Llwybr glan llyn Tredegar
Bydd y gylchdaith fer hon yn eich tywys o amgylch perimedr y parc yn Nhŷ Tredegar. Mae’r llwybr gwastad, sy’n filltir o hyd, yn ddihangfa heddychlon o’r ddinas i’r teulu i gyd.
Cyfanswm y camau: 10
Cyfanswm y camau: 10
Man cychwyn
Maes parcio Tŷ Tredegar, cyfeirnod grid: ST288850
Cam 1
Dechreuwch eich taith ym maes parcio Tŷ Tredegar. Safwch yn wynebu’r dderbynfa ac ewch i’r dde tuag at y gât pum bar ger y llyfrgell gyhoeddus. Ewch drwy’r gât a byddwch yn ardal yr Hen Fferm yn ystâd Tŷ Tredegar.
Cam 2
Ewch yn syth ymlaen, heibio Caffi’r Bragdy. Ewch drwy’r gatiau dwbl wrth gefn y plasty. Byddwch nawr wrth y fynedfa Fictoraidd, gyda chylch troi ar eich chwith.
Cam 3
Cerddwch rownd y cylch troi a dilynwch y llwybr i’r dde. Byddwch yn pasio’r ardd danddwr Eidalaidd ar y dde, cyn dilyn y llwybr glan llyn gyda’r hen Dŷ Cychod ar eich chwith.
Cam 4
Dilynwch y llwybr dros bont fechan ac i’r coetir, gan gadw’r llyn ar eich chwith.
Cam 5
Wrth gerdded drwy’r coetir, ymhen tipyn fe welwch fod y llwybr yn gwahanu. Mae’r holl lwybrau’n arwain i’r un man, ond y llwybr canol yw’r un lleiaf mwdlyd a mwyaf hygyrch. Gan ddilyn y llwybr hwn i’r chwith, fe ddewch at nant fechan.
Cam 6
Ewch dros y bont a stopiwch am gêm o frigau Pooh os oes amser gennych chi. Wrth ddod allan o’r coed, dilynwch y llwybr i’r dde a cherddwch heibio’r Porthdai o’r 17eg ganrif. Mae’r llwybr yn dod yn llai clir yn y fan hon, ac ychydig yn fwy mwdlyd yn ystod tywydd gwlyb, felly gwyliwch eich cam.
Cam 7
Cadwch y wal ffiniol i’r dde ohonoch a dilynwch y llwybr yr holl ffordd o gwmpas y parc.
Cam 8
Ewch i’r ardal fechan o goetir yng nghornel dde-orllewinol y parc.
Cam 9
Wrth ddod allan ym mhen arall yr ardal chwarae naturiol, fe welwch y parc chwarae o’ch blaen.
Cam 10
Cadwch at y llwybr tan i chi gyrraedd yr heol a dilynwch hi rownd i’r chwith. Byddwch yn cerdded heibio’r bloc stablau a’r plasty, sy’n dyddio o’r 17eg ganrif, felly mae hwn yn lle da i aros ac edmygu’r bensaernïaeth hyfryd. Dilynwch yr heol rownd i’r dde ac fe basiwch drwy set o gilbyst trawiadol. Rydych chi nawr wrth y fynedfa Fictoraidd i’r plasty unwaith eto. Ewch yn ôl drwy’r gatiau dwbl, a dyna ni, pen y daith. Sbwyliwch eich hun yng Nghaffi’r Bragdy gyda sleisen o deisen Fictoria neu de hufen blasus.
Man gorffen
Maes parcio Tŷ Tredegar, cyfeirnod grid: ST288850
Map llwybr
Mwy yn agos i’r man hwn
Llwybr Ysgyryd Fawr ym Mynydd Pen-y-fâl a Dyffryn Wysg
Heriwch fynydd o chwedlau ar y llwybr heriol hwn a fydd yn eich tywys i gopa Ysgyryd Fawr.
Tŷ Tredegar
Mae Tŷ Tredegar a’i erddi a’i barcdir amgylchynol, lleoliad sydd wedi’i siapio gan y gymuned leol, yn sefyll yn falch wrth galon treftadaeth Casnewydd.
Cysylltwch
Ein partneriaid
Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
Crwydrwch y parcdir yn Nhŷ Tredegar
Dysgwch am y pethau gorau i’w gweld a’u gwneud ar eich ymweliad â’r parcdir yn Nhŷ Tredegar a darllenwch ein canllaw i sicrhau bod eich ymweliad yn un diogel a hwyliog.
Ymweld â'r ardd yn Nhŷ Tredegar
Crwydrwch amrywiaeth o erddi hanesyddol ar eich ymweliad â Thŷ Tredegar. Darllenwch fwy am y llecynnau gwyrdd unigryw hyn, a sut gall ymwelwyr eu mwynhau nhw heddiw.
Bwyta yn Nhŷ Tredegar
Galwch draw i gaffi’r Bragdy am ddiod a bwyd poeth. Wedi’i leoli mewn adeilad hanesyddol, mae pob ceiniog a gaiff ei gwario yma yn ein helpu i ofalu am Dŷ Tredegar ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Dod â'ch ci i Dŷ Tredegar
Mae gan Dŷ Tredegar sgôr o dair pawen. Mae digon o gyfleoedd i lamu, neidio a snwffian yn Nhŷ Tredegar. Dysgwch bopeth sydd angen i chi ei wybod am ymweld gyda’ch ci.
Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.
Llwybrau cerdded i’r teulu
Mwynhewch ddiwrnod allan gyda’r teulu gyda thaith gerdded yn yr awyr iach, gyda llawer o bethau diddorol i bawb o bob oedran ar hyd y daith. (Saesneg yn unig)
Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)
Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.