
Darganfyddwch fwy yng Nghastell y Waun
Dysgwch pryd mae Castell y Waun ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Rhyddhewch eich synhwyrau ac adnewyddu eich ysbryd trwy grwydro’n hamddenol ymysg arogleuon a lliwiau tymhorol y llwyni a blodau prin yn yr ardd bum erw a hanner hyfryd yng Nghastell y Waun.
Mae’r gwanwyn yn amser gwych i ymweld â gardd Castell y Waun wrth i’r blagur ddechrau blodeuo. Mae’r cennin Pedr yn olygfa ysblennydd. Mae’r amrywogaethau’n cynnwys Narcissus cyclamineus a Narcissus ‘King Alfred’. Un o’r lleoedd gorau i’w gweld yw gyferbyn â’r border hir yn y ddôl, a elwir yn ‘Lawnt y Cennin Pedr’. Ond gellir eu gweld hefyd ar hyd y Rhodfa Pisgwydd wrth ymyl cerflun Ercwlff, ac o’r fan hon cewch olygfa wych o’r castell hefyd.
Yn ychwanegol at hyn, mae’r coed yn dechrau blodeuo. Allwch chi ddim peidio â gweld y goeden Prunus Kanzan ‘Cherry Kanzan’ ar y lawnt gyda’i phetalau pinc cain – cyfle dihafal i ffotograffwyr dynnu llun hynod hardd yn heulwen y gwanwyn.
Cadwch olwg am y Clychau Aur sy’n blodeuo’n gynnar yn y gwanwyn, gyda’u blodau melyn llachar. Gallwch hefyd weld amrywiaeth o Rododendronau, Asaleas, magnolias, camelias a Pieris Japonica wrth ichi ymlwybro ar hyd y llwybrau trwy’r ardd 5.5 acer.
Hefyd, mae’r goeden hances boced Davidia Involucrate yn dechrau blodeuo. Daw’r goeden brin hon o Tsieina, ac mae ei phetalau gwyn yn debyg i hancesi poced yn ysgwyd yn yr awel ysgafn. Mae uchafbwyntiau eraill yn cynnwys y goeden lantarn drawiadol o Chile a’r llwyni tân.
Mae hanes hir i erddi Castell y Waun, yn dyddio’n ôl i 1653. Esblygodd y gerddi dros y blynyddoedd gyda chyfraniadau gan lawer gan gynnwys yr arddwraig enwog Norah Lindsay yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif.
Esgeuluswyd y gerddi yn ystod yr Ail Ryfel Byd nes iddynt gael eu hadfer gan yr Arglwyddes Margaret Myddelton ar ei phen ei hun bron iawn, gan greu’r cynllun plannu lliwgar y mae ein tîm ymroddedig o arddwyr a gwirfoddolwyr yn ei gynnal hyd heddiw.
Mae’r border crwm yma â thair ardal dymhorol ac mae’n llawn o lwyni a phlanhigion blodeuog. Plannodd yr Arglwyddes Margaret Myddelton y border ar ôl yr Ail Ryfel Byd fel ffordd o sicrhau lliw ac arogleuon tymhorol gyda chyn lleied o waith cynnal a chadw â phosibl.
Adeiladwyd yn 1854 yn ôl dyluniad gan E.W. Pugin ac roedd tŷ orenwydd o’r 18fed ganrif yn arfer bod ar yr un safle. Yn ystafell haul i gychwyn, ychwanegodd yr Arglwydd Howard de Walden do gwellt, i fod yn gartref i adar ysglyfaethus.
Mae rhododendron diwedd y gwanwyn yn arogli’n rhyfeddol ar ôl cawod ac un o uchafbwyntiau’r haf cynnar yw’r goeden hances gyda’i bractiau gwyn urddasol. Yn ystod yr hydref gallwch weld lliwiau cyfoethog cochlyd trwyddi.
Yn ystod ei waith ar y parcdir yn y 18fed ganrif, ychwanegodd William Emes sawl ‘ha-ha’ i’r golygfeydd fod yn ddirwystr o’r parcdir agored a’r caeau tu hwnt, gan gadw anifeiliaid y parcdir allan. Ceir golygfeydd gwych o’r ha-ha ar waelod yr ardd.
