Skip to content

Gwirfoddoli yng Ngerddi Dyffryn

Gwirfoddolwyr yng Ngerddi Dyffryn, Bro Morgannwg, Cymru
Gwirfoddolwyr yng Ngerddi Dyffryn | © National Trust Images/Arnhel de Serra

Hoffech chi ddysgu sgiliau newydd, cwrdd â phobl newydd a'n helpu i adfywio a gofalu am Erddi Dyffryn? Beth am ystyried ymuno â ni fel gwirfoddolwr?

Ystyried gwirfoddoli? 

Gwirfoddolwyr yw enaid Dyffryn – hebddyn nhw ni fyddai’n bosib i ni gadw’r gerddi mewn cyflwr cystal a helpu ymwelwyr llai symudol i’w mwynhau.  

Byddem wrth ein bodd o’ch gweld chi’n treulio rhywfaint o’ch amser sbâr gyda ni fel y gallwn barhau i ofalu am y tŷ a’r gerddi a chynnig diwrnod allan gwych.  

Ffyrdd o wirfoddoli yn Nyffryn 

Adfywio’r ardd yn Nyffryn 

Mae’r gerddi yn Nyffryn yn destun prosiect uchelgeisiol i’w hadfywio - o’r trist i’r trawiadol, rydym yn arfer y gerddi yn ôl i’w dyluniad gwreiddiol a’u gwir ogoniant. Mae eich angen chi arnom i gyflawni hyn, o wirfoddolwyr codi arian i wirfoddolwyr yr ardd a chroesawyr ystafelloedd, mae digon o ffyrdd o gymryd rhan a helpu Dyffryn i ddod yr ardd Edwardaidd orau yng Nghymru. 

‘Dwi’n dwlu gwirfoddoli yn yr ardd – mae ei gweld hi’n blaguro’n brydferth ar ôl ein holl chwynnu a phlannu yn rhoi ymdeimlad enfawr o foddhad i fi’ 

- Anne, gwirfoddolwr yr ardd yng Ngerddi Dyffryn 

Pam ymuno â ni?  

Mae llawer o resymau dros ymuno â ni; gallai gwirfoddoli fod y penderfyniad gorau a wnaethoch chi erioed.  

  • Dod yn rhan o dîm cyfeillgar ac ymroddedig  

  • Cwrdd â phobl o bob cefndir a gwneud ffrindiau newydd  

  • Defnyddio eich sgiliau presennol a dysgu rhai newydd  

  • Gwella eich CV a datblygu eich gyrfa  

  • Mwynhau’r awyr iach  

  • Dysgu am hanes y lle arbennig hwn. 

Cysylltwch â ni am wirfoddoli yng Ngerddi Dyffryn 

Mae llawer o wahanol rolau ar gael yng Ngerddi Dyffryn – mae’r rolau gwag bob amser yn newid felly cadwch olwg gan ddefnyddio’r opsiwn chwilio ymhellach i lawr y dudalen. 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

South Lawn with a lone swan on the fountain pool, winter, Dyffryn Gardens, Vale of Glamorgan in the very early morning.
Erthygl
Erthygl

Y gerddi yn Nyffryn 

Darganfyddwch erddi 55 erw Dyffryn, gan gynnwys yr ardd goed, planhigion trofannol y tŷ gwydr, Gerddi’r Gegin a’r ardal chwarae wyllt.

Gwedd Ogleddol y tŷ yn Nhŷ a Gerddi Dyffryn, Bro Morgannwg, Cymru
Erthygl
Erthygl

Hanes Dyffryn 

Adeiladodd John Cory y tŷ a’r gerddi yn Nyffryn gyda’r cyfoeth a enillodd drwy ei orchestion yn y diwydiant glo.

Caffi’r Ardd, Gerddi Dyffryn, Bro Morgannwg
Erthygl
Erthygl

Bwyta a siopa yng Ngerddi Dyffryn 

Mwynhewch brydau i dwymo’r galon neu snac ysgafn yn y caffi, gyda danteithion blasus yn goron ar eich ymweliad. A chofiwch alw i mewn i’r siop i brynu rhywbeth i gofio’ch ymweliad.

Grŵp o ymwelwyr ar daith o’r ardd yn y Cwrt Palmantog yng Ngerddi Dyffryn, Bro Morgannwg, Cymru
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Gerddi Dyffryn gyda’ch grŵp 

Ymwelwch â Gerddi Dyffryn fel grŵp a mwynhau gostyngiadau ar ffioedd mynediad, teithiau o’r gerddi Edwardaidd a bwyd blasus yn y caffis.