Skip to content

Ystafelloedd Swyddogol Y Castell

Ymwelwyr yn edrych i fyny ar baentiad nenfwd Lanscron yn yr Ystafell Groeso Las yng Nghastell a Gardd Powis, Powys.
Ymwelwyr yn edrych i fyny ar baentiad nenfwd Lanscron yn yr Ystafell Groeso Las yng Nghastell a Gardd Powis, Powys. | © National Trust Images/Arnhel de Serra

Dros 400 mlynedd, comisiynodd y teulu Herbert artistiaid i dyfu eu casgliad gwych o baentiadau, tapestrïau, dodrefn, a cherfluniau. Mae sut rydych chi'n gweld y castell heddiw yn adlewyrchu eu gweledigaethau a'u huchelgeisiau ar gyfer eu cartref. Mae pob modfedd o Gastell Powis wedi'u haddurno â manylion cywrain, hardd. Wrth i chi grwydro drwy ystafelloedd swyddogol y castell, cewch eich tywys ar daith o’r gorffennol. O Oes Elisabeth drwodd i Oes Edward, gwnewch yn siwr eich bod yn oedi am funud ym mhob ystafell i gymryd y cyfan i mewn.

Yr Ystafell Fwyta Swyddogol

Trawsnewidiwyd y Neuadd Fawr ganoloesol gan bensaer yr Adfywiad Gothig, G.F. Bodley, yn ystafell fwyta arddull Jacobeaidd addurnedig. Yn seiliedig ar ddyluniadau yr oedd George Herbert, 4ydd Iarll Powis, yn eu hedmygu'n fawr yn Amgueddfa Victoria ac Albert.

Yma gallwch weld portreadau teuluol pwysig, gan gynnwys pâr o bortreadau o ddechrau 1600 i ddathlu priodas William Herbert ac Eleanor Percy, Arglwydd 1af ac Arglwyddes Powis.

Yr Ystafell Giniawa Swyddogol gyda’i phaneli pren yng Nghastell Powis, Powys, Cymru, gyda bwrdd bwyta hir a chadeiriau ar garped sy’n goch yn bennaf. Portreadau ar y waliau, a phortread o Violet Lane Fox, Iarlles Powis, gan Ellis Roberts ar y chwith.
Yr Ystafell Fwyta Swyddogol yng Nghastell Powis | © National Trust Images/James Dobson

Yr Ystafell Groeso Las

Wedi'i lleoli ar ben y Grisiau Mawr, ac yn cael ei hadnabod fel y Siambr Fawr neu'r Salŵn yn Oes Elisabeth, byddai gwesteion yn bwyta, yfed ac yn cael eu diddanu yma. Nid yw'r ystafell wedi newid rhyw lawer ers 1705 pan gomisiynwyd Gerard Lanscron i beintio'r nenfwd, ac mae llawer o'i nodweddion addurnol i'w gweld hyd heddiw.

Sylwch ar y ddwy gist ddroriau gwych, a wnaed o baneli o lacr Tsieineaidd gan Pierre Langlois.

Yr Ystafell Groeso Las yng Nghastell Powis
Yr Ystafell Groeso Las yng Nghastell Powis | © National Trust Images/James Dobson

Yr Ystafell Wely Swyddogol

Un o'r ychydig ym Mhrydain i gadw cynllun ffurfiol alcof gwely wedi'i osod y tu ôl i reilen, cynlluniwyd yr ystafell hon ar gyfer ymweliadau brenhinol. Mae ei chymeriad baróc yn awgrymu dyddiad creu yn y 1660au neu'r 1670au, er na arhosodd preswylydd brenhinol ynddi tan yr 20fed ganrif.

Mae'r gwely ei hun wedi'i wneud yn rhannol o fahogani euraidd ac wedi'i orchuddio â melfed sidan rhuddgoch - oedd yn arwydd o gyfoeth a statws. Byddai'r rhai a oedd yn dymuno croesawu preswylwyr brenhinol yn dodrefnu eu cartref â dodrefn wedi'u gorchuddio â dail arian, y gallwch eu gweld o hyd ar y cadeiriau heddiw.

Cynlluniwch eich ymweliad

Mae’r castell ar agor bob dydd rhwng 12pm a 4pm (mynediad olaf 3.30pm). Nodwch: ni chaniatäer ffotograffiaeth yn y castell .

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Golygfa o’r ardd ym mis Gorffennaf tua chefn gwlad yr ardal o gwmpas Castell Powis, Powys, Cymru
Erthygl
Erthygl

Hanes yr ardd yng Nghastell Powis 

Crwydrwch baradwys o ardd yng Nghymru, gyda 300 mlynedd o drawsnewid gardd yn cynnig haenau lawer o hanes i’w harchwilio.

A tray of fruit scones straight from the oven being held by the baker
Erthygl
Erthygl

Bwyta a siopa yng Nghastell Powis 

Ar ôl crwydro’r castell neu deithio trwy’r terasau, dadebrwch gydag un o’r danteithion blasus o Fwyty’r Cwrt, neu ewch ag anrheg adref o’r siop i’ch helpu i gofio diwrnod gwych.

Llun manwl o wyneb bwrdd Pietra Dura (carreg galed) a wnaed tua 1600 sy’n cael ei arddangos yn yr Oriel Hir yng Nghastell Powis yng Nghymru, yn dangos addurniadau carreg o liwiau gwahanol o gwmpas aderyn
Erthygl
Erthygl

Y casgliad yng Nghastell Powis 

Dewch i ymweld i ddysgu rhagor am y casgliadau byd-eang ym Mhowis, gan gynnwys cerfluniau, dodrefn a thecstilau o Ewrop, India a Dwyrain Asia.