Roedd y Foneddiges Margaret Myddelton yn hoff iawn o rosod - yn enwedig rhai persawrus. Roedd ei hoff amrywiaethau’n cynnwys y Rhosyn CU (pinc golau), y Rhosyn Euraidd (lliw euraidd, llachar) a Rhosyn Elizabeth of Glamis (pinc lliw eog).
Mae gennym lu o rosod o gwmpas yr ardd, o rosod sy’n tyfu’n dal fel Rhosyn ‘Madame D’Arblau’ sydd â blodau pinc golau, yn debyg i garnasiwn, i’r Rhosyn ‘Blanc Double de Coubert’ - amrywiaeth wen sy’n tyfu mewn llwyni, yn ogystal â’r Rhosyn ‘Dathlu Euraidd’ a’r Rhosyn ‘Dathlu’r Jiwbilî’.
Mae’r ardal ffurfiol yma o goed yn agos iawn at y brif ardd ac mae’n cael ei rhannu gan lwybrau a drefnwyd i gynnig llwybrau cerdded hawdd a heddychlon.
Yn cael ei datblygu tu ôl i’r Cyrtiau Sboncen ger y Fferm, mae gennym berllan fach a chlytiau llysiau gydag amrywiaeth o lysiau yn eu tymor a werthir yn y siop.
Rydym yn plannu unrhyw beth o lwyni mawr i’r ardd greigiog leiaf yng Nghastell y Waun. Chwiliwch am y planhigion yma trwy’r tymhorau.
Gyda holl liwiau’r enfys, mae’r mathau mwyaf ‘arboreum’ i'w gweld a llawer o fathau cymysgryw caled.
Math gwahanol o rododendron. Mathau collddail sydd gennym yn bennaf gyda blodau’n llawn aroglau yn wyn, oren a phinc a mathau bythwyrdd o Japan yn yr ardd greigiog gyda blodau pinc yn bennaf.
O’r Narcissus Cyclamineus bychan iawn i’r Narcissus King Alfred â’r blodau mawr. Fe’u gwelwch yn y rhodfa pisgwydd ac ardal y border hir.
Roedd yr Arglwyddes Margaret Myddelton yn hoff iawn o’r gellesg. Mathau glas oedd fwyaf hoff ganddi, sy’n amlwg yn y Border Hir.
Mae Blodau Gwialen yr Angel neu Flodyn yr Hudlath yn nodwedd amlwg o’r ardd o fis Gorffennaf i fis Medi. Mae’r clychau’n amrywio o ran maint o binc ysgafn i biws ac yn plygu dros ddail tebyg i laswellt.
Mathau niferus, y cyfan â’u dail llydan yn tyfu trwy gydol yr haf. Mae ein pridd graeanog lomaidd yn dueddol o atal gwlithod.
Un o sêr yr ardd yn hwyr yn yr haf, sy’n blodeuo am gyfnodau hir yn hwyr yn yr haf ac nid oes angen rhoi offer cynnal i’r rhan fwyaf.
Dysgwch pryd mae Castell y Waun ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Ewch am dro o gwmpas parcdir 480 erw rhyfeddol Castell y Waun, a darganfod tirwedd sy’n gweithio ac yn llawn o goed hynafol, blodau gwyllt, adar a phryfed.
Pan gychwynnwyd adeiladu Castell y Waun yn y 13eg ganrif, ni fwriadwyd iddo fod yn gartref teuluol erioed. Yn hytrach roedd yn un o gadarnleoedd canol oesol y Gororau ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr, a adeiladwyd i gadw’r Cymry dan reolaeth Lloegr.
Mae gan Gastell y Waun sgôr o ddwy bawen. Rydym wrth ein bodd yn croesawu cŵn i Gastell y Waun. Gall yr ystâd 480 erw fod yn lle gwych i grwydro gyda’ch ci beth bynnag yw’r tywydd. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am ble gallwch chi fynd â’ch ci a ble gallwch chi aros i fwynhau pryd blasus.
Dewch i ymweld â’n ystafell de a mwynhau cacennau cartref sy’n cael eu pobi’n ddyddiol, gan ddefnyddio’r cynhwysion mwyaf ffres. Neu ewch i’r siop anrhegion sy’n llawn o ddanteithion cartref a chofroddion.
Ni chynlluniwyd Castell y Waun fel cartref teuluol erioed. Roedd yn un o gadarnleoedd canol oesol y Gororau ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr, a adeiladwyd i gadw’r Cymry dan reolaeth Lloegr.