Darganfyddwch fwy yng Nghastell a Gardd Powis
Dysgwch pryd mae Castell a Gardd Powis ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Os ydych yn ymweld gyda’ch plant neu wyrion, fe gewch chi ddigon i ddifyrru’r teulu cyfan yng Nghastell Powis. Crwydrwch ystafelloedd y castell o’r 13eg ganrif neu dilynwch daith yn yr ardd sy’n siŵr o blesio’r rhai bach.
Dyma’r wybodaeth y bydd arnoch ei hangen yn gryno i’ch helpu i gynllunio eich diwrnod yng Nghastell Powis:
O’r 13 i’r 23 o Ragfyr, bydd Castell Powis yn goleuo’r tywyllwch mewn arddangosfa ddisglair o oleuadau Nadolig, gan drawsnewid muriau allanol y castell yn fyd hudol gwefreiddiol. Gydag oriau agor estynedig o 4.30pm tan 7pm, gall ymwelwyr brofi’r hud ar ôl iddi dywyllu, wrth i’r goleuadau disglair oleuo pensaernïaeth fawreddog y castell yn erbyn yr awyr aeafol. Nid oes angen archebu lle.
Bydd angen tocyn i gael mynediad i’r cwrt. Bydd tocynnau ar gael o’r Dderbynfa Ymwelwyr yn y maes parcio. Bydd y tâl mynediad yr un fath â’r tâl mynediad arferol, ac am ddim i aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Camwch i fyd o ryfeddod Nadoligaidd a dathlu’r Nadolig mewn dull Dickensaidd! O 30 Tachwedd tan 5 Ionawr, bydd llawr cyntaf y castell yn cael ei drawsnewid yn fyd hudolus Fictoraidd, wedi ei ysbrydoli gan glasur Charles Dickens, A Christmas Carol. Ymdrochwch yng ngolygfeydd, seiniau a thraddodiadau Nadolig yr 19eg ganrif, wrth i fflicrian golau’r gannwyll, garlantau bytholwyrdd, a golygfeydd Nadolig hiraethus fynd â chi yn ôl mewn amser.
Wrth i chi grwydro o gwmpas y cynteddau ac ystafelloedd sydd wedi eu haddurno mor brydferth, byddwch yn teimlo fel eich bod wedi camu i mewn i Nadolig Fictoraidd twymgalon.
Gallwch brynu tocynnau ar gyfer y Nadolig Dickensaidd yn y Dderbynfa Ymwelwyr yn y Maes Parcio, ac maent am ddim i aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Nid oes angen archebu o flaen llaw. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Gwisgwch eich dillad gaeaf a dewch i gael awyr iach gyda thro hamddenol o amgylch yr Ardd Faróc fyd-enwog. Y gaeaf yw’r amser gorau i werthfawrogi prydferthwch pensaernïol yr ardd. Dewch i weld cerfluniau’n disgleirio yn y barrug ar hyd y Terasau Eidalaidd, edmygu gwrychoedd yw bytholwyrdd hynafol yn sefyll yn falch yn haul y gaeaf a cherdded drwy Y Gwyllt lle mae canghennau moel yn datgelu golygfeydd godidog y castell o’r 13eg ganrif.
Mae dwy ddraig gyfeillgar wedi glanio yn y Gwyllt, sef coetir anffurfiol y tu ôl i’r brif ardd. Eisteddwch ar eu cyfrwyau a gadewch i’ch dychymyg eich cludo ar antur anhygoel. Mae’r dreigiau hyfryd hyn yma i bawb eu mwynhau a’u dringo.
Cafodd yr ychwanegiadau newydd hyn at yr ardd eu creu’n grefftus gan Simon O’Rourke, artist enwog o’r ardal.
O 1 Tachwedd hyd 28 Chwefror, gwahoddir ein cyfeillion pedair troed i wisgo eu tennyn a dod â'u hoff fodau dynol gyda nhw am dro bach i archwilio'n gerddi byd-enwog. Mae croeso i gŵn sy'n ymddwyn yn dda i ddod draw ar dennyn byr i archwilio'r tir o amgylch yr ardd.
Os hoffech rannu eich lluniau gyda ni, defnyddiwch yr hashnod #CastellPowis #PowisCastle a thagiwch ni @PowisCastleNT
Dysgwch pryd mae Castell a Gardd Powis ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Awydd rhedeg yn yr awyr iach, dysgu sgiliau newydd a rhoi cynnig ar bethau newydd? Dechreuwch eich antur natur heddiw. (Saesneg yn unig)
Yn dyddio’n ôl 300 mlynedd, mae’r ardd o’r safon uchaf yn llawn o hanes. Welwch gymysgedd o derasau dramatig, borderi blodau , tocwaith anhygoel a golygfeydd rhyfeddol.
Ar ôl crwydro’r castell neu deithio trwy’r terasau, dadebrwch gydag un o’r danteithion blasus o Fwyty’r Cwrt, neu ewch ag anrheg adref o’r siop i’ch helpu i gofio diwrnod gwych.
Dewch i ymweld i ddysgu rhagor am y casgliadau byd-eang ym Mhowis, gan gynnwys cerfluniau, dodrefn a thecstilau o Ewrop, India a Dwyrain Asia.