Adeiladwyd i amddiffyn
Yn 1282 pan orchfygodd y Brenin o Loegr, Edward I, dywysog Cymru, Llywelyn ap Gruffydd (a elwir yn Llywelyn y Llyw Olaf hefyd, ac ŵyr i Llywelyn Fawr), sefydlodd Arglwyddiaeth y Mers dan yr enw Chirklands.
Rhoddwyd y tiroedd yma i Roger Mortimer i gydnabod ei wasanaeth yn rhyfeloedd y Brenin Edward yn erbyn y Cymry a’r Albanwyr ac adeiladodd Gastell y Waun yn hwyr yn y 13eg ganrif.
Amddiffynfeydd cadarn
Dewiswyd lleoliad y castell yn ofalus iawn er mwyn gwneud y mwyaf o’i safle amddiffynnol, ar ddarn o graig ym mhen Dyffryn Ceiriog gan reoli Dyffryn Dyfrdwy gerllaw a’r fasnach dros y ffin.
Roedd yn gastell mor bwysig fel bod y Brenin Edward I wedi ymweld yn bersonol tra’r oedd yn cael ei adeiladu.
Ffefryn gan y teulu brenhinol
Mae’n debyg mai’r pensaer oedd yn goruchwylio’r gwaith oedd Meistr James o St. George, pensaer o Savoy yr oedd Edward I yn hoff iawn ohono, ac y dywedir iddo weithio ar lawer o gestyll eraill, gan gynnwys Caernarfon, Biwmares a Harlech. Yn ogystal ag awgrymu’r prif adeiladydd, efallai bod y Brenin hefyd wedi benthyca arian i Roger i dalu am adeiladu’r castell.
Symbol o dra-arglwyddiaeth
Mae’n debygol iawn y byddai’r castell wedi ei wyngalchu fel y byddai’n amlwg iawn yn y dirwedd ddi-goed, yn arbennig wrth edrych o Gymru. Â’i dyrrau yn cynnig lleoliad i gadw golwg strategol ar fryniau a dyffrynnoedd Cymru, roedd y castell yn symbol o rym a chryfder Lloegr, gan dra-arglwyddiaethu ar y tir o’i gwmpas.
Adeilad amddiffynnol
Mae ffynnon y cwrt yn 28.5 metr o ddyfnder ond dim ond 300mm o ddŵr sydd yn ei gwaelod, ac felly dim ond garsiwn o tua 20-30 o ddynion y gallai’r castell eu cynnal. Ond, nid oedd y diffyg pobl yn broblem oherwydd y dulliau amddiffyn clyfar.
'Parth lladd'
Roedd gan y castell y dulliau amddiffyn mwyaf diweddar yn ei gyfnod. Roedd tyrrau crwn ‘drwm’ yn rhoi maes saethu eang i saethyddion oedd yn creu ‘parth lladd’ lle’r oedd maes y saethau yn gorgyffwrdd. Mae’r tyrrau’n lletach tua’u gwaelodion, a gyda’u waliau 5 metr o drwch, roeddent wedi eu dylunio yn fwriadol i ledu tuag allan - gan ei gwneud yn anodd i dyrrau gwarchae a hwrddbeiriannau gael eu gosod yn agos atynt.
Rhybudd i ymosodwyr
Yn wreiddiol roedd pedwar tŵr, un ymhob cornel a llenfur, gyda hanner tyrrau yng nghanol pob ochr. Roedd ganddynt gynteddau i’w cysylltu ar y lloriau uchaf yn unig, oedd yn golygu y byddai’n rhaid i ymosodwyr ymladd a chymryd pob tŵr yn unigol.
Ond, gyda mannau i osod baricedau a thyllau llofruddio (llawer ohonynt wedi eu cuddio’n gyfrwys) oedd yn galluogi’r dynion y tu mewn i ollwng cerrig neu saethau i lawr ar yr ymosodwyr syn, byddai’r frwydr i gyrraedd pen y tyrrau wedi bod yn anodd ac angheuol.