Skip to content

Nadolig yng Nghastell y Waun

Cwpl yn edmygu‘r salŵn sydd wedi’i addurno ar gyfer y Nadolig yng Nghastell y Waun
Cwpl yn edmygu‘r salŵn sydd wedi’i addurno ar gyfer y Nadolig yng Nghastell y Waun | © National Trust Images/Paul Harris

Beth am ymgolli mewn profiad hwyliog a llawn hud yn Nadolig hwn yng Nghastell y Waun? Dewch i ddarganfod ceidwaid ffyddlon y gaer wrth iddynt warchod y trysorau lu a gedwir oddi mewn i waliau’r Castell. Archwiliwch yr Ystafelloedd Swyddogol hardd a myfyriwch ar yr hyn a drysorir fwyaf gennych chi adeg y Nadolig. Ewch i weld neuadd lawn awyrgylch y gweision a’r morwynion ac i archwilio Tŵr Adam. Beth am greu atgofion parhaol yn ein ‘gorsafoedd hun-lun’ – dyma safleoedd perffaith i gofnodi adegau cofiadwy yn ein castell ysblennydd. Yna, ewch i gael diod Nadoligaidd yn ein Hystafell De ac ewch am dro gaeafol i’r awyr agored; casglwch daflen weithgareddau yn y Swyddfa Docynnau a chwiliwch am y sêr sy’n cuddio o amgylch y gerddi barugog.

Amseroedd agor dros gyfnod y Nadolig

  • 30 Tachwedd – 5 Ionawr – ar agor yn ddyddiol 10am-4pm. Bydd y tŷ ar agor 11am-4pm, gyda’r mynediad olaf am 3.30pm

  • Ar gau 25 a 26 Rhagfyr a 1 Ionawr

  • Dysgwch ragor am ein hamseroedd agor

Nadolig yn y tŷ

Camwch i fyd llawn hud y Nadolig hwn yng Nghastell y Waun. Ar y cyd â Lazerian (Liam Hopkins), yr artist o Fanceinion, bydd draig ffyrnig yn dychwelyd, y tro hwn gyda chyfeillion newydd, i helpu i amddiffyn trysorau’r castell.

Wrth ichi archwilio’r Ystafelloedd Swyddogol, camwch i Neuadd Cromwell i gael cipolwg ar ddraig fawr yn amddiffyn ei darnau aur. Cewch weld bleiddiaid mawreddog wrth iddynt browla’r Galeri Hir, wedi’u hysbrydoli gan arfbais y teulu Myddelton. Mae casgliadau toreithiog y castell yn gefndir perffaith i fyfyrio ar ba mor bwysig yw diogelu’r pethau a drysorwn, gan eich gwahodd i feddwl beth sydd bwysicaf i chi dros dymor y Nadolig. Cewch weld yr holl greaduriaid gwych hyn a’u trysorau wrth ichi grwydro trwy’r castell y Nadolig hwn.

Y grisiau mawr wedi’i addurno ar gyfer y Nadolig yng Nghastell y Waun
Y grisiau mawr wedi’i addurno ar gyfer y Nadolig yng Nghastell y Waun | © National Trust Images/Paul Harris

Hwyl Nadoligaidd teuluol

Groto o chwith

Bob penwythnos y Nadolig hwn, bydd gennym Groto Tu Chwith er budd Banc Bwyd Croesoswallt a’r Gororau. Dewch i weld Siôn Corn 10.30am-3.30pm ac i helpu’r rhai sydd mewn angen trwy gyfrannu eitemau hanfodol. Byddwn yn casglu eitemau bwyd annarfodus gan gynnwys tuniau tomatos, cawl, ffa pob, tuniau cig, te, coffi, sudd a llaeth UHT, yn hwb y ceidwad yn Fferm yr Ystad yn ystod oriau agor arferol.

Dysgwch beth yw anghenion y banc bwyd yma

Brecwast neu swper gyda Siôn Corn

Sglaffiwch frecwast Cymreig blasus yng Nghastell y Waun ar 31 Tachwedd a 1 Rhagfyr, pan fydd gwestai arbennig iawn – sef Siôn Corn – yn ymuno â chi. Beth am ddod draw i wrando ar stori fel rhan o’r bore cofiadwy hwn, pan fydd pob plentyn yn cael anrheg.

Neu beth am ymuno a Siôn Corn fin nos am swper Nadoligaidd ar 7 ac 8 Rhagfyr? Cewch wledda ar ginio Nadolig traddodiadol a phwdin Nadolig, gan fwynhau hud y noson wrth i bob plentyn gael anrheg arbennig.

Cliciwch yma am fanylion ynglŷn â sut i archebu lle, neu i ddysgu mwy am y digwyddiadau Nadolig

Llwybr chwilio am sêr

Beth am fynd ar antur ‘serog’ ar ein llwybr gweld. Ewch i nôl taflen weithgareddau rad ac am ddim o’r Swyddfa Docynnau a chwiliwch am y sêr sy’n cuddio ar wasgar o amgylch ein gerddi barugog.

