Skip to content

Llwybr clywedol yn Dolaucothi

Map y Rhufeiniaid yn Sir Gaerfyrddin
Map y Rhufeiniaid yn Sir Gaerfyrddin | © NT Dolaucothi

Caiff straeon o’r gorffennol pell eu hadfywio trwy’r llwybr sain wyth rhan hwn. Yn ymuno â'r adroddwr mae cyfranwyr arbenigol sy'n rhannu cyfoeth o wybodaeth ynglŷn ag ymdrechion y Rhufeiniaid i ddod o hyd i aur yn Nolaucothi. Gellir mwynhau'r llwybr drwy godau QR yn yr eiddo, neu yma ar y wefan.

Y Pwll Brig Rhufeinig

Y Pwll Brig Rhufeinig.

Mae eich taith o ddarganfod yn cychwyn yma yn yr Iard Mwynglawdd o’r 1930au. Dwy fil o flynyddoedd yn ôl, roedd hwn yn bwll brig Rhufeinig, wedi’i gloddio o lethrau’r bryn i ddod o hyd i aur.

00:00
04:17
Caer Rufeinig Pumsaint

Caer Rufeinig Pumsaint

Mae’r Rhufeiniaid yn dod! Beth oedd rôl y fyddin ym Mhumsaint, a sut effaith gafodd sefydlu caer Rufeinig ar y gymuned leol?

00:00
03:19
Is Adit Rhufeinig

Is Adit Rhufeinig

Crwydro’r Is Adit Rhufeinig gyda’i siâp diddorol a thystiolaeth o gloddio â llaw. Tybed sut oedd bywyd bob dydd y gweithwyr?

00:00
03:12
Uwch Fynedfa Mwynglawdd Rhufeinig

Uwch Fynedfa Mwynglawdd Rhufeinig

Mae’r Uwch Adit Rhufeinig yn fwynglawdd â siâp gwahanol iawn; bron yn hollol sgwâr. Dysgwch fwy am ei ddaeareg, dulliau mwyngloddio'r Rhufeiniaid, a nodweddion difyr eraill o’r gwaith.

00:00
03:14
Allanfa Uchaf Mwynglawdd Rhufeinig

Allanfa Uchaf Mwynglawdd Rhufeinig

Roedd y Rhufeiniaid yn beirianwyr dŵr o fri. Dysgwch sut wnaethon nhw gael gwared ar y dŵr o’r mwynglawdd gydag olwynion a nerth bôn braich.

00:00
03:18
Ffrydiau a Thanciau

Ffrydiau a Thanciau

Clywch ragor am waith arloesol y Rhufeiniaid yn defnyddio pŵer dŵr a’i ddefnydd wrth gloddio am aur yn Nolaucothi.

00:00
03:33
Edrych dros y Pwll Brig

Edrych dros y Pwll Brig

Golwg fanylach ar y pwll brig, ei adeiladu, ei weithlu a'i effaith ar y dirwedd. Darganfyddwch i ble yn y byd aeth aur Dolaucothi.

00:00
03:41
Y Garreg Pumsaint

Y Garreg Pumsaint

Mae chwedl y Garreg Pumsaint yn adrodd hanes seintiau ar daith a dewin dialgar, ond efallai bod esboniad hollol ymarferol i fodolaeth y garreg, gyda’i marciau nodweddiadol.

00:00
02:44