Darganfyddwch fwy yn Nhŷ Tredegar
Dysgwch pryd mae Tŷ Tredegar ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Ry’n ni bob amser wedi caru cŵn yn Nhŷ Tredegar, o Peeps, daeargi'r Ynys Hir Arglwydd Tredegar, i holl anifeiliaid anwes y tîm. Mae croeso cynnes bob amser i chi a’ch ci ac rydym yn gweithio'n galed i ddod o hyd i ffyrdd gwahanol o groesawu cŵn ym mhob rhan o'r safle.
Rydym wedi bod yn gweithio’n galed i’w gwneud hi’n haws i chi wybod pa mor groesawgar fydd eich ymweliad i chi a’ch ci cyn i chi gyrraedd. I helpu gyda hyn, rydym wedi creu system sgorio pawennau newydd, a rhoi sgôr i’n holl leoliadau. Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth hon yn llyfryn aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mae gan Dŷ Tredegar sgôr o dair pawen.
Mae tair pawen yn dynodi’r llefydd gorau i fynd â’ch ci. Byddwch yn gallu mynd â’ch ci i’r rhan fwyaf o ardaloedd, gan gynnwys dan do am baned o de a thrît. Darllenwch ‘mlaen i weld ble yn union gallwch chi fynd â’ch ci.
Mae cŵn wedi byw yma fel rhan o’r teulu Morgan ers blynyddoedd lawer – rydych chi’n siŵr o weld cynffon yn siglo yn y rhan fwyaf o’r lluniau teuluol diweddarach. Rydyn ni’n croesawu cŵn bron ym mhobman ar dennyn, ac mae gennym ardal 20 erw wedi'i neilltuo i gŵn fynd yn rhydd n y parcdir.
Mae'r maes parcio a'r ardaloedd a rennir gan gerbydau a cherddwyr ar y safle yn brysur iawn. Er diogelwch eich ci, dylech ei gadw ar dennyn byr yn yr ardaloedd hyn, gan gynnwys yn y meysydd parcio ychwanegol glaswelltog a graeanog.
Cadwch olwg am arwyddion yn y parcdir i ddangos lle mae'r ardal 20 erw lle caiff cŵn fynd yn rhydd.
Yn yr ardal lle caiff cŵn fynd yn rhydd, byddwch yn ystyriol o ddefnyddwyr eraill y parc. Peidiwch â gadael i'ch ci neidio i fyny ar bobl nac ar gŵn eraill, a dylech eu cadw draw oddi wrth fywyd gwyllt. Gofynnwn fod cŵn yn ymddwyn yn dda, a rhaid i gŵn sy'n rhydd fod yn dda am ddychwelyd.
Fel y bu erioed, mae'n ofynnol i gŵn fod ar dennyn byr yn y gerddi ffurfiol, a dim ond cŵn cymorth a ganiateir yn y plasty a'r ardal chwarae.
Cewch hyd i fyrddau cyfeillgar i gŵn y tu mewn yn ardal gludfwyd Caffi'r Bragdy. Cofiwch gadw cŵn oddi ar y byrddau a'r cownter gweini. Rhaid cadw cŵn ar dennyn byr yng Nghaffi'r Bragdy ac yn yr iard.
Mae powlenni a dŵr i gŵn ar gael y tu allan i Gaffi'r Bragdy, y Dderbynfa Ymwelwyr a'r Siop Lyfrau Ail-law.
Ry’n ni’n caru cŵn, ond cofiwch nad yw hynny’n wir am bawb. Dilynwch ein cod cŵn a’n helpu i barhau i groesawu cŵn drwy ystyried anghenion ein holl ymwelwyr.
Rydym wedi gweithio gyda’n partner Forthglade i lunio’r cod cŵn hwn, sy’n helpu i sicrhau y gall pawb fwynhau eu diwrnod:
Mae ein diffiniad o reolaeth agos neu effeithiol fel a ganlyn:
Os ydych chi'n cerdded cŵn yn broffesiynol, mae'n rhaid ichi gael yswiriant atebolrwydd cyhoeddus dilys ac un o'n trwyddedau am ddim ar gyfer cerdded cŵn. e-bostiwch tredegar@nationaltrust.org.uk am ragor o wybodaeth.
Peidiwch â mynd â mwy na phedwar ci am dro ar unwaith. Mae hyn er diogelwch pob ci ac ymwelwyr eraill.
Mae croeso i gŵn cymorth yn ein tŷ, y gerddi, y caffi a’r siop lyfrau. Am wybodaeth fanylach am fynediad a chyfleusterau, ewch i’n hafan.
Dysgwch pryd mae Tŷ Tredegar ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Rydym wedi ffurfio partneriaeth â’r gwneuthurwr bwyd anifeiliaid anwes naturiol, Forthglade fel y gallwch chi a’ch ci gael mwy fyth allan o’r lleoedd arbennig sydd dan ein gofal.
Galwch draw i gaffi’r Bragdy am ddiod a bwyd poeth. Wedi’i leoli mewn adeilad hanesyddol, mae pob ceiniog a gaiff ei gwario yma yn ein helpu i ofalu am Dŷ Tredegar ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Dysgwch am y pethau gorau i’w gweld a’u gwneud ar eich ymweliad â’r parcdir yn Nhŷ Tredegar a darllenwch ein canllaw i sicrhau bod eich ymweliad yn un diogel a hwyliog.
Crwydrwch amrywiaeth o erddi hanesyddol ar eich ymweliad â Thŷ Tredegar. Darllenwch fwy am y llecynnau gwyrdd unigryw hyn, a sut gall ymwelwyr eu mwynhau nhw heddiw.
Dysgwch fwy am y plasty arbennig hwn a’r Cymry balch a fu’n berchen arno am fwy na 500 mlynedd. Darllenwch ‘mlaen am ragor o wybodaeth am ddarganfod y tŷ hanesyddol hwn.
Os ydych chi’n dod â’ch ci i’r llefydd rydym yn gofalu amdanynt, darllenwch y Cod Cŵn a dysgwch am y System Sgorio Pawennau i’ch helpu i gynllunio eich ymweliad. (Saesneg yn unig)
O’r mynyddoedd a’r traeth, i erddi a pharcdiroedd, gallwch ganfod llwybr cerdded cŵn yng Nghymru y byddwch chi, a’ch cyfaill pedair coes, yn ei wir fwynhau. Dyma eich canllaw ar gyfer rhai o’r lleoliadau gorau yng Nghymru i ymweld â nhw gyda chŵn.
Darganfyddwch natur a bywyd gwyllt ar lwybr glan llyn ystâd Tŷ Tredegar. Gwyliwch adar yn nythu ar y llyn a rhyfeddwch at yr olaf o’r Rhodfeydd Derw yn y parc. Yn addas i’r teulu i gyd.