Dewch i ddarganfod Cymru
Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.
O addurniadau Nadolig a theithiau cerdded gaeafol i weithgareddau teuluol a marchnadoedd yr ŵyl, mae llawer o ddigwyddiadau a phethau i’w gwneud yn eich ardal chi y gaeaf hwn yng Nghymru. Trefnwch ddiwrnod allan Nadoligaidd a dewch o hyd i lawer o bethau i’w gweld a’u gwneud gyda’r teulu i gyd.
Ymgollwch eich hun yn hudoliaeth gyfareddol y Nadolig yng Nghastell y Waun! Crwydrwch drwy’r Ystafelloedd Swyddogol sydd wedi’u haddurno’n hardd, ym mhle mae draig ffyrnig yn gwarchod trysorau cudd, a chipiwch eiliadau o lawenydd mewn gorsafoedd hun-lun hyfryd. Profwch y Groto o Chwith, dewch i gyfarfod Siôn Corn, a mwynhewch frecwast Cymreig blasus neu swper Nadoligaidd. Ewch am dro ar drywydd y sêr, i ganfod y rheiny sy’n cuddio o amgylch y gerddi barugog, neu ymunwch â’n Ceidwaid mewn gweithdy i greu eich carw pren eich hun. Rhowch rywbeth cynnes amdanoch i droedio llwybrau llawn golygfeydd gaeafol drwy’r parcdir trawiadol, a blaswch ddanteithion Nadoligaidd yn ein hystafell de glyd.
Yn ystod y Nadolig hwn, bydd Tŷ Erddig wedi’i addurno’n hardd ag addurniadau traddodiadol sy’n adlewyrchu thema gyfareddol "'Twas the Night Before Christmas". Chwilotwch ystafelloedd sy’n dod â’r gerdd hon yn fyw, sy’n cyfleu rhannau allweddol ohoni gydag addurniadau sy’n cynrychioli amryw benillion. Gall plant fynd ar drywydd llwybr arbennig i chwilio am lygod a wnaed â llaw, byrddau llawn danteithion melys, hosanau’n hongian wrth y tân, ac eirin siwgwr yn dawnsio yn y llofft. Ymunwch â ni am frecwast gyda Siôn Corn, ymwelwch â’n groto o chwith sy’n cefnogi Banc Bwyd Wrecsam, a mwynhewch sesiynau stori a gweithgareddau crefft yr Ŵyl. Cynheswch gyda danteithion Nadoligaidd yn ein bwyty, craswch falws melys yn yr Iard Goed, a phrofwch wir ysbryd y Nadolig yn Erddig, gydag oriau estynedig o Ragfyr 16 i 19.
Camwch i mewn i fyd o ryfeddod gaeafol yng Nghastell Penrhyn, ym mhle bydd goleuadau pefriol a neuaddau sydd wedi’u haddurno’n hardd yn creu awyrgylch llawn cysur y Nadolig. Chwilotwch ein hystafelloedd helaeth â’u haddurniadau Nadolig traddodiadol a modern. Ymgollwch eich hun yn awyrgylch cyfareddol yr ystafell fwyta a’r Neuadd Fawr, a’r rheiny’n llawn cerddoriaeth a llawenydd. Ymunwch â ni yn sesiynau crefftau’r Ŵyl i’r teulu cyfan, a mwynhewch ddiod boeth Nadoligaidd o gaffi’r Stablau wrth gael ailddarganfod eich hoff gemau bwrdd. Peidiwch ag anghofio’r cyfle i ymlwybro drwy’r gerddi barugog i dynnu eich llun teuluol Nadoligaidd yn ein torch anferth yn yr Ardd Furiog. Dathlwch ysbryd yr Ŵyl gyda’ch anwyliaid yng Nghastell Penrhyn y Nadolig hwn!
