Skip to content

Gwartheg Gwyn

Buwch a llo Gwartheg Gwyn, Dinefwr, Sir Gaerfyrddin
Buwch a llo Gwartheg Gwyn, Dinefwr, Sir Gaerfyrddin | © National Trust Images / John Millar

Mae Gwartheg Gwyn Dinefwr yn frid hynafol a phrin. Mae tywydd brafiach yn sicrhau eu bod yn dychwelyd i’r dolydd hanesyddol dros yr haf o flaen Tŷ Newton, ynghyd â’u lloeau newydd.

Brîd Hynafol

Mae’r Gwartheg Gwyn urddasol yn gysylltiedig â Dinefwr ers y 9fed ganrif ac mae’n debygol mai hwn yw’r brîd gwartheg mwyaf hynafol sy’n frodorol i Ynysoedd Prydain.   Bellach yn frîd prin, mae gan yr Dinefwr ran hollbwysig i’w chwarae mewn cadwraeth y Gwartheg Gwyn, yn ogystal â phori cadwraethol ar yr ystâd.

Mae’r gwartheg yn drawiadol yn eu hedrychiad hynafol gyda chotiau hir gwyn, cyrn blaenau cul urddasol a llygaid a thrwynau du.  Yn y gwanwyn maent yn cael cymorth gan frain, cigfrain ac adar eraill i fwrw eu cotiau gaeaf drwy dynnu’r blew gwyn meddal ar gyfer eu defnyddio i orchuddio eu nythod.

Gwartheg gwyn eiconig Dinefwr yn Sir Gaerfyrddin, Cymru.
Gwartheg parc gwyn eiconig Dinefwr yn Sir Gaerfyrddin, Cymru. | © National Trust Images / John Millar

Yr Oesoedd Canol

Ar ddechrau’r oesoedd canol roedd y Gwartheg Gwyn yn cael eu hystyried yn hynod werthfawr, ac mae cofnodion yn dangos y byddai dirwyon yn cael eu talu i Arglwyddi Dinefwr mewn gwartheg Gwartheg Gwyn.

Llên gwerin arall sy’n gysylltiedig â’r Gwartheg Gwyn yw chwedl Arglwyddes y Llyn a’r enwog Meddygon Myddfai.

Heddiw, nid yn unig y mae gyr Dinefwr yn ddolen fyw i hanes naturiol a threftadaeth Cymru, ond hefyd mae’n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o warchod y brîd prin hwn a’r gwaith cadwraeth ar yr ystâd.

Y fynedfa flaen a’r dreif yn Nhŷ Newton, Dinefwr

Darganfyddwch fwy yn Ninefwr

Dysgwch pryd mae Dinefwr ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Defaid yn pori gyda Castell Dinefwr yn y cefndir, Dinefwr, Sir Gaerfyrddin
Erthygl
Erthygl

Crwydrwch y parc yn Ninefwr 

Dewch am dro drwy Barc Dinefwr ger Llandeilo, ystâd 800-erw drawiadol lle gwelwch amrywiaeth o fywyd gwyllt a rhai o’r coed hynaf yng ngwledydd Prydain.

Golygfa o uchder o’r parc yn Ninefwr, Sir Gâr
Erthygl
Erthygl

Hanes Dinefwr 

Wedi’u hadennill gan ddisgynyddion un o Dywysogion pwerus Cymru, bu Parc Dinefwr a Thŷ Newton yn gartref i’r teulu Rhys/Rice am dros dair canrif.