Darganfyddwch fwy yng Nghastell y Waun
Dysgwch pryd mae Castell y Waun ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Rydym wrth ein bodd yn croesawu cŵn i ystâd Castell y Waun, sy’n 480 erw, ac mae traddodiad hir o gŵn ar yr ystâd, yr holl ffordd yn ôl i’r canol oesoedd pan oedd y teulu yn arfer cadw bleiddgwn dan y bont wrth y fynedfa. Edrychwch ble y gallwch fynd â’ch ci am dro yn ystod eich ymweliad.
Mae Castell y Waun wedi cael sgôr ôl pawen o ddwy bawen. Mae gennym bowlenni dŵr, biniau cŵn a theithiau cerdded cyfeillgar i gŵn. Byddwch yn gallu mynd â’ch ci i rai ardaloedd, ond nid i bob man. Rhaid cadw cŵn ar dennyn bob amser ym mhob rhan o ystâd Castell y Waun.
Darllenwch ymlaen i ddarganfod yn union lle gallwch chi fynd â’ch ci.
Mae tri phrif lwybr wedi eu marcio ar draws ystâd Castell y Waun, felly mae cyfleoedd gwych i gerdded ar unrhyw amser o’r flwyddyn.
Rhaid cadw cŵn ar dennyn bob amser ym mhob rhan o ystâd Castell y Waun.
Llwybr cylchol yw’r Llwybr Coetir sy’n mynd trwy goed ac ar draws parcdir a chaeau fydd yn cymryd tua 45-60 munud. Dilynwch y marcwyr glas o Fanc y Stabl.
Mae’r llwybr Hen Golff yn cymryd tua 30-45 munud ac mae’n eich arwain trwy gaeau a pharcdir i’r bryniau tu ôl i’r castell, i gael yr olygfa orau o Gastell y Waun a’i dirwedd. Dilynwch y marcwyr coch o’r maes parcio.
Mae taith Clawdd Offa yn eich arwain ychydig oddi ar ystâd y Waun. Llwybr caniataol yw hwn, sydd ar agor o fis Ebrill i fis Medi. Chwiliwch am rannau o Heneb Restredig Clawdd Offa o’r 8fed ganrif a safle rhan o frwydr Crogen yn 1165, yn ogystal â’r Dderwen Hynafol wrth Adwy’r Meirw. Dilynwch y marcwyr oren.
Rydym yn teimlo’n gyffrous cael cyhoeddi ein bod yn cymryd rhan yn rhaglen pasport cŵn newydd sbon yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Bob tro rydych chi a'ch cyfaill pedair coes yn ymweld â lleoliad Ymddiriedolaeth Genedlaethol newydd byddwch yn cael stamp ar gyfer eich pasport ci. Os ydych yn casglu chwe stamp bydd eich ci yn cael paced o ddanteithion naturiol am ddim. Ar ôl casglu deuddeg stamp, byddant yn cael snŵd llawn steil.
Dysgwch fwy am lefydd eraill sy'n cymryd rhan yma: https://bit.ly/3MAQ7q5
Mae croeso i gŵn cymorth ddod gyda’u perchennog i unrhyw le yn y gerddi neu’r castell. Cofiwch ofyn i aelod o’r tîm os bydd arnoch angen unrhyw help.
Mae biniau baw cŵn ar gael yn y maes parcio, ar hyd y Llwybr Coetir ac wrth ymyl Gatiau Davies. Gofalwch eich bod yn clirio ar ôl eich ci a defnyddio’r biniau sydd ar gael. Gall baw cŵn sy’n cael ei adael mewn bagiau plastig fod yn niweidiol i anifeiliaid eraill.
Mae diod o ddŵr ffres i’ch ci ei fwynhau wrth y Fferm ac i fyny wrth y castell.
Fel rhan o’n gwaith cadwraeth mae anifeiliaid yn pori’r caeau, felly cadwch eich cŵn ar dennyn a dan reolaeth, yn arbennig trwy gaeau o ddefaid. Os byddwch yn croesi cae â gwartheg llawn dwf ynddo, tynnwch y ci oddi ar y tennyn.
Mae croeso cynnes i gŵn cymorth y tu mewn i'r castell a’r caffi. Mae croeso i bob ci arall yn ardal eistedd ychwanegol yr ystafell de ac yn yr ardal eistedd awyr agored yn yr iard. Yma, gallwch ymlacio â’ch ffrindiau blewog wrth fwynhau lluniaeth.
Cŵn cymorth yn unig yn y gerddi a Choedwig y Parc Difyrrwch.
Mae dwy brif ardal chwarae yng Nghastell y Waun a rhaid i gŵn gael eu cadw ar dennyn o gwmpas yr ardaloedd hyn. Byddwch yn arbennig o wyliadwrus a gofalu na fydd y cŵn yn bawa a sicrhau bod y mannau yma yn cael eu cadw’n lân i bawb eu mwynhau.
Beth am rannu unrhyw luniau o'ch diwrnod ar Facebook, X neu Instagram? Peidiwch ag anghofio tagio ni @chirkcastlent a #ChirkCastleNT
Dysgwch pryd mae Castell y Waun ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Rydym wedi ffurfio partneriaeth â’r gwneuthurwr bwyd anifeiliaid anwes naturiol, Forthglade fel y gallwch chi a’ch ci gael mwy fyth allan o’r lleoedd arbennig sydd dan ein gofal.
Ewch am dro o gwmpas parcdir 480 erw rhyfeddol Castell y Waun, a darganfod tirwedd sy’n gweithio ac yn llawn o goed hynafol, blodau gwyllt, adar a phryfed.
Rhyddhewch eich synhwyrau ac adnewyddu eich ysbryd trwy grwydro’n hamddenol ymysg arogleuon a lliwiau tymhorol y llwyni a blodau prin yn yr ardd bum erw a hanner hyfryd hon.
Dewch i ymweld â’n ystafell de a mwynhau cacennau cartref sy’n cael eu pobi’n ddyddiol, gan ddefnyddio’r cynhwysion mwyaf ffres. Neu ewch i’r siop anrhegion sy’n llawn o ddanteithion cartref a chofroddion.
Pan gychwynnwyd adeiladu Castell y Waun yn y 13eg ganrif, ni fwriadwyd iddo fod yn gartref teuluol erioed. Yn hytrach roedd yn un o gadarnleoedd canol oesol y Gororau ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr, a adeiladwyd i gadw’r Cymry dan reolaeth Lloegr.