Dyma’r adeg i greu atgofion oes gyda’ch teulu a’ch ffrindiau ym Mhlas Newydd! Gwisgwch eich esgidiau dawnsio y Nadolig hwn ar gyfer y disgo distaw Nadoligaidd a gynhelir gennym yn yr Ystafell Gerdd. Dewiswch eich sianel gerddoriaeth—o gerddoriaeth bop y 90au i glasuron yr Ŵyl—a dawnsiwch drwy’r dydd! Mae croeso i bawb, rydym yn eich annog i wisgo eich dillad parti, sy’n ei wneud yn ddigwyddiad perffaith i bob oed. P’un a ydych yn adnabyddus am eich dawnsio, am y rhesymau anghywir, neu wrth eich bodd yn dawnsio, mae hwn yn sicr o fod yn ddathliad hwyliog i’r teulu cyfan. Ar ôl y disgo, ewch i nôl diod Nadoligaidd a mins pei o Gaffi’r Hen Laethdy, cyn mynd am dro gaeafol hyfryd drwy’r ardd.
Mae teithiau cerdded gaeaf yn Ardd Bodnant yn ffordd berffaith o ddiflanu o brysurdeb y Nadolig a mwynhau'r awyr iach, ffres. Un o’r prif atyniadau yw’r Ardd Aeaf hygyrch, lle gallwch weld yr eirlysiau cyntaf yn treiddio drwodd, gan gynnig cipolwg ar y dyddiau cynhesach i ddod. Wedi’ch amgylchynu gan blanhigion caled y gaeaf a llysiau bytholwyrdd, mae’n ffordd adfywiol a rhwym galon i gofleidio’r tymor.
Camwch i fyd llawn cyfaredd y Nadolig hwn yng Nghastell a Gardd Powis! Ymgollwch eich hun mewn Nadolig Dickensaidd, ym mhle bydd ysbryd A Christmas Carol yn dod yn fyw. Ymlwybrwch drwy’r neuaddau â’u haddurniadau hardd a’u garlantau bytholwyrdd peraroglus, yng ngolau canhwyllau disglair, a fydd yn eich tywys i ymgolli yn naws dathliad Fictoraidd cysurus. Swynwch y rhai bach gyda brecwast hudol yng nghwmni Siôn Corn, ym mhle gallant rannu eu dymuniadau ag ef wrth fwynhau danteithion hyfryd mewn lleoliad clyd. Fin nos, paratowch i gael eich mesmereiddio gan Oleuadau Nadolig y Cwrt. Cewch weld golygfa grand y tu allan i’r castell yn cael ei oleuo mewn arddangosiad gaeafol syfrdanol o oleuadau disglair yn erbyn awyr y nos.
Bydd y fila Sioraidd yn Llanerchaeron yn agor ei drysau am dridiau llawn hud, a honno wedi’i haddurno’n hardd ar gyfer yr Ŵyl, wrth iddi gynnal y Ffair Nadolig ar y 6ed, 7fed a’r 8fed o Ragfyr. Cewch ddarganfod thema hynod a ysbrydolwyd gan ein cathod annwyl yn Llanerchaeron, wrth fwynhau dewis hyfryd o grefftau a bwydydd lleol gan ein cynhyrchwyr talentog. Cymrwch lymaid o win cynnes a mwynhewch ddanteithion y Nadolig wrth i chi chwilota yng ngerddi trawiadol yr ystâd. Os oes gan rywun awydd gwneud rhywbeth creadigol, cynhelir gweithdai gwneud torchau ar ddiwrnodau penodol, yn defnyddio deunyddiau naturiol a gasglwyd o’r ystâd.
Bydd Dinefwr yn cychwyn cyfnod y Nadolig gyda'u Ffair Nadolig flynyddol o Dachwedd 22 i 24, ym mhle bydd stondinwyr crefftus ac adloniant Nadoligaidd yn eich disgwyl! Cewch ddarganfod Coeden Nadolig gyfareddol ‘Creaduriaid Dinefwr’ gydag addurniadau cyffrous newydd yn Nhŷ Newton, cymrwch lymaid o siocled poeth moethus neu win cynnes, a chael mwynhau seiniau Nadolig yn nhirwedd syfrdanol y gaeaf. Ond dim ond y dechrau yw hynny! Dewch i gwrdd â Siôn Corn yn ei grotto yn y Parlwr ar ddyddiau Sul (1/8/15 Rhagfyr), a mwynhewch hwyl a llawenydd y Carolau Cymunedol ar Ragfyr 19. Peidiwch â cholli traddodiad gwasaela Cymreig y Fari Lwyd ar Ragfyr 31 ac Ionawr 3! Bydd Ty Newton ar agor pob dydd rhwng Rhagfyr 16 a Ionawr 5 (heblaw am Noswyl Nadolig a Dydd Nadolig) gan roi cyfle gwych i dreulio amser gyda theulu a ffrindiau. Gyda digon o deithiau cerdded i'w mwynhau ar yr ystâd, mynnwch ddiod boeth o'r caffi cyn mynd am dro gaeafol yn y lleoliad hardd hwn!
