Skip to content

Hanes Tŷ Tredegar 

Llun mawr, hirgrwn ar y nenfwd plastr addurniadol yw canolbwynt yr Ystafell Aur yn Nhŷ Tredegar, Casnewydd, sydd wedi’i haddurno’n goeth gyda lluniau â fframiau aur ar y waliau, a chadeiriau wedi’u clustogi â ffabrig porffor.
Yr Ystafell Aur yn Nhŷ Tredegar | © National Trust Images/Andreas von Einsiedel

Yn gyfoethog, gwyllt a Chymry balch, bu Tŷ Tredegar yn gartref i’r teulu Morgan am ganrifoedd. Gan honni eu bod yn ddisgynyddion i Dywysogion Cymru, roedd y Morganiaid yn fawr eu dylanwad yng Nghasnewydd a’r siroedd cyfagos yn Ne-ddwyrain Cymru. Dysgwch fwy am sut gwnaethant chwarae rhan fawr yng nghymdeithas, gwleidyddiaeth ac economi’r oes, a sut mae olion y teulu i’w gweld yn yr ardal hyd heddiw.

Hanes y teulu Morgan yn Nhŷ Tredegar

Yr oesoedd canol  

Wedi’i ddisgrifio fel ‘lle teg o garreg’, mae cofnodion am Dŷ Tredegar yn dyddio’n ôl i’r oesoedd canol. Fodd bynnag, cafodd y tŷ brics coch eiconig a welwn yma heddiw ei adeiladu yn y 1670au gan Syr William Morgan a’i wraig, Blanche.

Cyfunodd y cwpl eu cyfoeth i frolio’u ffasiwn uchaf a’u bywydau bras i’r byd, gan droi’r maenordy carreg yn blasty gwledig afradlon o foethus.  

Yr oes ddiwydiannol 

Erbyn diwedd y 1700au, roedd yr ystâd yn fwy na 40,000 erw o faint, ac yn estyn i’r bryniau cyfagos. Roedd Syr Charles Gould Morgan, y penteulu ar y pryd, yn ŵr busnes craff, ac yn ddigon buan fe sylwodd ar werth syfrdanol ei ystâd. 

Roedd y tir, a oedd yn gyfoeth o fwynau, yn ddelfrydol ar gyfer pyllau glo a gweithfeydd haearn. Manteisiodd Syr Charles ar y cyfle i gyfalafu’r ystâd a phenderfynodd brydlesu’r tir i berchnogion y pyllau, yn ogystal â sefydlu Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog.  

Gwrthryfel y Siartwyr 

Roedd problemau o fod yn berchen ar ystâd mor fawr hefyd, ac yn y 1830au, daeth y teulu Morgan yn ffocws i fudiad y Siartwyr; protest dros fwy o hawliau gwleidyddol i’r dosbarth gweithiol.

Llun o Syr Charles Morgan a’i deulu yn y Neuadd Newydd, tua 1830, yn Neuadd y Gweision Tŷ Tredegar, Cymru
Llun o Syr Charles Morgan a’i deulu yn y Neuadd Newydd, Tŷ Tredegar, Cymru | © National Trust Images/Andreas von Einsiedel

Perchennog newydd Tŷ Tredegar, Syr Charles Morgan, oedd yr AS dros Sir Fynwy a Brycheiniog ar y pryd. Ym 1830, ysgrifennodd John Frost, un o arweinwyr mudiad y Siartwyr, lyfryn yn dwyn y teitl ‘A Christmas Box for Sir Charles Morgan’ yn cyhuddo Charles o gam-drin ei denantiaid ac yn galw am bleidlais i bawb a phleidleisio cyfrinachol. 

Ffefryn lleol

Parhaodd y teulu Morgan i ddylanwadu’n sylweddol ar wleidyddiaeth dros y blynyddoedd nesaf, gyda llawer o’i ddisgynyddion yn dilyn ôl traed Charles drwy ddod yn Aelodau Seneddol. Etifeddwyd y Tŷ gan ei ŵyr, Godfrey, a oedd yn AS ceidwadol, ym 1875. 

Mae Godfrey’n cael ei gofio am ei garedigrwydd. Rhoddodd ddarnau o’i dir i ffwrdd, gan gynnwys lle mae Parc Belle Vue ac Ysbyty Brenhinol Gwent heddiw. Lleihaodd y rhent i’w denantiaid hefyd, gan hyd yn oed adael i un wraig weddw fyw yno’n ddi-rent ar ôl marwolaeth ei gŵr. 

