Skip to content

Ymweld â'r ardd yn Nhŷ Tredegar

Dau blentyn yn cymryd golwg agosach ar arlleg yn tyfu yn yr ardd yn Nhŷ Tredegar, de Cymru, yn ystod mis Mai.
Plant yn archwilio’r ardd ym mis Mai yn Nhŷ Tredegar, de Cymru. | © National Trust Images/Trevor Ray Hart

Darganfyddwch dair gardd yn Nhŷ Tredegar: gardd liwgar, wyllt y Berllan, Gardd y Gedrwydden â’i borderi blodau mawr a Gardd yr Orendy â’i parterre addurniadol.

Uchafbwyntiau’r Gwanwyn yn y Gerddi  

  
Wrth i’r tymor newid ac wrth i gynhesrwydd ddychwelyd i Dŷ Tredegar, mae’r gerddi’n dod yn fyw gyda lliwiau ac arogleuon. Mae rhes o gennin Pedr aur ar Rodfa’r Coed Derw, yn arwydd llawen o’r Gwanwyn, tra bod y gerddi ffurfiol yn blodeuo’n fwrlwm o afalau cwins, blodau ffrwyth a stribedi o wisteria.  

Mae Gardd y Gedrwydden yn dod yn uchafbwynt tymhorol, lle mae’r coed magnolia’n ymledu eu blodau mewn arddangosfa drawiadol - gan ychwanegu at gefndir brics coch blaen Tŷ Tredegar, syn duddio o'r 17eg ganrif.   

O amgylch obelisg Syr Briggs, mae gwelyau blodau wedi’u plannu’n ffres yn addo cymysgedd llawn o gennin Pedr bach Julia Jane a sgorpionllys lliwgar. Tapestri hardd o liwiau, yn dathlu’r cof am gymdeithion annwyl - Syr Briggs, ceffyl rhyfel dewr Tŷ Tredegar a Peeps y ci ffyddlon.  

Mae tîm ein gardd yn parhau i ofalu am y lleoedd gwerthfawr hyn gan roi ystyriaeth i gynaliadwyedd, a defnyddio dulliau fel taenu gwellt i gefnogi’r gerddi drwy newid yn yr hinsawdd.  

Mae'r Gwanwyn yn gyfnod hudol i grwydro o amgylch tiroedd Tredegar - camwch i mewn i’r tymor a dewch i weld y gerddi’n blodeuo ar eu gorau. 

 

Gardd y Berllan 

Mae’r fwyaf o’r tair gardd yn llawn rhyfeddodau – dilynwch y llwybrau i ddarganfod tai gwydr cudd a llond perllan o goed afalau.  

Mae’r cynlluniau manwl cyntaf o’r ardd ym 1827 yn dangos gardd gynhyrchiol iawn - y lefel o hunangynhaliaeth fyddai ei hangen ar gyfer plasty mawr. Wrth i chi fynd ling-di-long drwy’r ardd, cadwch eich llygaid ar agor am hen beipiau’r tai gwydr angof lle roedd y teulu Morgan yn tyfu ffrwythau trofannol. 

Sŵ y 1930au

Ychwanegwyd y nodweddion egsotig ac addurniadol yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif, gan roi ymdeimlad hynod i Ardd y Berllan. Yn y 1930au, defnyddiwyd yr ardal sy’n arwain at Fwthyn y Garddwr fel cartref ar gyfer rhan o filodfa hynod Evan Morgan.  

Cydweithio

Mae’n bosibl mai’r peth gorau am Ardd y Berllan yw’r bartneriaeth sy’n helpu i ofalu amdani. Ers dros ugain mlynedd mae Growing Space, elusen iechyd meddwl gofrestredig yng Nghasnewydd, wedi bod yn gofalu am yr ardd hon. Maen nhw’n cynnig sgiliau gwaith a chefnogaeth i oedolion â salwch meddwl i wella ansawdd eu bywydau a’u helpu i wireddu eu breuddwydion.   

A view of the mansion house from the cedar garden, with Sir Briggs' stone obelisk in the foreground
Mae’r Ardd Gedrwydd, a amgylchynir gan forderi mawr a llysieuol, yn destament i’r rhai oedd yn hoffi anifeiliaid yn Nhŷ Tredegar. | © Andrew Butler, National Trust

Gardd y Gedrwydden 

Mae Gardd y Gedrwydden yn dyddio’n ôl i gyfnod cynnar yn hanes y safle ac mae’n agos iawn at y tŷ, felly mae’n ddigon posib mai hon oedd ‘Hoff Ardd’ y teulu Morgan. Gyda phyrth mawr ar y naill ochr a borderi blodau eang yn ei hamgylchynu, mae Gardd y Gedrwydden yn edrych fel yr oedd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, wedi'i rhannu’n ddwy gan lwybr echelinol canolog.  

Coeden hynafol 

Yng nghysgod Cedrwydden Libanus sy'n 250-year-old mlwydd oed - yr olaf o chwe Chedrwydden a blannwyd - mae Gardd y Gedrwydden yn llecyn perffaith i ymlacio, mwynhau picnic a chwarae. Cadwch lygad ar agor am flodau traed yr arth, irisau a’r sgorpionllys ym morderi blodau'r ardd.  

'Sir Briggs'

Yng nghanol yr ardd mae obelisg carreg, a godwyd er cof am 'Sir Briggs' - y ceffyl a gariodd Godfrey Morgan, arglwydd cyntaf Tredegar, yn Rhuthr y Frigâd Ysgafn ('The Charge of the Light Brigade' yn Saesneg). Yn dilyn y frwydr, daeth Sir Briggs i Dŷ Tredegar i fwynhau gweddill ei oes, a bu farw o henaint ym 1874 yn 28 oed.   

