Skip to content

Bwyta yn Nhŷ Tredegar

Coffee and cake at the Orangery restaurant Cliveden National Trust
Mwynhewch damaid o fwyd yn Nhŷ Tredegar  | © National Trust Images/Arnhel de Serra

Yn swatio ynghanol Fferm y Plas yn Nhŷ Tredegar mae caffi’r Bragdy, y lle perffaith i orffwys am ennyd ar ôl crwydro’r tiroedd.

Caffi’r Bragdy yn Nhŷ Tredegar

Hwn oedd cartref ceffylau’r teulu Morgan yn wreiddiol, ond cafodd ei drawsnewid yn ddiweddarach yn fragdy. Rydym nawr yn defnyddio’r adeilad hanesyddol fel caffi. 

Mae bwydlenni tymhorol a lleol yn cael eu paratoi’n ffres bob dydd. Mae’r holl elw’n mynd at waith cadwraeth Tŷ Tredegar, felly gallwch fwynhau trît heb deimlo’n euog. 

Y Bragdy, sy’n gweini amrywiaeth o brydau poeth ac oer, cacennau a danteithion, yw’r lle perffaith i ymlacio a ffeindio ail wynt.   

Slice of cake
Sbwyliwch eich hun i ddarn o gacen | © National Trust Images/Abi Cole

Gwybodaeth am alergenau 

Mae’r rhan fwyaf o’n bwyd a diod yn cael ei baratoi ar y safle yn ein cegin gan ddefnyddio amrywiaeth eang o gynhwysion. O ganlyniad, ni allwn warantu bod ein cynhyrchion bwyd a diod yn hollol rydd o alergenau.

Os oes gennych alergedd neu anoddefgarwch ac yr hoffech weld gwybodaeth am gynhwysion bwyd a diod, gofynnwch i’r staff a fydd yn hapus i helpu.

Cadarnhewch cyn eich ymweliad

Wedi ymweld o’r blaen? Weithiau rydym yn newid ein ryseitiau i wella ansawdd a blas, gan gynnwys y cynhwysion. Ar eich ymweliad, siaradwch ag aelod o’n tîm i wirio’r wybodaeth ddiweddaraf am alergenau ar gyfer eich hoff bryd.

 

Diolch

Mae pob paned neu drît blasus a brynwch yn ein helpu i barhau i ofalu am lefydd i bawb eu mwynhau.

Golygfa o wedd ogledd-orllewinol Tŷ Tredegar, Casnewydd, o’r tu allan i’w gatiau haearn gyr du ac aur addurniadol.

Darganfyddwch fwy yn Nhŷ Tredegar

Dysgwch pryd mae Tŷ Tredegar  ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

A view of the front of the red mansion house
Erthygl
Erthygl

Pethau i’w gwneud yn Nhŷ Tredegar 

Dysgwch fwy am y plasty arbennig hwn a’r Cymry balch a fu’n berchen arno am fwy na 500 mlynedd. Darllenwch ‘mlaen am ragor o wybodaeth am ddarganfod y tŷ hanesyddol hwn.

Spring at Tredegar House, Newport, Wales
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r ardd yn Nhŷ Tredegar 

Crwydrwch amrywiaeth o erddi hanesyddol ar eich ymweliad â Thŷ Tredegar. Darllenwch fwy am y llecynnau gwyrdd unigryw hyn, a sut gall ymwelwyr eu mwynhau nhw heddiw.

Cŵn bach yn yr ardd
Erthygl
Erthygl

Dod â'ch ci i Dŷ Tredegar 

Mae gan Dŷ Tredegar sgôr o dair pawen. Mae digon o gyfleoedd i lamu, neidio a snwffian yn Nhŷ Tredegar. Dysgwch bopeth sydd angen i chi ei wybod am ymweld gyda’ch ci.

Llun mawr, hirgrwn ar y nenfwd plastr addurniadol yw canolbwynt yr Ystafell Aur yn Nhŷ Tredegar, Casnewydd, sydd wedi’i haddurno’n goeth gyda lluniau â fframiau aur ar y waliau, a chadeiriau wedi’u clustogi â ffabrig porffor.
Erthygl
Erthygl

Hanes Tŷ Tredegar  

Neidiwch i mewn i hanes y plasty arbennig hwn a’r Morganiaid, Cymry balch a fu’n berchen arno am fwy na 500 mlynedd.   Darllenwch am eu gorffennol lliwgar, gan gynnwys hanesion o hynodrwydd a gwrthryfel y dosbarth gweithiol.