Casgliadau Gerddi Dyffryn
Darganfyddwch y gwrthrychau a’r gwaith celf rydym yn gofalu amdanynt yng Ngerddi Dyffryn ar wefan Casgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Gall hanes ystâd Dyffryn gael ei olrhain i'r 7fed ganrif. Cafodd llawer o gartrefi mawr Cymru ar ddiwedd y 19eg ganrif eu hadeiladu ag arian a wnaed yn y chwyldro diwydiannol. Roedd Dyffryn yn un o'r cartrefi hyn, a chafodd ei adeiladu'n fawreddog gyda chyfoeth a wnaed o’r diwydiant glo.
Yn y 7fed ganrif enw'r tŷ oedd Plas Worlton a chafodd ei roi i'r Esgob Oudaceous o Landaf. Yn yr 16eg ganrif prynodd y teulu Button y plas ac adeiladwyd y tŷ cyntaf. Bu'r teulu'n byw ar yr ystâd am sawl cenhedlaeth, a newidiwyd yr enw i Dŷ Dyffryn.
Ym 1891, gwerthwyd yr ystâd i John Cory, masnachwr glo cyfoethog. Dechreuodd tad John, Richard, fasnachu glo yn gyntaf fel Richard Cory & Sons. Gweithiodd John a'i frawd gyda'i gilydd i ehangu'r busnes ar ôl marwolaeth Richard ym 1882, gan ailenwi'r busnes yn Cory Brothers & Co.
Symudodd John i Ddyffryn fel y gallai gymudo i'r Barri bob dydd. Ef oedd un o sylfaenwyr a dyfeiswyr porthladd y Barri, a ddechreuodd gystadlu â Chaerdydd i allforio glo o Gymru. Roedd John a'i frawd yn berchen ar byllau glo ledled De Cymru, ac yn ôl pob sôn roedden nhw'n berchen ar fwy o gerbydau rheilffordd preifat na neb arall yn y DU.
Roedd agoriad camlas Suez ym 1869 yn ffactor allweddol yn yr ehangiad. Dechreuodd y brodyr brynu mwy o byllau glo wrth i'r galw am lo stêm Cymreig - y glo gorau yn y byd - gynyddu. Roeddent mewn lleoliad delfrydol i'w anfon ar longau i wledydd lle'r oedd ei angen ar gyfer llongau stêm a rhwydweithiau rheilffordd newydd.
Roedden nhw'n allforio glo i fwy na 120 o borthladdoedd gwahanol ym mhedwar ban byd, felly daeth John yn ŵr anhygoel o gyfoethog. Gyda'r cyfoeth hwn, gwnaeth ef a'i fab Reginald adeiladu'r tŷ a'r tiroedd rhyfeddol a welwch yma heddiw. Roedd yn ŵr hael iawn, ac roedd yn cyfrannu bron £50,000 y flwyddyn at elusennau.
Ar ôl symud o Ddyfnaint gyda’i wraig Anne a dau o’i bedwar plentyn, Florence a Reginald, adeiladodd John y tŷ presennol ym 1893. Roedd Reginald yn arddwriaethwr brwd, a chydweithiodd ar ddyluniad yr ardd gyda Thomas Mawson.
Yn ogystal â noddi anturiaethau hel planhigion ar gyfer rhai o fotanegwyr blaenllaw’r oes, aeth Reginald Cory ar sawl taith ei hun, i Dde Affrica, y Caribî a Mynyddoedd yr Atlas. Yn sgil ei gymorth ariannol i’r anturiaethau hyn, fel tanysgrifiwr, roedd yn cael cyfran o’r hadau a gasglwyd.
Mewn sawl ffordd, roedd yr ardaloedd plannu yng ngerddi Cory fel y waliau a’r silffoedd a ddefnyddiodd i arddangos ei eitemau gwerthfawr dan do. Er mwyn creu ‘oriel’ awyr agored addas ar gyfer y trysorau a gasglodd ar ei anturiaethau botanegol, galwodd Cory ar y tirluniwr blaenllaw, Thomas Mawson.