Beth am ymgolli eich hun y Nadolig hwn mewn byd o ryfeddod gaeafol, ac ymunwch â ni i ledaenu ysbryd yr Ŵyl! Dechreuwch eich taith yn ein gerddi cyfareddol, ym mhle mae Cornel y Dyn Eira’n eich disgwyl—byddwch yn barod i addurno dynion eira a chael mwynhau gemau cyffrous fel ‘Kerplunk’ anferth. Crwydrwch ymhellach i Gornel y Torrwr Cnau, ym mhle gallwch blymio i fyd theatr bypedau a herio eich ffrindiau mewn gêm sgitls! Yng nghysur y tŷ, cewch fwynhau ein haddurniadau Nadolig—cadwch olwg am sanau sy’n gwau a “lle tân” hynod a wnaed o lyfrau. Dewch â’r rhai bach ynghyd ar gyfer “Amser Stori Siôn Corn” i wrando ar storïau swynol sy’n tanio eu dychymyg.
Dadlapiwch 500 mlynedd o’r Nadolig wrth i Dŷ Tredegar ddod yn fyw, a chewch archwilio’r profiad o gael teganau, gwledda a theithio drwy gydol hanes, gydag addurniadau cain, goleuadau pefriol ac awyrgylch hudolus. O 6 Rhagfyr, bydd Tŷ Tredegar yn cael ei drawsnewid am y tymor, gyda dathliadau drwy gydol y mis. Ar benwythnosau teuluol Nadoligaidd, 14-15 a 21-22 Rhagfyr, bydd yr hen Scrooge bythol boblogaidd yn dychwedlyd I fwrw ei lygad beirniadol dros y dathliadau, tra bod Siôn Corn yn crwydro'r tir - yn swyno ymwelwyr o bob oed. I'r rhai sydd am brofi'r hud ar ôl iddi dywyllu, ymunwch â ni ar gyfer ein hagoriadau hwyr y nos rhwng 13 a 23 Rhagfyr, pan fydd Tŷ Tredegar ar agor rhwng 12pm ac 8pm. Ewch am dro drwy'r gerddi a'r plasty addurnedig hyfryd, yna cynhesu gyda phaned o siocled poeth neu fwynhau gwledd Nadolig blasus wrth i chi socian yn y swyn tymhorol. Bydd caneuon a hwyl y Nadolig yn llenwi'r awyr, gan sicrhau bod ysbryd y Nadolig yn cael ei deimlo ym mhob cornel. P'un a ydych chi'n chwilio am hwyl yr ŵyl neu daith gerdded heddychlon, mae Tŷ Tredegar yn cynnig profiad hudolus i bawb y Nadolig hwn.
Dewch i ddarganfod sut mae'r Tuduriaid wedi dylanwadu ar ein dathliadau Nadolig heddiw yn Nhŷ’r Masnachwr Tuduraidd. Camwch yn ôl mewn amser ac archwilio'r tŷ a'i draddodiadau, edmygu croglenni wal y Tuduriaid o’r oes a fu wrth i arogl cain orennau a clôfs lenwi'r awyr. Gall y rhai bach gwrdd ag Arglwydd Anhrefn a oedd yn draddodiadol yn gyfrifol am Wledd y Ffyliaid sef y dathliad a gynhaliwyd yn wreiddiol yr adeg hon o'r flwyddyn yn oes y Tuduriaid a derbyn tegan Tuduraidd am ddim i fynd adref tra bo stoc ar gael.
Bydd Dinefwr yn cychwyn cyfnod y Nadolig gyda'u Ffair Nadolig flynyddol ar y 22, 23 a 24 Tachwedd lle bydd stondinau Nadoligaidd, yn gwerthu amrywiaeth o nwyddau hardd o emwaith wedi'u gwneud â llaw i gyffeithiau blasus yn cael eu gosod o flaen Tŷ Newton. Uchafbwynt na ddylid ei golli.
