Darganfyddwch fwy yn Ninefwr
Dysgwch pryd mae Dinefwr ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Dewch i deimlo cynhesrwydd yr ŵyl ar ddiwrnodau i’r teulu a mwynhewch anturiaethau ar Ystâd Dinefwr gyda ffrindiau yn ystod y gaeaf hwn. Dysgwch am yr hyn sydd ar y gweill dros dymor yr ŵyl, o gyffro ffair Nadolig Dinefwr i ddigwyddiad traddodiadol Mari Lwyd a theithiau cerdded gaeafol adfywiol i fwynhau harddwch y parcdir hynafol.
Penwythnosau o 23 Tachwedd. Yn ddyddiol 16 Rhagfyr - 5 Ionawr (gan eithrio 24 & 25 Rhagfyr)
Dewch i Dŷ Newton sydd wedi’i addurno’n hyfryd, gan ddarganfod comisiynau celf arbennig a ysbrydolwyd gan fywyd gwyllt Ystad Dinefwr. Byddwn yn datgelu wyth addurn newydd eleni wedi'i creu gan yr artist arbennig Bettina Reeves. Chwiliwch am y crëyr bach ymysg yr addurniadau newydd - fyddwch chi'n gallu dod o hyd i'r wyth newydd?
31 Rhagfyr & 3 Ionawr
Ymunwch â ni ar gyfer y traddodiad Cymreig difyr hwn yn cynnwys diod i’ch cynhesu, cerddoriaeth, a Mari ddireidus. Pan fydd Mari a’i grŵp yn cyrraedd Tŷ Newton, byddant yn canu caneuon neu waseiliau Cymraeg, a chymryd rhan mewn defod a elwir yn pwnco: sef y weithred o gyfnewid penillion digywilydd gyda’r sawl sy’n byw yno. Os yw perchennog y tŷ yn caniatáu i Mari a'i chriw fynd i mewn, bydd lwc dda ar yr aelwyd am y flwyddyn yn ôl bob sôn. Mae Mari yn adnabyddus am fod yn ddireidus – yn ceisio dwyn pethau a chwrso pobl mae’n eu hoffi – wrth iddi grwydro o dŷ i dŷ. Gwisgwch ddillad cynnes ac esgidiau addas. Rhaid archebu.
Dysgwch mor llesol yw mynd am dro yn y gaeaf a threuliwch ennyd ar foreau gaeafol ffres yn gwylio bywyd gwyllt Dinefwr, a chael cipolwg hyd yn oed ar ein gyr o geirw brith.
Dysgwch pryd mae Dinefwr ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
P’un a ydych yn chwilio am gestyll sy’n llawn addurniadau addurnedig, lleoedd i gwrdd â Siôn Corn, diwrnod allan mewn marchnad Nadolig neu fwynhau taith gerdded gaeafol ffres, mae gennym ddigonedd o lefydd yng Nghymru i wneud atgofion Nadoligaidd.
Nestled in Dinefwr’s parkland near Llandeilo, Newton House is a relaxed and informal Welsh country house. A visit here incorporates both the historic and the contemporary.
Take a stroll through Dinefwr Park near Llandeilo, a stunning 800-acre estate where you can spot a variety of wildlife and some of the oldest trees in Britain.