Yn ogystal â chreu nodweddion newydd ar gyfer y gerddi, fel y Cwrt Palmantog a’r Ardd Bompeiaidd, mynnodd Cory gynnwys ardaloedd presennol, fel yr ardd goed, yn y dyluniad. Dyma lle gwelwch lawer o’r hen goed a llwyni gwreiddiol, gan gynnwys y fasarnen goch a dyfwyd o hadyn a gasglwyd gan y botanegydd enwog Ernest Wilson ar ei daith i Tsieina ym 1901, a blannwyd gyntaf gan Cory.
Mae’n amlwg o gofnodion hanesyddol fod y bartneriaeth rhwng Mawson a Cory yn un arbennig o greadigol; gyda Cory yn sicr yn cyfrannu at y dyluniad, o ran y bensaernïaeth a’r plannu. Aeth y ddau ar daith gyda’i gilydd drwy dde Ewrop hyd yn oed, lle gwnaethant gasglu syniadau a ddefnyddiwyd i ddatblygu’r ardd yn y pen draw.
Roedd y gerddi thematig llai o faint yn arbennig yn dangos yr amrywiaeth yma o syniadau, yn arbennig yn y dylanwadau clasurol mewn pensaernïaeth a dyluniad y gerddi ffurfiol. Roedd y gerddi llai hyn hefyd yn berffaith i arddangos casgliadau Cory o blanhigion llysieuol a llai o faint, gan gynnwys rhosod, bylbiau, planhigion suddlon ac amrywiaeth eang o grwpiau eraill.
Cystal oedd ei enw da a chymaint oedd ei ddylanwad nes i Reginald Cory ddod yn aelod blaenllaw o’r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol a’r Gymdeithas Linnaeaidd. Datblygodd ddiddordeb penodol yn y dahlias, grŵp o blanhigion a esgeuluswyd i raddau, a bu’n bersonol gyfrifol am sefydlu treialon garddwriaethol a arweiniodd at gyfoeth o amrywiadau newydd ac atgyfodiad ym mhoblogrwydd y genws, sydd wedi para hyd heddiw.
Yn dilyn marwolaeth Florence ym 1937, prynwyd yr ystâd gan Syr Cennydd Traherne a chafodd ei gosod ar brydles i Gyngor Sir Morgannwg ym 1939. Wedi hyn, fe'i defnyddiwyd at ddibenion sefydliadol am gyfnod, fel academi heddlu, canolfan hyfforddi cŵn ac i gynnal cynadleddau addysg.
Mae cyngor Bro Morgannwg yn berchen ar y tŷ a'r gerddi o hyd, ond daeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gyfrifol am eu cynnal a'u rhedeg ym mis Ionawr 2013 ar brydles o 50 mlynedd. Mae llawer o waith cadwraeth wedi'i wneud i'r tŷ a'r gerddi gan y cyngor, a nawr gallwn adeiladu ar y gwaith hwnnw a diogelu dyfodol Dyffryn.
Darganfyddwch y gwrthrychau a’r gwaith celf rydym yn gofalu amdanynt yng Ngerddi Dyffryn ar wefan Casgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Darganfyddwch erddi 55 erw Dyffryn, gan gynnwys yr ardd goed, planhigion trofannol y tŷ gwydr, Gerddi’r Gegin a’r ardal chwarae wyllt.
Mwynhewch brydau i dwymo’r galon neu snac ysgafn yn y caffi, gyda danteithion blasus yn goron ar eich ymweliad. A chofiwch alw i mewn i’r siop i brynu rhywbeth i gofio’ch ymweliad.
Ymwelwch â Gerddi Dyffryn fel grŵp a mwynhau gostyngiadau ar ffioedd mynediad, teithiau o’r gerddi Edwardaidd a bwyd blasus yn y caffis.
Dysgwch sut y gallwch gyfrannu yng Ngerddi Dyffryn a chael golwg ar y gwahanol gyfleoedd sydd ar gael.