Skip to content

Nadolig yn Erddig

Teulu’n archwilio’r addurniadau Nadolig yn Neuadd Erddig, Wrecsam
Teulu’n archwilio’r addurniadau Nadolig yn Neuadd Erddig, Wrecsam | © National Trust Images/Paul Harris

Camwch i mewn i hud y Nadolig yn Erddig, lle bydd y tŷ wedi'i addurno'n hardd, wedi'i ysbrydoli gan y gerdd, "'Twas the Night Before Christmas." Ymgollwch yn swyn gwyliau clasurol wrth i chi archwilio ystafelloedd sydd wedi'u haddurno i ddod â'r gerdd boblogaidd hon yn fyw. Crëwch atgofion bythgofiadwy gyda phrofiadau Nadoligaidd, o frecwast a swper gyda Siôn Corn i’n groto gwrthdro unigryw. Mwynhewch grefftau’r Nadolig, straeon yr ŵyl a danteithion tymhorol blasus. 

Amseroedd agor dros gyfnod y Nadolig

 

  • Dydd Sadwrn 30 Tachwedd - 5 Ionawr - ar agor 10-4pm (tŷ ar agor 11:30 - 15:00)  

  • Rhag 16, 17, 18, 19 - bydd yr eiddo ar agor 10-7pm (tŷ yn agor ar y dyddiau hyn 11:30-3.00pm yn ail-agor gyda'r nos 4.00pm-6:30pm)  

  • Ar gau Rhagfyr 24 a 25  

  • Dysgwch ragor am ein hamseroedd agor.

 

Nadolig yn y tŷ

Dros y Nadolig hwn, bydd Tŷ Erddig yn cael ei drawsnewid gydag addurniadau traddodiadol hardd wedi’u hysbrydoli gan y gerdd "'Twas the Night Before Christmas" gan Clement Moore. Wrth i chi grwydro drwy'r tŷ, byddwch yn dod ar draws portreadau byw o adegau allweddol o'r gerdd, gyda phob ystafell wedi'i haddurno'n ofalus i adlewyrchu penillion gwahanol.  

Gall plant gychwyn ar lwybr chwilota arbennig, yn eu harwain drwy’r tŷ wrth iddynt ddarganfod manylion hyfryd fel llygod wedi’u gwneud â llaw, byrddau wedi’u haddurno â danteithion melys, hosanau wedi eu gosod wrth y tân yn ofalus ac eirin siwgr yn dawnsio yn yr ystafell wely. Gan ychwanegu at hud yr ŵyl, bydd yr eiddo yn cynnwys gosodiadau Nadolig syfrdanol. Un uchafbwynt yw gosodiad papur cyfareddol gan Bethan Maddocks, sy’n cynnwys coeden fodurol o doriadau papur sy’n chwarae gyda golau a chysgod, gan gynnig profiad gwirioneddol hudolus.

Cipiwch hud eich diwrnod Nadoligaidd gyda 5 argraffiad llun am ddim, trwy garedigrwydd ein partner gwasanaeth lluniau, CEWE. Yn syml, ewch i Orsaf Luniau CEWE yn Ystafell y Llwythau i argraffu eich hoff adegau, yn syth o’ch ffôn. 

 

Addurniadau awyr agored Nadoligaidd  

Dros y Nadolig hwn, bydd tiroedd Erddig yn cael eu haddurno ag addurniadau Nadolig swynol sy'n ennyn naws gwladaidd, hynafol. Ar hyd y tiroedd, fe welwch goed Nadolig hardd a gwyrddni wedi’u gwneud â llaw gan ein gwirfoddolwyr ymroddedig.  

Yn ogystal, bydd carw helyg maint llawn yn cael ei gysylltu â’n cerbyd Nadolig llon, gan ddarparu’r man hunlun perffaith i ymwelwyr.  

 

Nosweithiau hudolus yn Erddig

Rydym eisiau i bawb brofi hud y Nadolig yn Erddig, felly byddwn yn ymestyn ein horiau agor o 16 i 19 Rhagfyr, gan aros ar agor tan 7pm. Ar y dyddiadau arbennig hyn, bydd y tŷ ar agor o 11:30am tan 2:30pm ac yn ailagor am 3:30pm, gyda mynediad olaf am 6:30pm.  

Dilynwch lwybr yr ŵyl drwy’r tŷ. Mwynhewch dostio malws melys yn yr Iard Goed (os bydd y tywydd yn caniatáu, mae costau ychwanegol) a gweithgareddau crefftau Nadoligaidd yn ein hystafell addysg. Cofiwch am ein Groto Groes, ar agor rhwng 4pm – 6pm, lle gallwch gwrdd â Siôn Corn a rhoi eitemau o fwyd hanfodol i’r rhai sydd mewn angen. 

Bydd y bwyty hefyd ar agor, yn cynnig diodydd poeth a byrbrydau blasus i'ch cynhesu. Sylwch, bydd yr ardd yn cau am 4pm. 

 

 

Plentyn yn rhyfeddu ar Goeden Nadolig yn Erddig
Plentyn yn rhyfeddu ar Goeden Nadolig yn Erddig | © National Trust Images/Paul Harris

Hwyl Nadoligaidd teuluol

 

Brecwast neu swper gyda Siôn Corn

Blaswch frecwast Cymreig hyfryd gyda gwestai arbennig iawn - Siôn Corn. Mwynhewch ganeuon, stori arbennig ac anrheg fach i blant. Ar ôl brecwast, gadewch i Jake y Corrach swyno eich rhai bach gyda'i straeon hudolus.  Am ddewis arall gyda’r nos, ymunwch â Siôn Corn am swper Nadoligaidd. Mwynhewch ginio Nadolig traddodiadol gyda phwdin Nadoligaidd i ddilyn, a gwyliwch yr hud yn datblygu wrth i bob plentyn dderbyn anrheg arbennig.  

