
Darganfyddwch fwy yng Ngerddi Dyffryn
Dysgwch pryd mae Gerddi Dyffryn ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Gyda gardd-ystafelloedd clud, lawntiau ffurfiol a gardd goed fawr, mae digon i’w ddarganfod yn ystod eich ymweliad. Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, bydd y gerddi 55 erw hyn yn gweld rhaglen adfywio uchelgeisiol i’w hadfer i’w gwir ogoniant o’r 1920au.
Mae’r ardd yn hardd drwy gydol y flwyddyn, ond mae’r gwanwyn bob amser yn ddathliad mawr o oleuni, lliw a gwead.
Cyn gynted ag y cyrhaeddwch, bydd y cennin Pedr llon yn eich cyfarch wrth y fynedfa, a gallwch eu gweld yma ac acw ar bob cam o’ch taith drwy’r gerddi. Ar ddechrau eich siwrne, fe welwch ein henwog Fanc y Cynel – sy’n fôr o grocysau, cennin Pedr a lilis bach gwynion hwyr. Mae pobl yn ymweld â ni bob blwyddyn i dynnu llun o Fanc y Cynel pan mae ar ei harddaf.
O’r fan hon, cerddwch i’r Ardd Goed i weld y blagur yn dechrau agor, neu crwydrwch i Lawnt y De i weld yr arddangosfeydd helaeth o diwlipau a chennin Pedr, sy’n dod â bach o wmff i ffurfioldeb y lawnt. O’r fan hon gallwch weld y coed Magnolia yn britho’r olygfa’n binc a gwyn, gan eich denu i ddarganfod y Gardd-Ystafelloedd.
Cewch eich sgubo i bedwar ban byd yn ein Gardd-Ystafelloedd thematig, o’r Eidal yn ein Gardd Bompeiaidd (sydd newydd ailagor), lle bydd y Wisteria’n blodeuo’r holl ffordd i fyny colofnau’r ardd cyn bo hir, i bellafoedd byd yn yr Ardd Egsotig. Yng Ngerddi’r Gegin gerllaw, mae blagur y Coed Gellyg, Afalau a Bricyll yn ffrwydro, ac mae blagur enwog ein Coed Ceirios yn dechrau ymestyn ei freichiau ar draws y safle.
Mae’r gwanwyn yng Ngerddi Dyffryn wir yn wledd i’r llygaid.
Dewch i Erddi Dyffryn ar 7-22 Ebrill i ddilyn ein llwybr Pasg unigryw a diddorol - hwyl i bawb o bob oedran. Mae ’na 10 o weithgareddau eleni – maen nhw i gyd yn ymarferol, yn seiliedig ar y Pasg, ac wedi’u cynllunio i bob aelod o’r teulu eu mwynhau. Cwblhewch y llwybr a chasglu ŵy Pasg siocled llaeth neu figan/Rhydd Rhag*. Mae llwybr Pasg Dyffryn yn gyfle i bob aelod o'ch teulu, o'r ieuengaf i'r hynaf, gael hwyl a chreu atgofion gwerthfawr dros y Pasg. Y gost yw £3.50 y llwybr (bydd angen talu’r pris mynediad arferol hefyd) a does dim angen archebu. Dysgwch fwy ar y dudalen digwyddiadau.
*Yn addas i bobl ag alergeddau llaeth, wyau, glwten, cnau mwnci a chnau coed.
O fis Mawrth i fis Mai cymerwch ran yn #GwleddyGwanwyn a chadw llygad am arwyddion o’r gwanwyn wrth i wahanol goed ddechrau blodeuo. Dilynwch ein Llwybr Gwledd y Gwanwyn i ddod o hyd i uchafbwyntiau gorau’r gwanwyn. Casglwch fap Llwybr Gwledd y Gwanwyn o’r Ganolfan Groeso wrth gyrraedd a bydd yn eich tywys o amgylch yr enghreifftiau gorau a harddaf o flodau'r gwanwyn yn ein gerddi. Tra byddwch chi ar eich taith, dysgwch sut i dynnu lluniau gwych o flodau yn ein gorsafoedd ffotograffiaeth ymarferol. Neu benthycwch becyn creadigol am ddim (sy'n cynnwys pad braslunio a phaent dyfrlliw) i gofnodi'r blagur drwy fath gwahanol o gelf.
Drwy gydol y tymor, bydd yr hyn a welwch ar eich taith yn newid, felly mae'n werth galw ’nôl ambell dro i weld y gorau o'r tymor cyfan. Cadwch eich map a dewch yn ôl trwy gydol y gwanwyn i weld y cyfan.
Does dim tâl ychwanegol am fap Llwybr Gwledd y Gwanwyn (ond bydd angen talu’r pris mynediad arferol i’r gerddi).
Bydd teithiau blagur am ddim gyda Phrif Dyfwr Coed Dyffryn, Rory yn digwydd drwy gydol tymor y blagur. Maen nhw’n gyfle gwych i weld y blagur gorau ar y pryd, ymweld â rhannau o'r tiroedd nad ydyn nhw’n cael eu gweld yn aml, a dysgu mwy am ein coed a'n harferion garddio.
Er bod y teithiau am ddim, rydyn ni’n argymell eich bod chi’n cadw lle ymlaen llaw i sicrhau na chewch eich siomi ar y diwrnod. Cadwch eich lle yn yr adran digwyddiadau.
Dewch i weld yr haul fel erioed o'r blaen. Mae Helios yn gerflun sfferig saith metr goleuedig gan yr artist Prydeinig Luke Jerram. Profwch Helios yng Ngerddi Dyffryn ar 23-26 Mai a 29 Mai-1 Mehefin. Gyda goleuadau’n ymdonni, delweddau solar a synau'r haul wedi'u recordio gan NASA, mae hwn yn gyfle gwych i weld y rhyfeddod clyweledol hwn ar ddangos yn yr awyr agored.
Bydd Helios yn effeithio ar oriau agor Dyffryn, ac er y bydd y gwaith celf yn cael ei arddangos dros benwythnosau hanner tymor mis Mai, ni fydd i fyny am ddau ddiwrnod yng nghanol hanner tymor (Dydd Mawrth 27 Mai a Dydd Mercher 28 Mai).
Bydd ’na hefyd lawer o raglenni o amgylch Helios, gan gynnwys perfformiadau, llwybrau, awr hamddenol, pecynnau creadigol ac oriau agor hwyr. Ewch i’n tudalen Helios arbennig am yr holl wybodaeth ddiweddaraf.
Dysgwch pryd mae Gerddi Dyffryn ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Adeiladodd John Cory y tŷ a’r gerddi yn Nyffryn gyda’r cyfoeth a enillodd drwy ei orchestion yn y diwydiant glo.
Mwynhewch brydau i dwymo’r galon neu snac ysgafn yn y caffi, gyda danteithion blasus yn goron ar eich ymweliad. A chofiwch alw i mewn i’r siop i brynu rhywbeth i gofio’ch ymweliad.
Ymwelwch â Gerddi Dyffryn fel grŵp a mwynhau gostyngiadau ar ffioedd mynediad, teithiau o’r gerddi Edwardaidd a bwyd blasus yn y caffis.
Dysgwch sut y gallwch gyfrannu yng Ngerddi Dyffryn a chael golwg ar y gwahanol gyfleoedd sydd ar gael.