Darganfyddwch fwy am Llanerchaeron
Dysgwch pryd mae Llanerchaeron ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Teimlwch gynhesrwydd dyddiau teuluol cyfnod y Nadolig yn Llanerchaeron y Nadolig hwn. Crwydrwch y parcdir ar daith gerdded aeafol, ymunwch â gweithdy creu torch, ymunwch â’ch ffrindiau yn y Ffair Nadolig neu rhowch eiliad i chi eich hun ym myd natur i gofio beth sydd o bwys mewn gwirionedd. Edrychwch beth sydd ymlaen yn ystod yr Ŵyl eleni.
6, 7 & 8 Rhagfyr, 10am tan 4pm
Ymunwch â ni ar gyfer Ffair Nadolig Llanerchaeron dros dri diwrnod ym mis Rhagfyr ble bydd arlwy arbennig o fwyd a chrefftau lleol i chi fwynhau.
Gyda dros 70 o stondinau eleni mae hi’n argoeli i fod yn Ffair Nadolig arbennig yn Llanerchaeron.
Mwynhewch lasiad o win cynnes a mins pei wrth i chi fwynhau’r ffair, a cewch fynd a’r plant i weld Sion Corn ar y Dydd Sadwrn a Dydd Sul (7-8 Rhagfyr) o 11yb-3yp.
Pris Mynediad: Am ddim i aelodau, £5 i oedolion, am ddim i bobl dan 18. Nid oes angen mynnu’ch lle ymlaen llaw.
Yn agor am un penwythnos yn unig (6-8 Rhagfyr) i gyd-fynd a’r Ffair Nadolig – bydd y fila wed’i haddurno’n arbennig unwaith eto.
Camwch i mewn drwy’r drws a gadael i Eira eich tywys ar daith o amgylch Nadolig Cathod Llanerchaeron.
Efallai i chi gwrdd a’r cathod wrth i chi ymweld? Mae Eira, Mwg a Tom wastad o gwmpas ac yn mwynhau cwrdd â’r ymwelwyr.
Ond a fydd modd i Eira swyno Mwg gyda hyd y Nadolig??
Chwilio am amser tawelach i ymweld? Neu rhywle i ddianc rhag rhialtwch yr ŵyl?
Mae’r ardd, y fferm, llyn a’r siop lyfrau ail law ar agor pob penwythnos o’r 9 Tachwedd hyd y 29 Rhagfyr.
Mae croeso cynnes o Geredigion yn disgwyl amdanoch dros gyfnod y Nadolig.
Dysgwch pryd mae Llanerchaeron ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
P’un a ydych yn chwilio am gestyll sy’n llawn addurniadau addurnedig, lleoedd i gwrdd â Siôn Corn, diwrnod allan mewn marchnad Nadolig neu fwynhau taith gerdded gaeafol ffres, mae gennym ddigonedd o lefydd yng Nghymru i wneud atgofion Nadoligaidd.
Dewch am dro i weld amrywiaeth o fywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn yn Llanerchaeron, yn y parcdir, y goedwig, y dolydd ac wrth gwrs y buarth gweithredol.
Mae fila Sioraidd Llanerchaeron yn gwneud y gorau o brydferthwch Dyffryn Aeron, ac mae enghraifft brin o iard wasanaeth gyflawn yn cuddio yng nghefn y tŷ.
Ar eich ymweliad â Llanerchaeron beth am sbwylio eich hun i hufen iâ enwog Conti’s Café, prynu cynnyrch ffres a dyfwyd yn yr ardd neu bori’r siop lyfrau ail-law.