Golygfa o wedd ogledd-ddwyreiniol Tŷ Tredegar ar ddiwrnod heulog
Gwedd ogledd-ddwyreiniol Tŷ Tredegar, Casnewydd, De Cymru. | © National Trust Images/Andrew Butler

Gormodedd, ysblander a diwedd oes yn Nhredegar 

Daeth diwedd i stori’r teulu Morgan yn Nhŷ Tredegar gydag Evan, gor-nai Godfrey. Roedd yn unigolyn digon gwyllt ac yn enwog am ei bartïon mawr a’i ymdrechion ar ddewiniaeth ddu.  

Bu farw Evan ym 1949, gan adael ar ei ôl rai o straeon mwyaf cywilyddus cyfnod y Morganiaid a baich ariannol a olygai y bu’n rhaid i’w berthnasau werthu Tŷ Tredegar yn fuan wedi hynny. 

Ysgol Gatholig i ferched yn Nhŷ Tredegar

Gwerthwyd y tŷ gan berthnasau pell Evan yn y 1950au, pan ddaeth yn Ysgol Gatholig i ferched. Yn y 1970au, prynwyd y tŷ gan Gyngor Casnewydd a’i trawsnewidiodd yn amgueddfa i adlewyrchu stori unigryw’r plasty. 

Yn 2021, prydlesodd y cyngor y tŷ i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sydd bellach yn gofalu am yr adeiladau hanesyddol, y gerddi anarferol a’r parcdir eang. 

Llun mawr, hirgrwn ar y nenfwd plastr addurniadol yw canolbwynt yr Ystafell Aur yn Nhŷ Tredegar, Casnewydd, sydd wedi’i haddurno’n goeth gyda lluniau â fframiau aur ar y waliau, a chadeiriau wedi’u clustogi â ffabrig porffor.

Casgliadau Tŷ Tredegar

Darganfyddwch y gwrthrychau a’r gwaith celf rydym yn gofalu amdanynt yn Nhŷ Tredegar ar wefan Casgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Clawr llyfr 60 o Adeiladau Rhyfeddol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Adeiladau rhyfeddol yng Nghymru 

Mae Tŷ Tredegar yn cael sylw yn y llyfr darluniadol hardd, '60 o Adeiladau Rhyfeddol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol', a ysgrifennwyd gan un o’n curaduron arbenigol. Prynwch y llyfr i ddysgu mwy am bum adeilad rhyfeddol yng Nghymru, yn ogystal â strwythurau cyfareddol eraill ledled Lloegr a Gogledd Iwerddon.

A view of the front of the red mansion house
Erthygl
Erthygl

Pethau i’w gwneud yn Nhŷ Tredegar 

Dysgwch fwy am y plasty arbennig hwn a’r Cymry balch a fu’n berchen arno am fwy na 500 mlynedd. Darllenwch ‘mlaen am ragor o wybodaeth am ddarganfod y tŷ hanesyddol hwn.

Spring at Tredegar House, Newport, Wales
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r ardd yn Nhŷ Tredegar 

Crwydrwch amrywiaeth o erddi hanesyddol ar eich ymweliad â Thŷ Tredegar. Darllenwch fwy am y llecynnau gwyrdd unigryw hyn, a sut gall ymwelwyr eu mwynhau nhw heddiw.

People walking in parkland at Tredegar with trees in the foreground
Erthygl
Erthygl

Crwydrwch y parcdir yn Nhŷ Tredegar 

Dysgwch am y pethau gorau i’w gweld a’u gwneud ar eich ymweliad â’r parcdir yn Nhŷ Tredegar a darllenwch ein canllaw i sicrhau bod eich ymweliad yn un diogel a hwyliog.

Coffee and cake at the Orangery restaurant Cliveden National Trust
Erthygl
Erthygl

Bwyta yn Nhŷ Tredegar 

Galwch draw i gaffi’r Bragdy am ddiod a bwyd poeth. Wedi’i leoli mewn adeilad hanesyddol, mae pob ceiniog a gaiff ei gwario yma yn ein helpu i ofalu am Dŷ Tredegar ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.