Skip to content

Nadolig yn Nhŷ Tredegar

Coeden Nadolig
Y Nadolig yn Nhŷ Tredegar, Casnewydd | © Aled Llewellyn

Eleni yn Nhŷ Tredegar, bydd hud y Nadolig yn fyw i bawb ei fwynhau.

Nadolig yn nhŷ tredegar

Dadorchuddiwch 500 mlynedd o hanes y Nadolig hwn yn Nhŷ Tredegar, gyda goleuadau godidog, awyrgylch hudolus a thros 80 o goed wedi’u haddurno. Cewch cich tywys drwy genedlaethaur gorffennol, archwilio sut oedd y teulu Morgan yn dathlu'r Nadolig, gan ddysgu sut y treuliasant yr wyl, o wieddoedd y Tuduriaid i draddodiadau Fictoraidd, hyd at y 1950au pan odd ysgol Joseff Sant yma. 

I ddechrau tymor y Nadolig, dewch i weld goleuadau disglair yr ardd ac addurniadau cain y plasty o 1 Rhagfyr ymlaen. Pa le gwell na Thŷ Tredegar i godi hwyl yr ŵyl.
 

Oriau agor:

  • Bydd y Tŷ a’r Ardd ar agor o 6 a 9 Rhagfyr, 11am - 4pm
  • Byddwn ar agor yn hwyr tan 8pm ar 13 a 23 Rhagfyr
  • Mae’r coetir a’r ystafell de ar agor bob dydd. Ar gau 24, 25 a 26 Rhagfyr.
     

Cliciwch isod i weld manylion ein digwyddiadau Nadolig.

Visitors in the Kitchen at Tredegar House, Newport
Penwythnos llawen i’r teulu cyfan | © ©National Trust Images/Arnhel de Serra

Penwythnos llawen i’r teulu cyfan

Mae dydd Sadwrn 14, dydd Sul 15, dydd Sadwrn 21 a dydd Sul 22 o Ragfyr yn benwythnosau cyffrous a phrysur i deuluoedd fwynhau gwir ysbryd y Nadolig. Canwch ganeuon Nadoligaidd, ymunwch â’n côr Nadolig, a chadwch lygad am ddau westai arbennig iawn – Ebenezer Scrooge a Siôn Corn ei hun, a fydd yn crwydro’r ardd a’r Tŷ.

Visitor reading Christmas wishes at Tredegar House, Newport, Wales
Visitor reading Christmas wishes at Tredegar House, Newport, Wales | © ©National Trust Images/Aled Llywelyn

Agoriadau nadolig hwyr

13 a 23 Ragfyr, byddwn ar agor tan 8pm, felly bydd cyfle i bawb fwynhau Nadolig hudolus yn Nhŷ Tredegar. Bydd y Bragdy hefyd ar agor tan 8pm ar y dyddiau agor gyda’r hwyr, felly dewch i fwynhau’r Nadolig dan olau’r lleuad.

The garden and the house decorated in Christmas lights at Tredegar House, Newport
The garden and the house decorated in Christmas lights at Tredegar House, Newport | © Jemma Finch

Llwybrau’r Gaeaf 

Gwisgwch yn gynnes a dewch am dro drwy diroedd rhewllyd Tredegar. Gofalwch rhag llithro, mwynhewch y gerddi ffurfiol, ac ymgollwch eich hun yn nathliadau Nadolig y gorffennol, a fwynhawyd gan y teulu Morgan drwy’r canrifoedd.  

Yn y parcdir, mae’r llyn yn rhewi ar yr adeg hon o’r flwyddyn yn aml, ac ar ddiwrnod rhewllyd mae’r llwybrau’n disgleirio gan droi’r ardd a’r parc yn fyd o hud gaeafol i chi ei ddarganfod. 

Coeden Nadolig
Nadolig Nhy Tredegar | © Aled Llewellyn
Golygfa o wedd ogledd-orllewinol Tŷ Tredegar, Casnewydd, o’r tu allan i’w gatiau haearn gyr du ac aur addurniadol.

Darganfyddwch fwy yn Nhŷ Tredegar

Dysgwch pryd mae Tŷ Tredegar  ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Ymwelwyr yn yr Ystafell Groeso Las dros y Nadolig yng Nghastell Powis ym Mhowys, Cymru

Y Nadolig yng Nghymru 

P’un a ydych yn chwilio am gestyll sy’n llawn addurniadau addurnedig, lleoedd i gwrdd â Siôn Corn, diwrnod allan mewn marchnad Nadolig neu fwynhau taith gerdded gaeafol ffres, mae gennym ddigonedd o lefydd yng Nghymru i wneud atgofion Nadoligaidd.

A view of the front of the red mansion house
Erthygl
Erthygl

Pethau i’w gwneud yn Nhŷ Tredegar 

Dysgwch fwy am y plasty arbennig hwn a’r Cymry balch a fu’n berchen arno am fwy na 500 mlynedd. Darllenwch ‘mlaen am ragor o wybodaeth am ddarganfod y tŷ hanesyddol hwn.

Coffee and cake at the Orangery restaurant Cliveden National Trust
Erthygl
Erthygl

Bwyta yn Nhŷ Tredegar 

Galwch draw i gaffi’r Bragdy am ddiod a bwyd poeth. Wedi’i leoli mewn adeilad hanesyddol, mae pob ceiniog a gaiff ei gwario yma yn ein helpu i ofalu am Dŷ Tredegar ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Spring at Tredegar House, Newport, Wales
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r ardd yn Nhŷ Tredegar 

Crwydrwch amrywiaeth o erddi hanesyddol ar eich ymweliad â Thŷ Tredegar. Darllenwch fwy am y llecynnau gwyrdd unigryw hyn, a sut gall ymwelwyr eu mwynhau nhw heddiw.