Nid dim ond y ceffyl arwrol hwn sydd wedi’i gladdu yma – mae’r ardd hefyd yn cynnwys cerrig bedd cŵn annwyl y teulu, Peeps, Friday a Barry.  

Golygfa o’r Orendy a’r Parterre, sydd ag adrannau cymesur o lawnt a phatrymau wedi’u creu ar y llawr gyda thywod a chregyn yn Nhŷ Tredegar, Casnewydd.
Yr Orendy a’r Parterre yn Nhŷ Tredegar | © National Trust Images/Andrew Butler

Gardd yr Orendy 

Mae Gardd yr Orendy, y lleiaf o'r tair gardd, yn edrych fel yr oedd fwy na dau gan mlynedd yn ôl, pan roedd y Morganiaid yn byw yma.    

Mae dyluniad cain, tonnog yr arddangosfa parterre addurniadol yn cynnwys amrywiaeth o ddeunyddiau o bob lliw a llun, gan gynnwys cregyn môr, morter calch wedi’i falu, llwch brics, llwch glo, tywodydd gwyn ac oren a glaswellt. 

Yn ystod y 1930au roedd Evan Morgan yn defnyddio'r Orendy i gynnal ei bartïon gwyllt enwog, ond hefyd fel lle i gadw ei adar egsotig. Mae’r Orendy hyd heddiw yn gartref i amrywiaeth o goed ffrwythau a phlanhigion parhaol a fyddai wedi tyfu yma yn y ddeunawfed ganrif.  

Gwthfwrdd Cefn Mabli

Nodwedd fwyaf trawiadol yr Orendy yw Gwthfwrdd Cefn Mabli, sy'n 42 troedfedd o hyd. Y gwthfwrdd hwn, un o ryfeddodau mawr Cymru, yw’r bwrdd ‘styllen dderw sengl hiraf yng ngwledydd Prydain. Roedd y gwthfwrdd, a wnaed yng nghyfnod y Rhyfel Cartref ar gyfer Tŷ Cefn Mabli, eisoes yn enwog yn yr ail ganrif ar bymtheg. 

'The Gallery of Kevenmabley hath in it of note ... an extraordinary shovelboard of 42 foot in length and of one entire plank of an oak whereof 20 foot was also cut off before.'  

- Thomas Dinely, 1684  

 

Gardd y Golchdy  

Ar ôl ymweld â’r gerddi ffurfiol, beth am ymweld â Gardd y Golchdy yn Fferm y Plas? Wedi’i hadnewyddu fel gardd gymunedol hygyrch yn 2019, mae’r man gwyrdd hwn yn llawn planhigion sy’n wych i wenyn, llysiau, a hyd yn oed ardal dawel i’r rheini sydd am osgoi’r tyrfaoedd a mwynhau heddwch byd natur. Gallwch fynd i Ardd y Golchdy am ddim rhwng 10.30am a 4pm.

Pethau i’w gwneud yn yr ardd i'r teulu yn Nhŷ Tredegar 

Mwynhewch bopeth sydd gan Mam Natur i’w gynnig y tymor hwn gyda’r gweithgareddau ’50 Peth i’w Gwneud Cyn Dy Fod Di’n 11 ¾’. Gwnewch y mwyaf o’r tywydd gwlyb drwy grwydro yn eich welîs, neu chwiliwch yn y llwyni am ffyngau ffantastig. Gallwch gasglu taflenni gweithgaredd o dderbynfa’r ymwelwyr, neu eu lawrlwytho yma.

Golygfa o wedd ogledd-orllewinol Tŷ Tredegar, Casnewydd, o’r tu allan i’w gatiau haearn gyr du ac aur addurniadol.

Darganfyddwch fwy yn Nhŷ Tredegar

Dysgwch pryd mae Tŷ Tredegar  ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Llun mawr, hirgrwn ar y nenfwd plastr addurniadol yw canolbwynt yr Ystafell Aur yn Nhŷ Tredegar, Casnewydd, sydd wedi’i haddurno’n goeth gyda lluniau â fframiau aur ar y waliau, a chadeiriau wedi’u clustogi â ffabrig porffor.
Erthygl
Erthygl

Hanes Tŷ Tredegar  

Neidiwch i mewn i hanes y plasty arbennig hwn a’r Morganiaid, Cymry balch a fu’n berchen arno am fwy na 500 mlynedd.   Darllenwch am eu gorffennol lliwgar, gan gynnwys hanesion o hynodrwydd a gwrthryfel y dosbarth gweithiol.  

Golygfa o lan y Llyn yn Nhŷ Tredegar, Casnewydd, yn edrych drwy ddail tuag at y Tŷ Cychod.
Erthygl
Erthygl

Crwydrwch y parcdir yn Nhŷ Tredegar 

Dysgwch am y pethau gorau i’w gweld a’u gwneud ar eich ymweliad â’r parcdir yn Nhŷ Tredegar a darllenwch ein canllaw i sicrhau bod eich ymweliad yn un diogel a hwyliog.

A view of the front of the red mansion house
Erthygl
Erthygl

Pethau i’w gwneud yn Nhŷ Tredegar 

Dysgwch fwy am y plasty arbennig hwn a’r Cymry balch a fu’n berchen arno am fwy na 500 mlynedd. Darllenwch ‘mlaen am ragor o wybodaeth am ddarganfod y tŷ hanesyddol hwn.

Coffee and cake at the Orangery restaurant Cliveden National Trust
Erthygl
Erthygl

Bwyta yn Nhŷ Tredegar 

Galwch draw i gaffi’r Bragdy am ddiod a bwyd poeth. Wedi’i leoli mewn adeilad hanesyddol, mae pob ceiniog a gaiff ei gwario yma yn ein helpu i ofalu am Dŷ Tredegar ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.