Skip to content

Casgliad Castell y Waun

Golwg y tu mewn i Gabinet y Waun, a wnaed o eboni â phatrymau o gragen crwban wedi eu gosod ynddo, y tu mewn iddo mae mowntiau arian gyda phaentiadau olew ar gopr a wnaeth tua 1640-50, a welir yng Nghastell y Waun.
Cabinet y Waun yng Nghastell y Waun | © National Trust / Susanne Gronnow

Ar ôl i deulu fyw yn yr un lle am 400 mlynedd maen nhw’n crynhoi casgliad amrywiol o gelfyddyd, dodrefn ac eitemau difyr.

Eitemau o’r casgliad i’w gweld yng Nghastell y Waun

Dyma ychydig o’r trysorau sydd yn cael eu cadw ac yn cael gofal gan y tîm yng Nghastell y Waun.

Cabinet y Brenin

Yn ôl traddodiad fe’i rhoddwyd i Syr Thomas Myddelton II yn 1661 gan Siarl II, i ddiolch iddo am ei ran wrth Adfer y frenhiniaeth. Gwnaed y cabinet o eboni â phatrymau o gragen crwban wedi eu gosod ynddo, y tu mewn iddo mae mowntiau arian gyda phaentiadau olew ar gopr ac mae’n perthyn i’r Ysgol Ffleminaidd, 17eg ganrif, tua 1640-50.

Achres Teulu Myddelton

Mae’r sgrôl ryfeddol 35 troedfedd hon yn dangos achres y teulu Myddelton o 1670 yn ôl trwy linach y tywysogion Cymreig a brenhinoedd cynnar Lloegr. Fe’i comisiynwyd tua 1660 i nodi’r farwniaeth a roddwyd yr adeg honno gan y Brenin Siarl II.

Y Gist Japaneaidd yn aros i gael ei hadfer yng Nghastell y Waun, Wrecsam, Cymru
Y Gist Japaneaidd yn aros i gael ei hadfer yng Nghastell y Waun | © National Trust Images/Paul Highnam

Y Gist Shagreen

Cist Japaneaidd o tua 1600, gyda chaead crwm mewn shagreen (croen morgath) â phaneli o lacer gyda phatrwm o gregynnen wedi ei osod ynddo. Mae’r paneli’n darlunio anifeiliaid, ffrwythau, adar, coed, blodau a thai. Mae clasbiau a chlo copr addurnedig ar y gist a saif ar stand Seisnig.

Credir mai Syr Thomas Myddelton I a gafodd y gist, dyn a wnaeth ei ffortiwn fel masnachwr ac anturiaethwr ac un o sylfaenwyr yr ‘East India Company’.

Y Beibl Bach

Yr eitem bwysicaf yn llyfrgell Castell y Waun yw copi Syr Thomas Myddelton o’r Beibl Bach. Talwyd yn rhannol am argraffu’r argraffiad Cymraeg poblogaidd hwn o’r Beibl, fersiwn maint poced a gyhoeddwyd yn 1630, gan Syr Thomas.

Cymraeg ysgrifenedig

Oherwydd ei faint a’i fod mor fforddiadwy, rhoddir clod iddo am helpu i gadw’r iaith Gymraeg yn fyw gan ei fod wedi dod â’r Gymraeg ysgrifenedig i filoedd o gartrefi cyffredin Cymru.

Mae llawer mwy o drysorau Castell y Waun i’w gweld ar y safle casgliadau. Pam nad ewch i ymchwilio ymhellach a dysgu rhagor am yr eitemau y mae ein tîm yn gofalu amdanynt.

Golwg y tu mewn i Gabinet y Waun, a wnaed o eboni â phatrymau o gragen crwban wedi eu gosod ynddo, y tu mewn iddo mae mowntiau arian gyda phaentiadau olew ar gopr a wnaeth tua 1640-50, a welir yng Nghastell y Waun.

Casgliadau Castell y Waun

Darganfyddwch y gwrthrychau a’r gwaith celf rydym yn gofalu amdanynt yng Nghastell y Waun ar wefan Casgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Golygfa o Neuadd Cromwell yng Nghastell y Waun, yn dangos y lle tân, bwrdd a chadair.
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Chastell y Waun 

Pan gychwynnwyd adeiladu Castell y Waun yn y 13eg ganrif, ni fwriadwyd iddo fod yn gartref teuluol erioed. Yn hytrach roedd yn un o gadarnleoedd canol oesol y Gororau ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr, a adeiladwyd i gadw’r Cymry dan reolaeth Lloegr.

Cornel ogledd orllewinol Castell y Waun, Wrecsam
Erthygl
Erthygl

Hanes Castell y Waun 

Ni chynlluniwyd Castell y Waun fel cartref teuluol erioed. Roedd yn un o gadarnleoedd canol oesol y Gororau ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr, a adeiladwyd i gadw’r Cymry dan reolaeth Lloegr.

Christmas fragrance, candles & reed diffusers retail items in the gift shop
Erthygl
Erthygl

Bwyta a siopa yng Nghastell y Waun 

Dewch i ymweld â’n ystafell de a mwynhau cacennau cartref sy’n cael eu pobi’n ddyddiol, gan ddefnyddio’r cynhwysion mwyaf ffres. Neu ewch i’r siop anrhegion sy’n llawn o ddanteithion cartref a chofroddion.

Golygfa o’r Tŷ Hebog ac ymwelwyr yn cerdded drwy’r gerddi yng Nghastell y Waun, Wrecsam
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r ardd yng Nghastell y Waun 

Rhyddhewch eich synhwyrau ac adnewyddu eich ysbryd trwy grwydro’n hamddenol ymysg arogleuon a lliwiau tymhorol y llwyni a blodau prin yn yr ardd bum erw a hanner hyfryd hon.

Ystâd Castell y Waun, Wrecsam
Erthygl
Erthygl

Ymweld ag ystâd Castell y Waun 

Ewch am dro o gwmpas parcdir 480 erw rhyfeddol Castell y Waun, a darganfod tirwedd sy’n gweithio ac yn llawn o goed hynafol, blodau gwyllt, adar a phryfed.