Cliciwch yma am fanylion ynglŷn â sut i archebu lle, neu i ddysgu mwy am y digwyddiadau Nadolig

 

Groto o chwith

Bob penwythnos, ewch i groto gwrthdro unigryw Erddig sy’n cefnogi Banc Bwyd Wrecsam, lle gallwch gwrdd â Siôn Corn a rhoi hanfodion i’r rhai sydd ei angen fwyaf. 

Gallwch gyfrannu tuniau ffrwythau neu lysiau, pasta, te a choffi, sudd, llaeth UHT, pasta ac eitemau ymolchi drwy ddod â nhw i'n swyddfa docynnau yn ystod oriau agor arferol. 

Bydd eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Dysgwch beth yw anghenion y banc bwyd yma

 

Adrodd straeon

Bob dydd Sadwrn ym mis Rhagfyr, dewch â’ch teulu i fwynhau sesiynau adrodd straeon Nadoligaidd gyda’r talentog Jake Evans. Yn enwog am ei straeon cyfareddol a’i berfformiadau bywiog, bydd Jake yn cludo plant ac oedolion fel ei gilydd i fyd o antur y Nadolig.   

I gael gwybod mwy am ddyddiadau ac amseroedd penodol ar gyfer y sesiynau adrodd straeon hyn, ewch i'n tudalen digwyddiadau.  

 

Crefftau Nadolig  

Ymunwch â ni bob dydd Sul ar gyfer crefftau Nadolig yn yr Ystafell Addysg. Rhwng 11am a 3pm, ymunwch â ni i beintio addurn boncyff unigryw i fynd adref â chi fel cofrodd fythgofiadwy o’ch diwrnod yn Erddig. Hefyd, ar ddydd Sadwrn, 14 Rhagfyr, o 11yb i 3yp, dewch draw a ymunwch â'n gwirfoddolwyr Felin i greu addurniadau coeden Nadolig gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau ailgylchol a chynaliadwy.

 

Siôn Corn yn ei groto yn Erddig, wedi ei amgylchynu gan roddion ymwelwyr i’r banc bwyd lleol
Siôn Corn yn ei groto yn Erddig, wedi ei amgylchynu gan roddion ymwelwyr i’r banc bwyd lleol. | © National Trust Images/Paul Harris

Teithiau cerdded gaeafol

Taith gerdded aeafol ar ystad 1,200 acer Erddig yw’r cyfle perffaith i arafu a mwynhau adegau syml i’w trysori y Nadolig hwn. Mae llwybrau cyfeillgar i gŵn yn golygu y gall pawb yn y teulu ymuno.

 

Bwyd a diod Nadoligaidd

Cynheswch gyda diod boeth o’r bwyty, mwynhewch rywbeth i'w fwyta o’r fwydlen dymhorol, neu rhowch wledd i’ch hun gyda gwin cynnes, siocled poeth, malws melys wedi’u tostio (ar ddyddiadau penodol) neu ddarn o gacen i orffen eich ymweliad Nadoligaidd ag Erddig. 

Siopa Nadolig hawdd

Chwilio am ysbrydoliaeth ar gyfer anrhegion Nadolig? Dewch heibio ein siop anrhegion sydd â detholiad hyfryd o anrhegion ac addurniadau. Rhowch anrheg arbennig i’ch anwyliaid neu i chi'ch hun y Nadolig hwn.

 

Y plasty o’r 18fed ganrif, ar draws y llyn yn Erddig, Cymru

Darganfyddwch fwy yn Erddig

Dysgwch pryd mae Erddig ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Ymwelwyr yn yr Ystafell Groeso Las dros y Nadolig yng Nghastell Powis ym Mhowys, Cymru

Y Nadolig yng Nghymru 

P’un a ydych yn chwilio am gestyll sy’n llawn addurniadau addurnedig, lleoedd i gwrdd â Siôn Corn, diwrnod allan mewn marchnad Nadolig neu fwynhau taith gerdded gaeafol ffres, mae gennym ddigonedd o lefydd yng Nghymru i wneud atgofion Nadoligaidd.

Llun du a gwyn o weision a morynion yn eu gwisg, yn sefyll ar risiau blaen y tŷ mawr. Teulu o rieni a phlant yn edrych arnyn nhw o ffenestr ar y llawr cyntaf.
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r tŷ yn Erddig 

Wedi ei achub rhag dadfeilio, mae Erddig yn fath prin ac unigryw o’r plastai sydd wedi goroesi yn orlawn o drysorau. O bortreadau gweision a morynion i ddodrefn cain, dysgwch beth yw’r prif bethau i’w gweld a’u gwneud wrth ymweld â’r tŷ.

Y tŷ a’r tocwaith yn Erddig, Wrecsam, dan orchudd barrug
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r ardd Erddig 

O gennin Pedr yn y gwanwyn i 180 o wahanol fathau o afalau yn yr hydref, dysgwch am yr ardd furiog hon o’r 18fed ganrif ai gweithgareddau tymhorol a’r uchafbwyntiau.

A festive selection of Christmas products from National Trust shop.
Erthygl
Erthygl

Bwyta a siopa yn Erddig 

Edrychwch ar y mannau i fwyta a siopa yn Erddig. Mae’r rhan fwyaf yn ein hadeiladau hanesyddol ac mae pob pryniant yn ein helpu i ofalu am Erddig i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau.