Darganfyddwch fwy yng Nghastell y Waun
Dysgwch pryd mae Castell y Waun ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mae ystâd Castell y Waun yn cynnwys 480 erw o goetir, caeau a glaswelltir â thenantiaid. Dewch i ddarganfod tirwedd sy’n gweithio ac yn llawn o goed hynafol, blodau gwyllt, adar a phryfed.
Mae’r gaeaf yn amser gwych i grwydro trwy barcdir hardd y Waun. Lapiwch yn gynnes, dewch ag esgidiau cadarn a byddwch yn barod i ddilyn y llwybrau trwy’r coetir a’r parcdir.
Bydd tua dwy erw o eirlysiau yn creu carped gwyn disglair yng Nghoed y Tir Hamdden ym mis Chwefror. Golygfa na ddylech ei cholli. Yn y cyfamser bydd y coed bytholwyrdd a thocwaith yn disgleirio o rew ar y dyddiau oeraf a bydd coesynnau’r corwiail lliwgar yn bywiogi’r olygfa aeafol.
Chwiliwch am y clystyrau o flodau mahonia a blodau llawn aroglau corynnaidd yr hamamelis (collen ystwyth) sy’n blodeuo’n goch, oren a melyn, gan ychwanegu lliw i’r ystâd a’r ardd.
Fe welwch heidiau o asgell goch a chaseg y ddrycin wrth iddynt gyrraedd yr ystâd i gael gaeaf mwynach. Gallwch hefyd weld pinc y mynydd yn eu gwisg aeafol ar yr adeg hon o’r flwyddyn.
Mae’r ystâd yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy (AHNE) ac mae wedi ei dynodi yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).
Mae coedwig hela wedi bod yma tra bu yma gastell, gan gynnwys parc ceirw canol oesol anferth. Ar ei bri yn yr 17eg ganrif, roedd yr ystâd yn 10,000 o erwau eang, a gafodd eu tirlunio yn raddol gan genedlaethau olynol o’r teulu Myddelton, gan gyrraedd uchafbwynt gyda chynllun mawr William Emes yn 1764.
Creodd Emes ffosydd neu ‘ha-ha’ i atal y gyrr o 500 o geirw rhag dod i’r gerddi ffurfiol heb fod angen ffensys a fyddai’n torri ar draws yr olygfa banoramig o gefn gwlad o amgylch y Castell.
Plannodd lawntiau anferth hefyd a miloedd o goed llydanddail. Yn 1767 caeodd Emes yr holl ffyrdd oedd yn croesi’r parcdir, gan gynnwys hen lwybr porthmyn a ychwanegodd 11 milltir at daith ffermwyr lleol wrth iddynt yrru gwartheg i Wrecsam.
Heddiw, mae 70 y cant o’r coetir yn goed derw, ac rydym yn gofalu am lawer sy’n gannoedd o flynyddoedd oed. Rydym hefyd yn rhan o’r Fenter Coed Hynafol, a byddwn yn plannu 1500 o goed newydd, i gymryd lle’r coed hynny sydd wedi eu colli o gynllun gwreiddiol Emes.
Yn torri ar draws yr ystâd mae rhan o’r clawdd pridd amddiffynnol rhyfeddol o’r 8fed ganrif, Clawdd Offa, a adeiladwyd gan y Brenin Offa o Fersia i nodi’r ffin hynafol gyda theyrnas Powys.
Wrth yrru i’r maes parcio yn y Waun byddwch yn croesi Clawdd Offa, er na fyddwch yn sylweddoli hynny efallai gan i William Emes wastatáu rhannau mawr ohono fel rhan o’i waith digyfaddawd ar y parcdir.
Y giatiau Baróc addurnedig yw’r peth cyntaf y bydd ymwelwyr yn ei weld fel arfer wrth gyrraedd Castell y Waun. Fe’u comisiynwyd gan Syr Richard Myddelton yn 1712, ac fe’u gwnaed gan ddau of lleol, Robert a John Davies gan ddefnyddio haearn o efail y teulu Myddelton ym Mhont-y-blew.
Safai’r giatiau’n wreiddiol yn agos at wyneb gogleddol y castell, ond symudodd William Emes nhw yn 1770 i’r mynediad i ymwelwyr presennol, ac fe’u symudwyd eto yn 1888 i’w lleoliad presennol pan gyrhaeddodd y rheilffordd.
Mae’r ystâd yn llawn o fioamrywiaeth, ac mae’r 650 o goed hynafol ar yr ystâd yn ecosystem bwysig ynddynt eu hunain. Maent yn cynnal rhywogaethau o gen, llysiau’r afu a mwsogl, yn cynnig mannau clwydo a bridio i rywogaethau o ystlumod; a safleoedd nythu i adar, gan gynnwys y dringwr bach a’r gnocell fraith fwyaf.
Mae’r coed marw, boed yn dal i sefyll neu wedi syrthio yn creu cynefin i’r ffwng a’r infertebratau saprosylig. Ar yr ystâd, cofnodwyd dros 200 rhywogaeth o’r infertebratau gan gynnwys 20 o rywogaethau Llyfr Data Coch a 97 rhywogaeth Brin yn Genedlaethol. Mae’r infertebratau yma yn ffynhonnell fwyd hanfodol i lawer o rywogaethau o adar a mamaliaid bach.
Mae’r parc blaen ar yr ystâd yn safle pwysig iawn ar gyfer y boblogaeth o ffwng glaswelltir, gyda chyfanswm o 32 o wahanol rywogaethau wedi eu cofnodi. Mae’r grŵp hwn o ffwng yn cynnwys rhywogaethau o’r dagell binc, pastynau’r tylwyth teg, tafodau’r ddaear, a’r capiau cwyr lliwgar, y mae 15 rhywogaeth wahanol ohonynt wedi eu cofnodi.
Cofnodwyd saith rhywogaeth wahanol o ystlumod ar yr ystâd, a’r rhywogaeth fwyaf nodedig yw’r ystlum trwyn pedol lleiaf prin.
Mae coetir yr ystâd a’i hagosrwydd at Afon Ceiriog yn cynnig y cynefin perffaith i chwilio am bryfetach, tra bod y gofod yn nho’r castell yn safle pwysig i glwydo yn yr haf. Dangosodd yr arolwg fwyaf diweddar bod y boblogaeth hon yn cynyddu’n raddol.
Mae’r ystâd yn lle gwych i weld amrywiaeth o rywogaethau o adar trwy’r flwyddyn. Daw’r gwanwyn a nifer fawr o rywogaethau mudol, gyda’r telor penddu, y siff-saff, y gwybedog brith a’r tingoch i gyd yn nythu yn y coetir.
Ar y parcdir, mae Bwncathod yn olygfa gyffredin ac yn ystod misoedd yr hydref, gellir gweld heidiau rhyfeddol o frych y coed, caseg y ddrycin a choch dan adain.
Mae Castell y Waun yn dal yn ystâd sy’n gweithio gyda thenantiaid yn ffermio’r tir.
Mae’r nifer o ddefaid sy’n pori’r parc blaen wedi ei leihau i gynorthwyo’r boblogaeth o ffwng glaswelltir.
Dysgwch pryd mae Castell y Waun ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Rhyddhewch eich synhwyrau ac adnewyddu eich ysbryd trwy grwydro’n hamddenol ymysg arogleuon a lliwiau tymhorol y llwyni a blodau prin yn yr ardd bum erw a hanner hyfryd hon.
Pan gychwynnwyd adeiladu Castell y Waun yn y 13eg ganrif, ni fwriadwyd iddo fod yn gartref teuluol erioed. Yn hytrach roedd yn un o gadarnleoedd canol oesol y Gororau ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr, a adeiladwyd i gadw’r Cymry dan reolaeth Lloegr.
Mae gan Gastell y Waun sgôr o ddwy bawen. Rydym wrth ein bodd yn croesawu cŵn i Gastell y Waun. Gall yr ystâd 480 erw fod yn lle gwych i grwydro gyda’ch ci beth bynnag yw’r tywydd. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am ble gallwch chi fynd â’ch ci a ble gallwch chi aros i fwynhau pryd blasus.
Dewch i ymweld â’n ystafell de a mwynhau cacennau cartref sy’n cael eu pobi’n ddyddiol, gan ddefnyddio’r cynhwysion mwyaf ffres. Neu ewch i’r siop anrhegion sy’n llawn o ddanteithion cartref a chofroddion.