser yn dod ar gael ar gyfer y 14 diwrnod nesaf.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Yr ardal fasnachu yn Nhŷ’r Masnachwr Tuduraidd, Sir Benfro, sydd â tho isel â thrawstiau pren, llawr fflags, casgenni a bwrdd ochr gwyrdd gyda phowlenni terracotta arno.
Erthygl
Erthygl

Hanes Tŷ’r Masnachwr Tuduraidd 

Yn oes y Tuduriaid roedd Dinbych-y-pysgod yn ganolbwynt i fasnach dramor ac yn mewnforio amrywiaeth eang o nwyddau o Ffrainc. Cymerwch olwg yn siop brysur y Masnachwr Tuduraidd.