Casgliadau Tŷ’r Masnachwr Tuduraidd
Darganfyddwch y gwrthrychau a’r gwaith celf rydym yn gofalu amdanynt yn Dŷ’r Masnachwr Tuduraidd ar wefan Casgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mae’r tŷ cul hwn yn nodweddiadol o dai’r masnachwyr cyfoethog yn Ninbych-y-pysgod pan ddaeth y dref yn borthladd ffyniannus ar ddiwedd yr Oesoedd Canol. Dysgwch sut roedd llawer o gynnyrch y masnachwr yn cael ei fewnforio o dramor neu’n dod drwy lwybrau masnach arfordirol o amgylch Prydain.
Yn oes y Tuduriaid, roedd Dinbych-y-pysgod yn ganolbwynt i fasnach dramor ac yn mewnforio amrywiaeth eang o nwyddau i’w gwerthu. Dysgwch fwy am yr eitemau y gallech fod wedi’u prynu ar ymweliad â’r tŷ masnach prysur hwn yn Ninbych-y-pysgod.
Roedd halen yn rhan hanfodol o fywyd bob dydd y Tuduriaid. Roedd yn cael ei ddefnyddio i roi blas ar fwyd ond hefyd i halltu a chadw cig a physgod.
Roedd yr halen a gludwyd i Ddinbych-y-pysgod yn cael ei alw’n ‘halen y bae’. Roedd yr halen yma’n dod o lannau Bae Gwasgwyn a Phortiwgal. Mae halen yn dal i gael ei gynhyrchu yn yr un ffordd heddiw drwy anweddu dŵr hallt mewn pyllau bas neu badelli halen yng ngolau’r haul.
Roedd lliain yn ffabrig cyffredin a fyddai’n cael ei ddefnyddio bob dydd. Mae lliain yn cael ei wneud allan o ffibrau’r planhigyn llin. Er ei fod yn cael ei gynhyrchu yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon, roedd y lliain gorau’n dod o Ffrainc. Mae’r brethyn yn wydn iawn, a gellir ei liwio’n hawdd.
Yn oes y Tuduriaid, roedd brethyn wedi’i beintio neu ‘liwio’ yn ddewis poblogaidd yn lle tapestrïau. Roedden nhw’n rhatach ac yn cael eu cynhyrchu drwy beintio neu liwio lliain. Roedden nhw’n ysgafnach o lawer, ac felly’n haws i’w hongian o waliau plastr. Mae’r brethyn sydd ar ddangos ar waliau’r tŷ yn dangos y math o ddelweddau y gallai’r masnachwr fod wedi’u harddangos ar ei waliau tua’r flwyddyn 1500.
Roedd y rhan fwyaf o’r gwin a fewnforiwyd i wledydd Prydain yn oes y Tuduriaid yn dod o Wasgwyn (neu Gascony) yn ne Ffrainc. Roedd yn cael ei fewnforio mewn casgenni mawr gyda cylchoedd haearn o’u cwmpas i’w cryfhau. Mae replica i’w weld yn siop y masnachwr Tuduraidd.
Roedd casgen o win Gwasgwyn yn costio tua £3, sef incwm blynyddol morwyn fwy neu lai. Byddai gan farchog incwm blynyddol o tua £40. Roedd finegr hefyd yn cael ei fewnforio i Ddinbych-y-pysgod o Lydaw.
Roedd siwgr yn eitem foethus ddrud ac yn dod o’r Ynysoedd Dedwydd (neu Ynysoedd Canarïa) mewn llongau o Bortiwgal. Roedd cist o siwgr werth tua £8.
Roedd y cynnyrch a ddaeth o Iwerddon yn cynnwys penwaig, llin, a gwlân a brethyn llai graenus. Roedd gwêr a wnaed o fraster anifeiliaid yn ddefnyddiol iawn, ac yn aml yn cael ei droi’n ganhwyllau a sebon.
Roedd pethau’n cael eu hallforio o Ddinbych-y-pysgod hefyd. Roedd brethyn gwlân garw, a oedd yn addas ar gyfer dillad y gaeaf a gwisgoedd morwyr, yn cael ei fasnachu’n gyffredin.
Yng nghyfnod y Tuduriaid, megis dechrau roedd y fasnach lo, ond roedd Dinbych-y-pysgod eisoes yn allforio glo carreg i Iwerddon. Roedd ‘peli cwlm’ yn cael eu gwneud allan o lwch glo carreg wedi’i gymysgu â chlai. Roedd y rhain yn llosgi’n arafach ac yn boblogaidd iawn yn Iwerddon.
Darganfyddwch y gwrthrychau a’r gwaith celf rydym yn gofalu amdanynt yn Dŷ’r Masnachwr Tuduraidd ar wefan Casgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Darganfyddwch gartref masnachwr Tuduraidd cyfoethog yn Nhŷ’r Masnachwr Tuduraidd. Cewch flas ar fywyd masnachwr canoloesol poblogaidd yn oes y Tuduriaid yn y lle arbennig hwn.