Bydd y Ffair Nadolig yn Llanerchaeron yn ôl ar 1, 2 a 3 Rhagfyr. Mwynhewch fins pei a gwin cynnes wrth i chi grwydro o gwmpas yr ystâd a fydd yn llawn stondinau yn arddangos cynnyrch, bwyd a cherddoriaeth leol. Bydd y fila Sioraidd yn agor ei drysau am dri diwrnod ac yn cael ei haddurno ag addurniadau Nadolig cynaliadwy ar draws y llawr gwaelod.
Camwch i ysbryd yr ŵyl yn Ffair Nadolig hudolus Aberdulais, wedi'i lleoli yng nghanol cefndir y gwaith tun a'r rhaeadrau hanesyddol. Ar ddydd Sadwrn, 14 Rhagfyr, mwynhewch ddiwrnod allan hudol i'r teulu cyfan, gyda stondinau crefftus lleol yn cynnig anrhegion crefftus â llaw, danteithion Nadoligaidd, ac addurniadau unigryw.
Cewch greu atgofion hudolus wrth i chi ymuno â Siôn Corn am frecwast neu swper yn Erddig, ar benwythnosau o 30 Tachwedd-23 Rhagfyr (mae archebu lle yn hanfodol). Gyda gweithgareddau crefft, caneuon, stori arbennig ac anrheg fach, mae’r profiad cofiadwy hwn yn sicr o lenwi pawb ag ysbryd y Nadolig.
Cewch wledda ar frecwast Cymreig blasus yng Nghastell y Waun ar 31 Tachwedd a 1 Rhagfyr, ym mhle bydd gwestai arbennig iawn – bydd Siôn Corn ei hun yn ymuno â chi. Mwynhewch stori galonogol a chael derbyn anrheg arbennig ar gyfer bob plentyn fel rhan o’r bore cofiadwy hwn. Fel arall, gallwch ymuno â Siôn Corn am swper Nadoligaidd ar 7 ac 8 Rhagfyr. Tretiwch eich hun i ginio Nadolig traddodiadol gyda phwdin Nadoligaidd i ddilyn, a chewch weld y plant yn ymgolli yn hudoliaeth cael derbyn anrheg arbennig. Mae’r lleoedd yn brin, ac mae archebu lle ymlaen llaw yn hanfodol.
Mae cael cwrdd â Siôn Corn yn un o'r profiadau hynny sy'n gwneud cyfnod y Nadolig mor gofiadwy i deuluoedd. Dewch draw i’w gyfarfod yn ei groto yn Ninefwr, bod dydd Sul rhwng 1-15 Rhagfyr. Er ei fod yn hynod brysur, bydd yn treulio amser gyda chi yn trafod eich dymuniadau ar gyfer y Nadolig.
Ymunwch â’r penwythnosau Nadoligaidd i’r teulu ar Ragfyr 14-15 a 21-22 yn Nhŷ Tredegar, ym mhle bydd Siôn Corn yn crwydro o gwmpas i ledaenu llawenydd i bawb. Bydd yr hen Scrooge bythol boblogaidd yn dychwelyd i fwrw ei lygad beirniadol dros ddathliadau'r Nadolig, ond bydd digon o ganu gan y côr i gadw ysbryd yr Ŵyl yn fyw.
Mwynhewch yr anrheg o roi drwy gyfrannu at fanc bwyd Wrecsam yn groto o chwith Erddig; bydd Siôn Corn yno i ddiolch i chi, bob penwythnos 30 Tachwedd i 22 Rhagfyr. Rydym yn croesawu rhoddion o fwyd yn ystod yr wythnos hefyd, ond ni fydd Siôn Corn yno i ddweud diolch
Dyma'r tymor perffaith i roi. Felly, rhowch rywbeth yn ôl i'r gymuned y Nadolig hwn drwy roi rhodd i Fanc Bwyd Croesoswallt a'r Cyffiniau. Rydym yn croesawu rhoddion o fwyd yn ystod yr wythnos, ond ar y penwythnosau, o 30 Tachwedd i 22 Rhagfyr bydd Siôn Corn yno i ddiolch i chi am eich rhodd.
Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.