Dewch i ddarganfod Cymru
Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.
Dathlwch dymor yr ŵyl yng Nghastell a Gardd Powis gydag amrywiaeth gyfoethog o ddigwyddiadau hudolus ar gyfer pob oedran. Crwydrwch drwy Nadolig Dickensaidd wedi’i ysbrydoli gan A Christmas Carol, lle byddwch chi’n teimlo eich bod chi’n cael eich cludo i fyd o swyn Fictorianaidd. Mwynhewch ysbryd y Nadolig gydag ymddangosiadau arbennig gan Siôn Corn, yn barod i ddod â llawenydd i blant a theuluoedd. Gyda goleuadau disglair, addurniadau Nadoligaidd, a gweithgareddau tymhorol drwy’r lle, mae Castell Powis yn addo profiad Nadolig cofiadwy i bawb.
Dewch i weld coed Nadolig ysblennydd, lleoedd tân Nadoligaidd a goleuadau godidog yn trawsnewid y castell sydd o’r 13eg ganrif yn brofiad hudolus. Wedi’u hysbrydoli gan y trysorau sy’n bodoli oddi mewn, bydd pob Ystafell Swyddogol yn eich cludo chi i ran wahanol o’r byd. Fenisaidd, Tsieineaidd, Elizabethaidd – mae rhywbeth arbennig i’w ddarganfod ym mhob cwr o’r castell y Nadolig hwn.
Camwch i fyd o ryfeddod Nadoligaidd a dathlu’r Nadolig mewn dull Dickensaidd! O 30 Tachwedd tan 5 Ionawr, bydd llawr cyntaf y castell yn cael ei drawsnewid yn fyd hudolus Fictoraidd, wedi ei ysbrydoli gan glasur Charles Dickens, A Christmas Carol. Ymdrochwch yng ngolygfeydd, seiniau a thraddodiadau Nadolig yr 19eg ganrif, wrth i fflicrian golau’r gannwyll, garlantau bytholwyrdd, a golygfeydd Nadolig hiraethus fynd â chi yn ôl mewn amser.
Wrth i chi grwydro o gwmpas y cynteddau ac ystafelloedd sydd wedi eu haddurno mor brydferth, byddwch yn teimlo fel eich bod wedi camu i mewn i Nadolig Fictoraidd twymgalon.
Gallwch brynu tocynnau ar gyfer y Nadolig Dickensaidd yn y Dderbynfa Ymwelwyr yn y Maes Parcio, ac maent am ddim i aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Nid oes angen archebu o flaen llaw. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Mae profiad hudolus yn disgwyl ein hymwelwyr iau! Ar ddyddiadau penodol (30 Tachwedd, 1 Rhagfyr, 7 Rhagfyr, 8 Rhagfyr, a 15 Rhagfyr), bydd Siôn Corn yn gwneud ymddangosiad arbennig yng Nghastell Powis ar gyfer brecwast Nadoligaidd. Yn cael ei gynnal yn y caffi a’r llyfrgell hudolus; mae’r bore cartrefol hwn yn rhoi’r cyfle i blant rannu storïau gyda Siôn Corn, mwynhau danteithion brecwast blasus a chreu atgofion Nadoligaidd bythgofiadwy.
Nifer benodol o leoedd sydd ar gael, felly sicrhewch eich bod yn archebu o flaen llaw. Y prisiau yw £20.95 y plentyn (2 oed a hŷn), £5.95 i bob plentyn dan 2 oed, a £16.95 i oedolion. Cliciwch yma i archebu lle!
O’r 13 i’r 23 o Ragfyr, bydd Castell Powis yn goleuo’r tywyllwch mewn arddangosfa ddisglair o oleuadau Nadolig, gan drawsnewid muriau allanol y castell yn fyd hudol gwefreiddiol. Gydag oriau agor estynedig o 4.30pm tan 7pm, gall ymwelwyr brofi’r hud ar ôl iddi dywyllu, wrth i’r goleuadau disglair oleuo pensaernïaeth fawreddog y castell yn erbyn yr awyr aeafol. Nid oes angen archebu lle.
Bydd angen tocyn i gael mynediad i’r cwrt. Bydd tocynnau ar gael o’r Dderbynfa Ymwelwyr yn y maes parcio. Bydd y tâl mynediad yr un fath â’r tâl mynediad arferol, ac am ddim i aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Oriau agor:
Nadolig Dickensaidd:, 30 Tachwedd i 5 Ionawr, 11am i 4pm.
Brecwast gyda Siôn Corn: 30 Tachwedd, 1 Rhagfyr, 7 Rhagfyr, 8 Rhagfyr a 15 Rhagfyr, 8.45am i 10.45am.
Goleuo Nadolig y Cwrt ac Agoriad Hwyr y Nos: 13 i 23 Rhagfyr, 4.30pm i 7pm.
Gwisgwch eich dillad gaeaf a dewch i gael awyr iach gyda thro hamddenol o amgylch yr Ardd Faróc fyd-enwog. Y gaeaf yw’r amser gorau i werthfawrogi prydferthwch pensaernïol yr ardd. Dewch i weld cerfluniau’n disgleirio yn y barrug ar hyd y Terasau Eidalaidd, edmygu gwrychoedd yw bytholwyrdd hynafol yn sefyll yn falch yn haul y gaeaf a cherdded drwy Y Gwyllt lle mae canghennau moel yn datgelu golygfeydd godidog y castell o’r 13eg ganrif.
Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.
Os ydych yn ymweld gyda’ch plant neu wyrion, fe gewch chi ddigon i ddifyrru’r teulu cyfan yng Nghastell Powis a’r Ardd.
Mae gan Gastell a Gardd Powis sgôr o un bawen. Dysgwch ragor am ddod â’ch ci i Gastell a Gardd Powis. Gallwch aros yn y Cwrt i weld y castell a chael diod a thamaid i’w fwyta hefo’ch ci wrth eich ochr. Dysgwch yr ardd 1 Tachwedd - 28 Chwefror.
Yn dyddio’n ôl 300 mlynedd, mae’r ardd o’r safon uchaf yn llawn o hanes. Welwch gymysgedd o derasau dramatig, borderi blodau , tocwaith anhygoel a golygfeydd rhyfeddol.
Mae pob modfedd o Gastell Powis wedi'u haddurno â manylion cywrain, hardd. Wrth i chi grwydro drwy ystafelloedd swyddogol y castell, cewch eich tywys ar daith o’r gorffennol. O Oes Elisabeth drwodd i Oes Edward, gwnewch yn siwr eich bod yn oedi am funud ym mhob ystafell i gymryd y cyfan i mewn.
Ar ôl crwydro’r castell neu deithio trwy’r terasau, dadebrwch gydag un o’r danteithion blasus o Fwyty’r Cwrt, neu ewch ag anrheg adref o’r siop i’ch helpu i gofio diwrnod gwych.