Darganfyddwch fwy yng Ngerddi Dyffryn
Dysgwch pryd mae Gerddi Dyffryn ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mwynhewch grefftau'r Nadolig a holl hwyl yr ŵyl gyda’r teulu yng Ngerddi Dyffryn. Darganfyddwch olygfeydd hudolus yn y gerddi, addurnwch "deulu eira" yng Nghornel y Dyn Eira, chwaraewch lwyth o gemau teuluol a thynnwch lun yn sled Siôn Corn. A chofiwch alw yn ein siop lyfrau ail-law lle bydd llawer o ddigwyddiadau hwyl yn digwydd drwy gydol mis Rhagfyr a gwyliau’r Nadolig.
7 Rhagfyr – 5 Ionawr
Dewch i fwynhau hwyl yr ŵyl fel teulu yn yr ardd – darganfyddwch Gornel y Dyn Eira, addurnwch "deulu eira", a chwaraewch Hŵpla’r Dyn Eira a Kerplunk Peli Eira Enfawr. Yna ymgollwch eich hun mewn stori Nadoligaidd glasurol yng Nghornel y Torrwr Cnau gyda theatr bypedau, sgitls y Torrwr Cnau, gêm Eirin Siwgwr a Lolis arbennig, a chwrs marblis bach y Torrwr Cnau. Neidiwch i mewn i sled Siôn Corn neu gwenwch o flaen y goeden anferth o flaen Tŷ Dyffryn am lun teuluol Nadoligaidd cyn mynd i Gaffi’r Oriel am grefftau Nadoligaidd ac i weld yr holl sanau Nadolig yn hongian o'r nenfwd a'r "lle tân" clyd sydd wedi’i wneud yn gyfan gwbl o lyfrau ail-law!
Ar benwythnosau ym mis Rhagfyr byddwn yn cynnal gweithdai addurniadau Nadolig i blant yng Nghaffi’r Oriel. Does dim angen cadw lle ymlaen llaw ac ni fydd angen talu (heblaw’r pris mynediad arferol).
Ddydd Mawrth 5 a Dydd Mercher 6 Rhagfyr, bydd Rhian o Wild and Fabulous Flowers yn cynnal ei gweithdai torchau Nadolig poblogaidd. Mae pob gweithdy'n para tair awr gydag uchafswm o 15 o bobl ym mhob sesiwn. Pris tocyn yw £65 y pen sy'n cynnwys mynediad i'r gerddi. Rhaid cadw lle ymlaen llaw – darllenwch fwy am y digwyddiad a bachwch docyn ar dudalen digwyddiadau ein gwefan.
Mae mwy o drîts Nadoligaidd eto i’w cyhoeddi hefyd, felly cadwch lygad am ddiweddariadau i sicrhau na fyddwch chi'n colli unrhyw gyhoeddiadau am ddigwyddiadau’r Nadolig.
Mae cymaint o hwyl teuluol i'w gael yng Ngerddi Dyffryn y Nadolig hwn
Dysgwch pryd mae Gerddi Dyffryn ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mwynhewch brydau i dwymo’r galon neu snac ysgafn yn y caffi, gyda danteithion blasus yn goron ar eich ymweliad. A chofiwch alw i mewn i’r siop i brynu rhywbeth i gofio’ch ymweliad.
Darganfyddwch erddi 55 erw Dyffryn, gan gynnwys yr ardd goed, planhigion trofannol y tŷ gwydr, Gerddi’r Gegin a’r ardal chwarae wyllt.
Mae gan Erddi Dyffryn sgôr o ddwy bawen. Dysgwch fwy am ymweld gyda’ch ci a sut rydym yn gwneud Dyffryn yn well fyth i gŵn.