Cliciwch yma i ddysgu mwy am y digwyddiadau Nadolig

Dewch i greu eich gweithdy ceirw eich hun

Ymunwch â’n Ceidwaid ar 14 Rhagfyr am weithdy crefftau Nadoligaidd. Ewch i hwyl yr ŵyl drwy saernïo carw pren o ddeunyddiau naturiol. Bydd yr holl rannau wedi cael eu torri ymlaen llaw, felly cewch ganolbwyntio ar adeiladu eich creadigaeth unigryw.

Cynhelir sesiynau am 11am, 11.30am a 12pm. Nifer benodol o leoedd sydd ar gael, felly ewch draw i’r swyddfa docynnau ar ôl cyrraedd i sicrhau eich lle. Bydd tocynnau’n cael eu dosbarthu ar sail y cyntaf i’r felin.

Cliciwch yma i ddysgu mwy am y digwyddiadau Nadolig

Golygfa o wyneb gogleddol Castell y Waun ar ddiwrnod rhewllyd yng Nghymru.
Mwynhewch daith gerdded aeafol yng Nghastell y Waun, Wrecsam | © National Trust Images/Andrew Butler

Teithiau cerdded gaeafol

Taith gerdded aeafol ar ystad 480 acer Castell y Waun yw’r cyfle perffaith i arafu a mwynhau adegau syml i’w trysori y Nadolig hwn. Gofynnwn yn garedig i chi gadw cŵn ar dennyn bob amser.

Dysgwch fwy am archwilio’r ystâd yma

Bwyd a diod Nadoligaidd

Os oes awydd bwyd arnoch, camwch i’n hystafell de glyd lle cewch wledd o ddanteithion Nadoligaidd. Cewch fwynhau dewis eang o opsiynau, o brydau ysgafn i ginio Nadolig sylweddol, yn cynnwys dewisiadau figan a llysieuol. Tretiwch eich hun i un o’r ffefrynnau tymhorol, fel mins-pei, siocled poeth a gwin cynnes.

  • Mae’r ystafell de ar agor 10am–4pm.
  • Ar gau 25 and 26 Rhagfyr, 1Ionawr.

Siopa Nadolig hawdd

Chwilio am ysbrydoliaeth ar gyfer anrhegion Nadolig? Dewch heibio ein siop anrhegion ar Fferm yr Ystad, sydd â detholiad hyfryd o anrhegion ac addurniadau. Rhowch anrheg arbennig i’ch anwyliaid neu i chi'ch hun. Mae pob ceiniog sy’n cael ei wario yn ein siop hefyd yn aros yng Nghastell y Waun, gan ein helpu i barhau i ofalu am y lle arbennig hwn i bawb, am byth - diolch am roi sglein ar ein Nadolig ni hefyd.

  • Mae Siop y Fferm ar agor 10am–4pm yn ddyddiol.
  • Ar gau 25 and 26 Rhagfyr, 1Ionawr.
Wyneb y dwyrain a’r tocwaith yw yng Nghastell y Waun, Wrecsam, Cymru

Darganfyddwch fwy yng Nghastell y Waun

Dysgwch pryd mae Castell y Waun ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Ymwelwyr yn yr Ystafell Groeso Las dros y Nadolig yng Nghastell Powis ym Mhowys, Cymru

Y Nadolig yng Nghymru 

P’un a ydych yn chwilio am gestyll sy’n llawn addurniadau addurnedig, lleoedd i gwrdd â Siôn Corn, diwrnod allan mewn marchnad Nadolig neu fwynhau taith gerdded gaeafol ffres, mae gennym ddigonedd o lefydd yng Nghymru i wneud atgofion Nadoligaidd.

Ystâd Castell y Waun, Wrecsam
Erthygl
Erthygl

Ymweld ag ystâd Castell y Waun 

Ewch am dro o gwmpas parcdir 480 erw rhyfeddol Castell y Waun, a darganfod tirwedd sy’n gweithio ac yn llawn o goed hynafol, blodau gwyllt, adar a phryfed.

Christmas fragrance, candles & reed diffusers retail items in the gift shop
Erthygl
Erthygl

Bwyta a siopa yng Nghastell y Waun 

Dewch i ymweld â’n ystafell de a mwynhau cacennau cartref sy’n cael eu pobi’n ddyddiol, gan ddefnyddio’r cynhwysion mwyaf ffres. Neu ewch i’r siop anrhegion sy’n llawn o ddanteithion cartref a chofroddion.

Golygfa o’r Tŷ Hebog ac ymwelwyr yn cerdded drwy’r gerddi yng Nghastell y Waun, Wrecsam
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r ardd yng Nghastell y Waun 

Rhyddhewch eich synhwyrau ac adnewyddu eich ysbryd trwy grwydro’n hamddenol ymysg arogleuon a lliwiau tymhorol y llwyni a blodau prin yn yr ardd bum erw a hanner hyfryd hon.